Campfa Ffit Conwy Newydd yn Agor yn Ysgol Y Creuddyn, Bae Penrhyn
Ddydd Llun, 9 Mehefin 2025, agorodd Gwasanaeth Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gampfa Ffit Conwy newydd ei datblygu yng Nghanolfan Hamdden Y Creuddyn.
Dros y pedwar mis diwethaf, mae hen gampfa Ysgol Y Creuddyn o'r 1980au wedi'i thrawsnewid yn gampfa eang â chyfarpar llawn. Mae'n cynnwys ardal cardio gyda'r peiriannau Technogym diweddaraf, ardal ymwrthedd Watson, gan gynnwys y llwyfannau Codi poblogaidd, a thrac synthetig gydag ardal ar gyfer hyfforddiant Hyrox.
Mae prosiect Ymgysylltiad Chwaraeon a Gweithgaredd Iau Ffit Conwy wedi cael £126,000 gan lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU - i gefnogi elfen o’r cyfleuster hwn, mae’r prosiect ehangach yn annog ac yn cefnogi pobl ifanc i gynyddu lefelau gweithgarwch.
Dywedodd Pennaeth Adran Ffit Conwy, Mally Tidswell:
"Mae cael mynediad at y cyllid grant a gweithio ar y cyd ag Ysgol Y Creuddyn wedi ein galluogi i roi bywyd newydd i gampfa’r ysgol. Mae’r cyfleusterau’n cefnogi ein cynllun gwella gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ysbrydoli plant ac oedolion i symud mwy."
"Rydym yn falch iawn o sut mae’r gampfa wedi datblygu; mae ymestyn ein cynnig i selogion ffitrwydd yn ychwanegiad hanfodol i’r gymuned, gan gynnig gwasanaethau hanfodol a hyrwyddo ffordd iach o fyw i bawb."
"Bydd mwy o gyhoeddiadau ar welliannau i wasanaethau Ffit Conwy drwy gydol y flwyddyn hon felly cadwch lygad ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf."
Bydd gan Ysgol y Creuddyn fynediad i’r gampfa o fewn oriau ysgol a bydd tîm Ffit Conwy yn darparu sesiynau cryfder a chyflyru dan arweiniad hyfforddwr i’r disgyblion.
Dywedodd y Pennaeth, Gwenno Mair Davies:
"Rydym yn hynod gyffrous am y gampfa newydd, o'r radd flaenaf yma yn Ysgol y Creuddyn."
"Mae ein staff ymroddedig o fewn Maes Dysgu Iechyd a Lles, yn enwedig o fewn yr adran Addysg Gorfforol, yn gweithio'n ddiflino yn eu hymrwymiad i flaenoriaethu iechyd corfforol a lles meddyliol ac i annog ein myfyrwyr i fyw bywydau egnïol ac iach."
"Bydd y cyfleuster gwych hwn yn cryfhau ac yn gwella'r gwaith gwych maen nhw'n ei wneud a bydd yn sicr o gael effaith gadarnhaol ar yr ysgol a'r gymuned ehangach."
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Roberts, Aelod Cabinet Diwylliant, Llywodraethu a TG:
"Rydym yn falch o ddarparu offer a chyfleusterau o'r radd flaenaf mewn amgylchedd modern. Mae'n atgyfnerthu brand Ffit Conwy ac ymrwymiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i iechyd a lles trigolion."
Mae'r gampfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener: 6am – 8am a 4:30pm – 9.30pm, dydd Sadwrn a dydd Sul: 8am – 12pm. I aelodau Ffit Conwy mae'r gampfa wedi'i chynnwys yn yr aelodaeth ac i rai nad ydynt yn aelodau £8 (consesiynau £5) yr awr.
Gellir archebu sesiynau bob awr drwy Ap Ffit Conwy, ar-lein yn ffitconwy.co.uk neu drwy ffonio 0300 456 95 25.
