Rheolau Aelodaeth Iau Ffit Conwy (11-15 Oed)
Hyfforddiant Grŵp a Defnyddio’r Offer
- Gall uchafswm o 2 aelod iau weithio gyda’i gilydd ar un darn o offer ar unrhyw adeg.
- Caiff grwpiau mwy eu hatgoffa i gadw llygad ar yr amser a dreulir yn defnyddio pob peiriant, er mwyn sicrhau mynediad teg i holl ddefnyddwyr y gampfa.
Mynediad i’r Gampfa ar eu Pen eu Hunain
- Gall aelodau iau ddefnyddio’r gampfa heb fod yng nghwmni oedolyn yn ystod yr oriau canlynol:
Yn ystod yr Wythnos: 7:00 am – 7:00 pm
Ar Benwythnosau: 8:00 am – 2:00 pm
- Y tu hwnt i’r oriau hyn, mae’n rhaid i aelodau iau fod yng nghwmni oedolyn sy’n talu i gael mynediad i’r gampfa.
Goruchwyliaeth ac Arweiniad
- Bydd staff Ffit Conwy yn goruchwylio sesiynau campfa aelodau iau ac yn cynnig cyngor ar dechnegau ffitrwydd a defnydd priodol o offer
- Disgwylir i aelodau iau gadw at y canllawiau hyn, er mwyn gwella eu techneg a chynyddu effeithiolrwydd eu hyfforddiant i’r eithaf.
Iechyd a Diogelwch
- Mae’n rhaid i aelodau iau wisgo dillad campfa priodol fflip-fflops, bŵts na dillad nad ydynt yn addas i’r dderbyniol).
- Caiff aelodau eu hannog i ddod â photel ddŵr a thywel yfed digon o ddŵr ac yn cynnal glanweithdra.
Parchu Amgylchedd y Gampfa
- Dylai pob aelod iau barchu’r offer, y staff, ac aelodau eraill drwy dacluso ar eu holau, dychwelyd offer i’w man gwreiddiol, a glanhau’r peiriannau ar ôl eu defnyddio.
- Ni chaniateir ymddygiad swnllyd nac ymddygiad sy’n tarfu ar eraill.
Caniatâd Rhieni
- Mae’n rhaid i bob aelod iau gael ffurflen ganiatâd gyda llofnod rhiant neu warcheidwad ar eu ffeil cyn bod modd iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gampfa.
Terfynu Aelodaeth
- Gallai methu â chadw at y rheolau hyn arwain at rybuddion, gwaharddiad neu derfynu aelodaeth iau.
Mae’r rheolau hyn ar waith i sicrhau profiad diogel, pleserus a chynhyrchiol i aelodau iau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, siaradwch gydag aelod o staff.