Polisïau Mynediad
SYSTEM MYNEDIAD DIOGEL:
Er mwyn sicrhau eich bod chi’n ddiogel o fewn ein cyfleusterau, rhoddir cerdyn i bob aelod, y mae’n ofynnol i chi ei ddefnyddio i roi gwybod eich bod yn bresennol. Gallwch wneud hyn drwy archebu ymlaen llaw ar ein ap ac yna defnyddio eich cerdyn i fewngofnodi drwy ein giatiau mynediad diogel. Bydd gofyn i bob aelod ddarparu llun ar gyfer eu cyfrif, ac mae modd gwneud hynny yn y dderbynfa.
DIFFIBRILIWR ALLANOL AWTOMATIG (AED)
Mae gennym ddiffibrilwyr allanol awtomatig (AED) yn ein holl gampfeydd fel mater o drefn, er mwyn darparu cymorth achub bywyd brys i’n haelodau a’r cymunedau lleol y maen nhw’n eu gwasanaethu. Mae’r rhain wedi’u gosod yn nerbynfa pob campfa ac maent yn cynnig cyfarwyddiadau llawn ar lafar i arwain unrhyw un trwy sut i’w defnyddio mewn argyfwng. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymgyfarwyddo â lleoliad yr AED.
MYNEDIAD I BOBL ANABL:
Mae ein campfeydd yn darparu mynediad i bobl anabl gan gynnwys lifftiau, rampiau, toiledau ac ystafelloedd newid.
CITIAU CYMORTH CYNTAF:
Rydym yn darparu mynediad hanfodol at becynnau Cymorth Cyntaf ar draws ein holl gampfeydd. Mae gan bob aelod o staff a hyfforddwr gymhwyster cymorth cyntaf, fel bod modd iddynt helpu mewn argyfwng yn ein campfeydd.
MESURAU PELLACH:
Yn ogystal â’r uchod, mae gennym fesurau diogelwch pellach ar waith, gan gynnwys:
- Mae ein haelodau staff wedi derbyn hyfforddiant i ddelio gydag argyfyngau, yn ogystal â hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r peiriant AED.
- Mae cyfleusterau, offer ac asedau yn cael eu cynnal a’u cadw’n rhagweithiol.
- Mae’r offer wedi’u gosod allan yn ddiogel, er mwyn sicrhau bod modd cael mynediad a symud o amgylch y gampfa
- Awyriad awyr iach lle bo modd.
- Gorsaf dŵr yfed am ddim er mwyn sicrhau bod aelodau a staff yn yfed digon o ddŵr.
- Mae asesiadau risg cyffredinol a thân ar waith er mwyn sicrhau bod pawb yn ddiogel yn ein campfeydd.
- Mae digwyddiadau a chofnodion diogelwch wedi’u meincnodi yn erbyn diwydiannau a chymheiriaid eraill, er mwyn sicrhau gwelliant parhaus.
- Archwiliadau diogelwch rheolaidd i nodi a gweithredu gwelliannau.
- Bydd staff yn delio gydag achosion o unigolion yn ceisio mynediad i’r campfeydd heb awdurdod yn sgil eraill.