cy Cartref Archwiliwch ein Cyfleusterau Chwaraeon a ffitrwydd Eich Diogelwch yn ein Cyfleusterau Ffitrwydd
start grid

Eich Diogelwch yn ein Cyfleusterau Ffitrwydd

Rydym eisiau i chi fod yn ddiogel ac yn hyderus wrth ddefnyddio ein campfeydd, a bod yn dawel eich meddwl bod cymorth ar gael bob amser os oes ei angen arnoch chi. Mae gennym staff hyfforddedig ledled ein cyfleusterau, ac mae diffibrilwyr allanol awtomataidd (AED) wedi’u lleoli mewn derbynfeydd, yn ogystal â phecynnau cymorth cyntaf i gynorthwyo mewn argyfwng. Cymerwch olwg ar ein mesurau diogelwch allweddol isod: 

Llun o pwysau

Polisïau Mynediad

Polisïau Mynediad
Llun o campfa

Cod Gwisg y Gampfa

Cod Gwisg y Gampfa
Llun o stwdio arlein

Polisi Epilepsi

Polisi Epilepsi
Llun o Iau

Rheolau Aelodaeth Iau

Rheolau Aelodaeth Iau
Rheolau Dosbarthiadau Ffitrwydd

Rheolau Dosbarthiadau Ffitrwydd

Rheolau Dosbarthiadau Ffitrwydd
Llun o Pwysau

Rheolau’r Gampfa

Rheolau’r Gampfa


Cyngor Cyffredinol

Cyn cael mynediad i’n cyfleusterau, bydd angen i chi gwblhau sesiwn cynefino â’r gampfa. Gellir archebu lle ar un o’r sesiynau hyn ar y safle, trwy ein Canolfan Gyswllt neu ar ein ap.  Bydd y sesiwn yn cynnwys taith fer o amgylch yr adeilad a chyflwyniad ar sut i ddefnyddio’r cyfarpar gan un o aelodau ein tîm, a fydd o fudd i chi.

Yn achos pob sesiwn gynefino ar gyfer aelodau iau, mae’n ofynnol iddynt fod yng nghwmni oedolyn ar eu hymweliad cyntaf i lenwi eu gwaith papur a’u gwybodaeth feddygol. Gallai methu â gwneud hynny arwain at orfod aildrefnu’r sesiwn gynefino.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd mewn dillad ffitrwydd priodol, oherwydd efallai y bydd gofyn i chi ddefnyddio rhywfaint o’r offer.

O ran aelodau sy’n ddefnyddwyr campfa profiadol ac nad ydynt yn dymuno cael sesiwn gynefino wyneb yn wyneb, mae modd gwneud hyn trwy sesiwn gynefino dros y we ar ein ap. Ar eich ymweliad cyntaf, bydd yn ofynnol i chi lenwi ffurflen feddygol PAR-Q. Rydym am i bawb fwynhau eu siwrnai ffitrwydd wrth ymweld â’n campfeydd, parchu ei gilydd a’r rheolau sydd ar waith gennym yn ein campfeydd. 

end grid