Rheolau'r Gampfa
Defnydd Cyffredinol
- Os nad ydych chi’n siŵr sut i ddefnyddio’r offer, gofynnwch i aelod o staff am gymorth.
- Dylech wisgo dillad campfa glân a phriodol.
- Defnyddiwch loceri ar gyfer eiddo; ni chaniateir cadw bagiau ar lawr y gampfa.
- Dewch â thywel chwys gyda chi a glanhewch yr offer cyn ac ar ôl eu defnyddio.
- Cofiwch drin offer campfa yn ofalus a’u dychwelyd i’r man priodol ar ôl eu defnyddio. Gallai methu â gwneud hynny arwain at derfynu eich aelodaeth.
- Rhowch wybod i staff am offer diffygiol.
- Ni chaniateir recordio fideos na thynnu lluniau yn unrhyw un o’n cyfleusterau newid.
- Dim ond mewn mannau dynodedig y caniateir recordio fideos a thynnu lluniau. Er mwyn sicrhau bod pawb yn teimlo’n gyfforddus yn yr ardaloedd dynodedig, ni ddylech recordio na thynnu lluniau a allai gynnwys aelodau eraill heb eu caniatâd.
Ymddygiad Personol
- Byddwch yn gwrtais ac yn barchus tuag at eraill. Rhowch wybod i staff am broblemau.
- Ni ddylech rythu, defnyddio iaith ymosodol nac ymddwyn yn aflonyddgar.
- Dim ond y chi eich hun y cewch ei ffilmio ac mae’n rhaid i chi wneud hynny heb dynnu sylw. Gwaherddir ffilmio mewn ystafelloedd newid a thoiledau.
- Ni chaniateir anifeiliaid anwes, ac eithrio cŵn cymorth.
- Ni chaniateir mynediad i’r gampfa dan ddylanwad alcohol, cyffuriau na meddyginiaeth sy’n effeithio ar ddiogelwch.
- Am resymau hylendid a diogelwch, mae’n rhaid i chi wisgo crys bob amser tra ar lawr y gampfa.
Eiddo Personol ac Iechyd a Diogelwch
- Nid yw Ffit Conwy yn gyfrifol am golled neu ddifrod i eitemau personol.
- Rhowch wybod i aelodau staff am unrhyw newidiadau o ran eich cyflwr meddygol a allai gael effaith ar eich gallu i wneud ymarfer corff.
Parchu Amgylchedd y Gampfa
- Dylai pob cwsmer barchu’r offer, y staff, ac aelodau eraill drwy dacluso ar eu holau, dychwelyd offer i’w man gwreiddiol, a glanhau’r peiriannau ar ôl eu defnyddio.
- Ni chaniateir ymddygiad swnllyd nac ymddygiad sy’n tarfu ar eraill.
Hyfforddiant Personol
- Dim ond hyfforddwyr Ffit Conwy sy’n gallu darparu hyfforddiant personol. Gofynnir i hyfforddwyr heb awdurdod adael.
Aelodaeth a Mynediad
- Mae angen cerdyn dilys i gael mynediad.
- Gallai torri unrhyw reolau arwain at gael gwared arnoch o’r gampfa heb gynnig ad-daliad.
Gallai methu â chadw at y rheolau hyn arwain at derfynu eich aelodaeth neu fod gofyn i chi adael. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, siaradwch gydag aelod o staff neu’r Swyddog ar Ddyletswydd.