Polisi Epilepsi
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithredu Polisi Epilepsi a Ffitiau Campfeydd a Stiwdios Ffitrwydd, a ddatblygwyd yn unol â chanllawiau gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol (CIMSPA) a thrwy ymgynghori gyda sefydliadau cymorth epilepsi.
Nod y polisi hwn yw hyrwyddo cyfranogiad diogel, cynhwysol a chefnogol unigolion ag epilepsi neu anhwylderau ffitiau mewn gweithgareddau campfa a stiwdios ffitrwydd.
Cymryd Rhan gydag Epilepsi wedi’i Reoli
- Gall unigolion nad ydynt wedi cael ffitiau am o leiaf 12 mis ddefnyddio campfa a chyfleusterau ffitrwydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy heb unrhyw ragofalon ychwanegol.
Cymryd Rhan gydag Epilepsi heb ei Reoli neuffitiau heb ddiagnosis
- Cynghorir unigolion gydag epilepsi heb ei reoli, ffitiau heb ddiagnosis, neu rieni/gwarcheidwaid plant â chyflyrau o’r fath i ofyn am gyngor gan eu meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau campfa a stiwdios ffitrwydd.
Dylai cyngor meddygol ystyried:
- Math, difrifoldeb a pha mor aml maent yn cael ffitiau.
- A oes arwyddion rhybudd neu awra ffitiau yn bresennol.
- Unrhyw sbardunau ffitiau hysbys, gan gynnwys straen, goleuadau llachar, sŵn, blinder neu ymarfer corfforol dwys.
Pan fo unigolyn yn peri risg ragweladwy sylweddol iddo/iddi ei hun neu i bobl eraill, mae’n bosibl y bydd Ffit Conwy yn cynnwys asesiad risg unigol a, lle bo angen, yn gofyn am wybodaeth ategol gan weithiwr gofal iechyd priodol cyn caniatáu i’r unigolyn gymryd rhan mewn gweithgareddau penodol.
Pan fo risg sylweddol o ran iechyd a diogelwch wedi’i nodi, gellir cyfyngu ar fynediad at gyfleusterau neu weithgareddau penodol nes bydd gwybodaeth feddygol briodol wedi’i derbyn a’i hadolygu.
Rhoi Gwybod ac Asesu Risg
- Anogir unigolion sydd wedi cael ffitiau heb eu rheoli, ffitiau diweddar neu ffitiau anrhagweladwy i roi gwybod i staff y dderbynfa fel bod modd rhoi cefnogaeth a threfniadau brys ar waith.
- Dylid dilyn cynllun gofal unigol neu gynllun rheoli meddygol a ddarparwyd bob amser.
Ystyriaethau Iechyd
- Ni ddylai unigolion gymryd rhan mewn gweithgareddau campfa neu stiwdio ffitrwydd os nad ydynt yn teimlo’n dda neu os ydynt yn profi symptomau a allai gynyddu eu risg o gael ffit.
Sesiynau wedi’u Rhaglennu
- Trefnwyr sesiynau ffitrwydd wedi’u rhaglennu sy’n gyfrifol am roi gwybod i’r Ganolfan Hamdden o flaen llaw os oes gan unrhyw gyfranogwyr epilepsi neu ffitiau heb eu rheoli. Bydd hyn yn galluogi gwneud gwaith paratoi, gwneud trefniadau cefnogaeth a chynnal asesiadau risg lle bo’r angen.
Nod y polisi hwn yw sicrhau bod modd i unigolion ag epilepsi neu anhwylderau ffitiau gymryd rhan mewn gweithgareddau campfa a stiwdio ffitrwydd yn ddiogel, yn hyderus ac yn gynhwysol, wrth gydbwyso lles yr unigolyn â dyletswydd gofal a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch Cyngor Conwy.
I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor, siaradwch â’r Swyddog ar Ddyletswydd neu aelod o staff y Ganolfan Hamdden.