Rheolau Dosbarthiadau
Archebu Ymlaen Llaw:
- Dylech archebu eich lle mewn dosbarthiadau ymlaen llaw ar-lein, ar ein ap neu drwy ffonio’r ganolfan alwadau.
- Ni chaniateir mynediad os yw’r dosbarth yn llawn neu os bydd y dosbarth wedi dechrau’n barod.
Cyrraedd:
- Dylech gyrraedd o leiaf 5 munud yn gynnar os ydych chi wedi archebu eich lle ymlaen llaw. Mae hyn yn golygu bod modd i ni ddyrannu unrhyw lefydd gweigion i eraill.
- Dylai cyfranogwyr newydd gyrraedd 10 munud yn gynnar a rhoi gwybod i’r hyfforddwr am unrhyw gyflyrau meddygol neu anafiadau.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn mewngofnodi yn y dderbynfa neu drwy’r giatiau. Gallai peidio â gwneud hynny olygu bod eich cyfrif yn dangos na wnaethoch chi fynychu’r sesiwn, gan arwain at atal eich cyfrif.
Canslo:
- Gallwch ganslo hyd at 1 awr cyn eich sesiwn; os na fyddwch chi’n gwneud hynny, gallai eich cyfrif gael ei atal. I ddatgloi eich cyfrif, bydd angen i chi gysylltu â’r dderbynfa neu’r ganolfan gyswllt. Cysylltwch â ni
Iechyd a Diogelwch:
- Ni chaniateir mynediad ar ôl i’r dosbarth ddechrau, er mwyn sicrhau bod pawb yn cynhesu’r corff yn y modd priodol cyn ymarfer.
- Dylech wisgo dillad ac esgidiau addas. Dylech gwblhau ymarferion oeri trylwyr cyn gadael.
Cymhwysedd Archebu:
- Gall Aelodau Ffit Conwy archebu eu lle ar gyfer gweithgareddau hyd at 3 diwrnod ymlaen llaw o 8:00 y bore ymlaen, a gall Aelodau Premiwm elwa o gael archebu lle hyd at 7 diwrnod ymlaen llaw
Hyfforddwyr Llanw:
- Os na fydd eich hyfforddwr rheolaidd ar gael, byddwn yn darparu rhywun arall lle bo modd. Dylech barchu eu dulliau addysgu gwahanol.
Polisi Cyffredinol:
- Gallai methu â chadw at y rheolau hyn arwain at ofyn i chi adael heb gael ad-daliad.
Gallai methu â chadw at y rheolau hyn arwain at derfynu eich aelodaeth neu fod gofyn i chi adael. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, siaradwch gydag aelod o staff neu’r Swyddog ar Ddyletswydd.