start content

Pam ei bod hi'n bwysig gwisgo'r dillad cywir?

Mae gwisgo dillad chwaraeon wrth ddefnyddio’r gampfa yn bwysig o ran sawl rheswm ymarferol, cyfforddusrwydd a diogelwch: 

Cyfforddusrwydd a Symuded

  • Mae dillad chwaraeon wedi’u cynllunio i ddarparu’r hyblygrwydd gorau posibl, fel bod modd gwneud amrywiaeth eang o symudiadau yn ystod ymarferion. Gall dillad tynn neu ddillad sy’n eich cyfyngu rwystro eich perfformiad neu achosi anghyfforddusrwydd hyd yn oed.

 

Rheoli Chwys

  • Yn aml, caiff dillad chwaraeon o ansawdd uchel eu gwneud o ffabrigau sy’n amsugno lleithder ac yn tynnu chwys o’ch corff, gan eich cadw’n sych ac atal rhwbio neu gosi. Mae ffabrigau cyffredin megis cotwm yn tueddu i amsugno chwys, gan fynd yn drwm ac yn anghyfforddus. 

 

Rheoleiddio Tymheredd

  • Mae dillad campfa wedi’u cynllunio i helpu i reoleiddio tymheredd eich corff yn ystod ymarferion. Maen nhw’n eich cadw’n oer dan amodau poeth ac yn gynnes mewn amgylcheddau oerach, gan wella cyfforddusrwydd cyffredinol.

 

Atal Anafiadau 

  • Mae dillad chwaraeon priodol yn aml yn cynnwys nodweddion fel cywasgedd, sy’n gallu gwellacylchrediad a lleihau blinder cyhyrau. Mae esgidiau priodol, sy’n rhan allweddol o ddillad chwaraeondarparu cefnogaeth hanfodol ac yn lleihau’r risg o anafiadau megis straen ac ysigiadau. 

 

Hylendid

  • Mae campfeydd yn ofodau a rennir ac mae chwysu wrth ddefnyddio’r offer yn rhywbeth cyffredin. Mae gwisgo dillad campfa glân a phriodol (gan gynnwys tywelion os oes angen) yn helpu i gynnal glanweithdra ar eich cyfer chi ac eraill. 

 


Gwella Perfformiad

  • Mae rhai dillad chwaraeon gwell yn cynnwys deunyddiau sy’n lleihau llusgiad, yn gwella aerodynameg, neu’n cynnig cymorth wedi’i dargedu ar gyfer y cyhyrau. Er bod hyn yn bwysicach i athletwyr cystadleuol, gall o hyd fod o fudd i’ch profiad yn y gampfa

 

Hyder a Ffocws 

  • Gall gwisgo’r offer cywir wneud i chi deimlo’n fwy hyderus ac yn fwyffocws a’ch cymhelliant i berfformio’n well yn ystod ymarferion. 

 

Parchu Rheolau’r Gampfa 

  • Mae gan y rhan fwyaf o gampfeydd godau gwisg sy’n ei gwneud yn ofynnol i chi sicrhau bod gennych wisg briodol er mwyn cynnal amgylchedd proffesiynol a diogel. Mae gwisgo dillad chwaraeon yn dangos parch at y canllawiau hyn ac eraill sy’n defnyddio’r gampfa. 

 

Drwy fuddsoddi yn y dillad chwaraeon cywir, gallwch chi wneud y mwyaf o effeithlonrwydd eich ymarfer corff, sicrhau eich bod yn gyfforddus, a lleihau risgiau, ac mae hyn oll yn cyfrannu at brofiad gwell yn y gampfa.

end content