Noddi Gwobrau Chwaraeon

Pam Noddi Gwobrau Chwaraeon Conwy?
Gwella Gwelededd eich Brand
Cyfle i amlygu eich brand i gynulleidfa eang, yn cynnwys athletwyr, clybiau chwaraeon, busnesau lleol a’r cyfryngau.
Arddangos Ymrwymiad Cymunedol
Dangos eich cefnogaeth i chwaraeon ar lawr gwlad a thalent leol.
Rhwydweithio ac Ymgysylltu
Cysylltu â ffigyrau dylanwadol yn y gymuned chwaraeon a busnes.
Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol
Cyfle i osod eich brand ochr yn ochr â gwerthoedd ymroddiad, gwaith tîm a rhagoriaeth.
Mae’r lefel nawdd hon yn cynnig y mwyaf o welededd, bri ac ymgysylltiad â chynulleidfa Gwobrau Chwaraeon Conwy.
- Hawliau enwi ar gyfer y seremoni wobrwyo.
- Enw a logo’r cwmni ar yr holl ohebiaeth a chyhoeddusrwydd.
- 2 docyn ar gyfer y seremoni a lletygarwch VIP.
- Proffil a logo’r cwmni yn rhaglen y digwyddiad.
- Proffilio’r cwmni yn araith meistr y seremoni.
- Sylw i’r gwobrau drwy’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol perthnasol.
- Bydd y cwmni’n cael ei grybwyll yn y datganiadau perthnasol i’r wasg.
- Gofod arddangos yn y digwyddiad (rhaid gwneud cais am hwn ymlaen llaw).
Mae Noddwr y Dderbynfa VIP yn lefel nawdd fawreddog sy’n rhoi brandio arbennig yn y dderbynfa VIP, sy’n cael ei fynychu gan westeion proffil uchel, yn cynnwys athletwyr, noddwyr a swyddogion gweithredol y Cyngor.
- Brandio’r cwmni yn yr ystafell dderbyn VIP.
- 2 docyn ar gyfer y seremoni a lletygarwch VIP.
- Proffil a logo’r cwmni yn rhaglen y digwyddiad.
- Proffilio’r cwmni yn araith meistr y seremoni.
- Sylw i’r gwobrau drwy’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol perthnasol.
- Bydd y cwmni’n cael ei grybwyll yn y datganiadau perthnasol i’r wasg.
- Gofod arddangos yn y digwyddiad (rhaid gwneud cais am hwn ymlaen llaw).
Drwy noddi categori penodol yn y gwobrau, fel "Tîm Chwaraeon Iau" neu "Hyfforddwr y Flwyddyn", bydd eich sefydliad/busnes yn cael ei gysylltu’n uniongyrchol â dathlu talent a chyrhaeddiad rhagorol.
- 2 docyn ar gyfer y seremoni a lletygarwch VIP.
- Bydd logo’r cwmni’n cael ei ddefnyddio ar yr holl ddeunydd sy’n ymwneud â’i gategori.
- Bydd y cwmni’n cael ei grybwyll yn y datganiadau perthnasol i’r wasg.
- Proffil a logo’r cwmni yn rhaglen y digwyddiad.
- Proffilio’r cwmni yn araith meistr y seremoni.
- Sylw i’r gwobrau drwy’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol perthnasol.
- Gofod arddangos yn y digwyddiad (rhaid gwneud cais am hwn ymlaen llaw).
Mae’r Gŵr Gwadd fel arfer yn ffigwr adnabyddus yn y byd chwaraeon, rhywun sy’n ymgorffori rhagoriaeth, cyrhaeddiad ac ysbrydoliaeth. Er enghraifft, yr athletwr Dycnwch Sean Conway yng Ngwobrau Chwaraeon Conwy 2024.
- Llun yn y digwyddiad gyda’r gŵr gwadd.
- 2 docyn ar gyfer y seremoni a lletygarwch VIP.
- Bydd y cwmni’n cael ei grybwyll yn y datganiadau perthnasol i’r wasg.
- Proffil a logo’r cwmni yn rhaglen y digwyddiad.
- Proffilio’r cwmni yn araith meistr y seremoni.
- Sylw i’r gwobrau drwy’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol perthnasol.
- Gofod arddangos yn y digwyddiad (rhaid gwneud cais am hwn ymlaen llaw).
Mae’r Noddwr Adloniant yn chwarae rhan allweddol mewn gwella profiad cyffredinol y digwyddiad drwy gefnogi’r adloniant byw.
- 2 docyn ar gyfer y seremoni a lletygarwch VIP.
- Bydd y cwmni’n cael ei grybwyll yn y datganiadau perthnasol i’r wasg.
- Proffil a logo’r cwmni yn rhaglen y digwyddiad.
- Proffilio’r cwmni yn araith meistr y seremoni.
- Sylw i’r gwobrau drwy’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol perthnasol.
- Gofod arddangos yn y digwyddiad (rhaid gwneud cais am hwn ymlaen llaw).
Noddwch fwrdd yng Ngwobrau Chwaraeon Conwy i fod yn rhan o ddathliad blynyddol cyflawniad y byd chwaraeon yng Nghonwy. Mae’n gyfle gwych i hyrwyddo eich busnes, rhwydweithio gyda’r gymuned leol a dangos eich cefnogaeth i dalentau lleol yn y byd chwaraeon.
- Logo’r cwmni ar y rhestr fyrddau a’r cynllun bwrdd.
- Nwyddau’r cwmni ar y bwrdd.
- Logo’r cwmni yn rhaglen y digwyddiad.
- 2 docyn ar gyfer y seremoni.
- Gofod arddangos yn y digwyddiad (rhaid gwneud cais am hwn ymlaen llaw).
Cymerwch Ran:
Rydym yn eich gwahodd i fod yn rhan o’r dathliad mawreddog hwn o lwyddiant mewn chwaraeon.
I drafod y cyfleoedd noddi, cysylltwch â:
Caroline Jones, Rheolwr Datblygu Hamdden
Ffon: 01492 575557
E-bost: caroline.jones@conwy.gov.uk
Ymunwch â ni i ddathlu cymuned chwaraeon rhagorol Conwy a chreu argraff barhaol!