Gwobrau Chwaraeon 2025

Gwybodaeth am y Gwobrau Chwaraeon
Ers dros 26 o flynyddoedd, mae Gwobrau Chwaraeon Conwy wedi bod yn taflu goleuni ar athletwyr anhygoel ac arwyr sydd heb dderbyn clod Bwrdeistref Sirol Conwy. O sêr ifanc y dyfodol i gystadleuwyr profiadol, mae’r gwobrau hyn yn dathlu’r rhai sy’n gwthio ffiniau rhagoriaeth yn eu camp ddewisol, yn ogystal â’r unigolion ymroddedig sy’n gweithio’n ddiflino y tu ôl i’r llenni i gefnogi clybiau ac athletwyr o un wythnos i’r llall.
Mae Conwy yn gartref i dalent eithriadol, gyda chystadleuwyr yn gwneud argraff ar lwyfannau cenedlaethol, rhyngwladol a hyd yn oed ar draws y byd. Mae’r digwyddiad mawreddog hwn, a gynhelir bob blwyddyn yn Venue Cymru, prif theatr a lleoliad cynadledda Conwy, yn ddathliad go iawn o ymroddiad, angerdd a chyrhaeddiad mewn chwaraeon.
Cynhelir Gwobrau Chwaraeon Conwy 2025 ddydd Gwener, 21 Tachwedd am 7:30 PM yn Arena Venue Cymru, gan ddod â 400 o westeion ynghyd, yn cynnwys athletwyr, noddwyr a swyddogion gweithredol y Cyngor. Bydd y noson yn cloi drwy gyhoeddi’r enillwyr ar draws 12 categori, gyda’r cyffro yn cael ei ffrydio’n fyw ar Youtube i bawb ei fwynhau.
Ymunwch â ni wrth i ni anrhydeddu’r rhagoriaeth mewn chwaraeon sy’n gwneud Conwy yn falch!
Mae’r Gwobrau Chwaraeon wedi eu llunio i gydnabod ac anrhydeddu pobl dalentog ym maes chwaraeon, clybiau chwaraeon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yng Nghonwy.
Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: Dydd Gwener 19 Medi 2025
Y categorïau yw:
- Campwr Iau y Flwyddyn
- Campwraig Iau y Flwyddyn
- Tîm Chwaraeon Ieuenctid
- Gwobr Llwyddiant Arbennig
- Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
- Campwr Hŷn y Flwyddyn
- Campwraig Hŷn y Flwyddyn
- Tîm Chwaraeon Hŷn
- Hyfforddwr y Flwyddyn
- Gwasanaethau i Chwaraeon
- Gwirfoddolwr y flwyddyn
Seremoni Wobrwyo: Dydd gwener 21 Tachwedd 2025, 7.30pm Venue Cymru, Llandudno
Manylion Cyswllt:
Caroline Jones, Rheolwr Datblygu Hamdden
Ffon: 0300 456 95 25
E-bost: caroline.jones@conwy.gov.uk