top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Cartref Datblygu Hamdden Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol Cynhwysol
start content

Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol Cynhwysol

Mae gan Gonwy amrywiaeth eang, a rhai o'r cyfleoedd chwaraeon gorau yng Nghymru ar gyfer pobl anabl.

Mae yna ddarpariaethau cyfranogiad a pherfformiad  ar gael yn lleol ac rydym yn anelu i gefnogi darpariaeth gweithgareddau ar gyfer pob grŵp ag amhariad. Drwy hwyluso a chefnogi ystod o gyfleoedd a ddarperir gan bartneriaid gwahanol, gallwn roi dewis i bobl anabl, o bob gallu, o’r hyn maent yn ei wneud a phryd. Gyda sesiynau a chlybiau penodol i anabledd yn ogystal â chlybiau eraill sy’n gynhwysol i bawb o bob gallu, mae’n amser gwych i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol yng Nghonwy.

Cadwch ar y blaen â Gweithgareddau Corfforol a Chwaraeon Cynhwysol

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd newydd, digwyddiadau, diweddariadau a mwy drwy gofrestru eich manylion a’ch dewisiadau yng Ngwasanaeth Diweddaru Gweithgareddau Corfforol a Chwaraeon Cynhwysol Conwy. Gyda gwybodaeth am leoliadau lleol a sut i gymryd rhan, yn ogystal â gwybodaeth allweddol am gynhwysiant ac effaith gweithgaredd corfforol a chwaraeon ar ein cymunedau amrywiol, cofrestrwch rŵan.

 

Gwirfoddoli gyda Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol Cynhwysol

Yn syml, ni fyddai chwaraeon cymunedol yn bodoli heb wirfoddolwyr. Mae galw enfawr, nawr yn fwy nag erioed, am wirfoddolwyr ymroddedig sydd eisiau helpu pobl anabl yn lleol i gael mynediad at gyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol o ansawdd uchel yng Nghonwy.

Mae gwirfoddoli’n ffordd wych i ddatblygu eich hyder, dysgu sgiliau newydd, magu profiad, cwrdd â phobl newydd a rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned leol. Nid yw’n gwneud gwahaniaeth os nad ydych chi erioed wedi gwirfoddoli, neu heb ymwneud â chwaraeon o’r blaen. Mae sawl rôl ar gael ym maes cefnogi, mentora a hyfforddi, i’r rhai sy’n dymuno gwneud hynny.

I fynegi eich diddordeb ac i drefnu sgwrs am wirfoddoli ym maes anabledd a chwaraeon cynhwysol (heb unrhyw reidrwydd i ymrwymo) gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen isod os gwelwch yn dda.

Mynegiant o ddiddordeb

end content