Ymunwch, cofrestrwch neu adnewyddwch gyda Ffit Conwy
Cliciwch ar “Ymunwch nawr” os oes arnoch chi eisiau:
- Cofrestru ar gyfer aelodaeth Ffit Conwy
- Adnewyddu eich aelodaeth Ffit Conwy
- Cofrestru cyfrif am ddim i dalu wrth i chi ddefnyddio
Aelodaeth Safonol Ffit Conwy - £38.50 bob mis
Mae Aelodaeth Ffit Conwy yn cynnig gwerth anhygoel am arian a’r dewis gorau o ran ffitrwydd. P’un a ydych chi eisiau cymryd rhan yn un o’n dosbarthiadau ffitrwydd, gweithio ar eich amseroedd nofio neu chwysu chwartiau yn y gampfa, gall Ffit Conwy gynnig y cwbl i chi.
Mae’r aelodaeth yn gadel i chi ddefnyddio pob un o’r 10 canolfan ledled Conwy, y 7 campfa a’r 4 pwll nofio. Mae pob canolfan yn cynnig rhywbeth gwahanol ac mae’r aelodaeth hon yn gadael i chi fanteisio ar y cyfleusterau a'r gweithgareddau gwych sydd gan Gonwy i'w cynnig.
Aelodaeth Gorfforaethol Ffit Conwy - £34.65 bob mis
Mae Conwy wedi ymuno â nifer o gwmnïau a sefydliadau i gynnig aelodaeth gorfforaethol sy’n rhoi gostyngiad o 10% i chi ar ein haelodaeth safonol. Yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw dod â bathodyn ID eich cwmni a slip cyflog diweddar gyda chi wrth gofrestru. Mae rhestr o’r cwmnïau sy’n gymwys i gael aelodaeth gorfforaethol i’w gweld yma
Methu dod o hyd i’ch cwmni ar y rhestr hon? Cysylltwch â ni er mwyn holi ynglŷn ag ychwanegu eich cwmni.
Ar ôl i chi gwblhau eich cais aelodaeth bydd angen i chi gyflwyno llun o fathodyn adnabod eich cwmni neu slip cyflog diweddar, y gallwch ei wneud trwy glicio ar y botwm ar waelod y dudalen hon.
Aelodaeth Gynhwysol Ffit Conwy - £23.10 bob mis
I’r rhai hynny sy’n gymwys, mae Aelodaeth Gynhwysol Ffit Conwy yn cynnig yr un manteision i chi ag aelodaeth safonol am ostyngiad o 40%.
I fod yn gymwys ar gyfer yr aelodaeth hon, rhaid i chi ddod o dan un o’r categorïau canlynol:
- Myfyriwr dros 16 oed: rhaid i chi ddangos eich cerdyn myfyriwr gyda'r dyddiad dod i ben arno
- Pobl Hŷn dros 60 oed: bydd angen i ni weld tystysgrif geni ddilys, trwydded yrru, pasbort neu bas bws
- Cwsmeriaid sydd wedi cwblhau ein Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff: rhaid i chi fod wedi cwblhau’r rhaglen 16 wythnos ac wedi cael adolygiad 16 wythnos
- Staff CBSC: rhaid i chi ddangos eich rhif cyflogres a’ch bathodyn ID staff neu slip cyflog diweddarn
Ar ôl i chi gwblhau eich cais aelodaeth bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth eich bod yn gymwys i gael y math hwn o danysgrifiad, y gallwch ei wneud trwy glicio ar y botwm ar waelod y dudalen hon.
Aelodaeth Iau Ffit Conwy - £17.35 bob mis
Mae aelodaeth Plant Ffit yn ffordd wych i bobl ifanc fod yn fwy egnïol yn amlach, a hynny am ffi fisol fforddiadwy a gesglir drwy ddebyd uniongyrchol.
Dyma sy’n rhan o’r aelodaeth hon:
- Defnydd o’r Ystafell Ffitrwydd*
- Nofio Cyhoeddus
- Badminton (hanner cwrt)
- Sboncen (hanner cwrt)
- Tennis awyr agored (hanner cwrt)
- Rhai dosbarthiadau ffitrwydd (cysylltwch â'ch canolfan hamdden i gael gwybodaeth)
*Bydd angen cael sesiwn gynefino cyn defnyddio’r ystafelloedd ffitrwydd. Rhaid i oedolyn sy’n talu fod gyda phob plentyn yn y gampfa oni bai eu bod yn cymryd rhan yn un o'n sesiynau campfa iau dan oruchwyliaeth.
Aelodaeth Hamdden Gwledig - £21.00 bob mis
Mae’r Aelodaeth Gwledig Ffit Conwy yn cynnig yr opsiwn i gymryd rhan mewn gweithgareddau o fewn eich pentrefi lleol. Mae dosbarthiadau yn cael ei chynnig mewn nifer o bentrefi gwahanol heb yr angen i drafaelio i’ch canolfan hamdden leol. Mae amrywiaeth o weithgareddau o Yoga i Feicio Stiwdio ar gael. Mae rhaglenni Pilates ar-lein a hefyd rhaglenni YouTube i aelodau mynegi unrhyw amser.
Mae’r aelodaeth yn gadel i chi ddefnyddio pob un sesiwn gwledig un unig ond ddim yn cynnwys canolfannau hamdden na’r pyllau nofio.
Tanysgrifiad Teyrngarwch
Tanysgrifiad | Pris |
Oedolyn |
£20.00 y flwyddyn |
Dinesydd Hŷn |
£13.00 y flwyddyn |
Iau |
£13.00 y flwyddyn |
Cynhwysol |
£13.00 y flwyddyn |
Mae ein Tanysgrifiad Teyrngarwch yn cynnig gostyngiadau gwych (tua 25% i ffwrdd) ar weithgareddau a chyfleusterau chwaraeon megis:
- Ystafelloedd Ffitrwydd
- Pyllau nofio
- Dosbarthiadau Ffitrwydd
- Llogi’r Neuadd Chwaraeon
- Llogi’r cae awyr agored
Bydd eich Tanysgrifiad Teyrngarwch yn ddilys am flwyddyn o’r dyddiad y byddwch chi’n cofrestru. Bydd angen i chi adnewyddu eich tanysgrifiad yn flynyddol a byddwch yn talu'r gyfradd gyfredol am y flwyddyn honno. Dim ond y cwsmer sy’n cymryd rhan yn y gweithgaredd yn y ganolfan hamdden gaiff ddefnyddio’r tanysgrifiad. Allwch chi ddim defnyddio tanysgrifiad aelod arall o’ch teulu i gael y gostyngiad.
Tanysgrifiad Teyrngarwch Anabledd - £13.00 y flwyddyn
Mae hwn yn gynllun mynediad sy’n helpu pobl anabl i ddod yn fwy egnïol drwy hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Mae manteision tanysgrifiad yn cynnwys:
- nofio am ddim o fewn oriau cyhoeddus
- mynediad am ddim i ystafelloedd ffitrwydd CBSC (bydd angen cael sesiwn gynefino)
- mynediad am ddim i ddosbarthiadau ffitrwydd
- llogi cwrt sboncen, badminton a thennis am hanner pris
Ar ôl i chi gwblhau eich cais aelodaeth bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth eich bod yn gymwys i gael y math hwn o danysgrifiad, y gallwch ei wneud trwy glicio ar y botwm ar waelod y dudalen hon.
I fod yn gymwys i gael y tanysgrifiad hwn, RHAID i chi fod yn derbyn naill ai lwfans byw i'r anabl, taliad annibyniaeth bersonol, lwfans gweini, Lwfans Cymorth Cyflogaeth, Taliad Annibynnol y Lluoedd Arfog, Taliad Incwm Gwarantedig neu gredydau treth i bobl anabl.
Cysylltwch ag unrhyw un o Gyfleusterau Hamdden CBSC neu anfon neges drwy'r ffurflen Cysylltwch â ni.
I gael gwybod mwy am ein holl gynigion aelodaeth a sut y gallen nhw weithio i chi, cysylltwch â ni neu ewch i’ch canolfan hamdden leol, lle bydd ein staff wrth law i ddangos y lle i chi ac ateb unrhyw gwestiynau.
Tanysgrifiadau teyrngarwch corfforaethol, cynhwysol ac anabledd
Ar gyfer yr aelodaeth/tanysgrifiadau hyn bydd angen cyflwyno prawf o gynhwysedd o fewn tair wythnos o ymuno.
Peidiwch â chyflwyno prawf o gymhwysedd nes ar ôl i chi gofrestru ar gyfer aelodaeth neu danysgrifiad Ffit Conwy.
I gyflwyno'r dystiolaeth hon gallwch glicio ar y botwm isod a lawrlwytho'r dogfennau sy'n berthnasol i'ch math tanysgrifiad.