top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Cartref Nofio Gwersi Nofio
start content

Gwersi Nofio

 

Prisiau Gwersi Nofio

  • Debyd Uniongyrchol Misol Gwersi Nofio £25.00
  • Gwers nofio un i un 30 munud £22.70
  • Gwers nofio un i ddau 30 munud £27.25
  • Cynhelir gwersi nofio unwaith yr wythnos

 

Sblash (gwersi i blant 3 oed)

Gwersi nofio i blant sy’n 3 oed ac yn mynd i’r ysgol yn rhan amser. Mae Sblash yn galluogi nofwyr ifanc i ddatblygu eu sgiliau gyda chymorth oedolyn yn y dŵr, gan ddod yn fwy hyderus ac annibynnol yn y dŵr ac yn barod i drosglwyddo i'r rhaglen Tonnau.

Gwersi Dysgu Nofio i Blant Iau (a elwir hefyd yn Tonnau)

Rydym yn dilyn rhaglen ddysgu nofio genedlaethol Nofio Cymru (Tonnau) i gyflwyno ein gwersi Dysgu Nofio i Blant Iau. Mae’r fframwaith yn cynnwys dysgu'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i gymryd rhan mewn gweithgareddau a disgyblaethau yn y dŵr, ac mae’n addas ar gyfer plant dros 4 oed.

Bydd y plant yn dysgu'r sgiliau nofio a dŵr angenrheidiol i ddod yn nofwyr cymwys ac i allu cymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr eraill, fel polo dŵr. Byddant hefyd yn dysgu sgiliau diogelwch dŵr hanfodol er mwyn iddynt ddysgu sut i fod yn ddiogel yn y dŵr ac o'i amgylch.

Ar ôl cwblhau ein gwersi nofio mae yna sawl llwybr y gall nofwyr eu dilyn er mwyn parhau i fwynhau gweithgareddau yn y dŵr.

Ymhlith y rhain mae: Clybiau Nofio’r Sir, Sesiynau Achub Bywyd (dyfarniadau Efydd, Arian ac Aur), Polo Bach*, Polo Dŵr* a Sesiynau Nofio Ffit.

Mae gwersi Dysgu Nofio i Blant Iau ar gael ymhob un o byllau Conwy; cysylltwch â chanolfan o'ch dewis i holi am y gwersi sydd ar gael.

Gwersi i Oedolion

Dydi hi byth yn rhy hwyr i ddysgu nofio! Rydym ni’n credu y dylai pawb gael cyfle i ddysgu nofio ac i ddatblygu eu sgiliau hyd eithaf eu gallu. 

Ar hyn o bryd, mae gwersi i oedolion yn cael eu cynnig yn Abergele, Llandudno a Llanrwst. Cysylltwch â’ch dewis o Ganolfan i weld a oes lle ar gael. 

 

Gwersi Un i Un

Rydym yn cynnig gwersi nofio preifat i oedolion a phlant iau. Mae'r rhain yn cael eu cynnig y tu allan i amseroedd ein rhaglen gwersi nofio ac felly mae’r lleoedd sydd ar gael yn gyfyngedig.

Cysylltwch â'ch pwll nofio lleol i gofrestru ar gyfer gwersi.

Gwybodaeth i rieni

  • Mae gwersi nofio yn cael eu cynnal ar foreau Sadwrn a gyda'r nos yn ystod yr wythnos.
  • Mae cyrsiau yn rhedeg yn barhaus drwy gydol y flwyddyn gydag egwyl o bythefnos dros y Nadolig.
  • Rydym ni'n darparu'r holl offer ar gyfer y gwersi, megis bandiau braich, cymhorthion arnofio ac ati.
  • Gwisgwch wisg nofio briodol. (dim bicini neu tancini. Gofynnir i ferched wisgo gwisg un darn).
  • Dim siorts hir na siwtiau gwlyb.
  • Rhaid clymu gwallt hir yn ôl neu wisgo cap nofio.
  • Sicrhewch fod eich plentyn wedi bod yn y toiled cyn mynd i mewn i'r dŵr.
  • Os yw eich plentyn yn teimlo'n sâl dylech ystyried a ydynt yn ddigon iach i fynd i'r wers.
  • Os oes gan eich plentyn gogls rhaid iddyn nhw allu eu gwisgo a’u tynnu eu hunain.
  • Peidiwch â gadael eitemau yn y ciwbiclau - byddant yn cael eu hystyried yn eiddo coll ac yn cael eu symud oddi yno.

 


Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gwersi nofio, cysylltwch â hamdden.leisure@conwy.gov.uk. Pan rydych yn anfon e-bost nodwch pa ganolfan a gwersi yr ydych yn holi amdanynt

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content