Academi/SwimFit Leuenctid
Yr Academi ydi’r llwybr perffaith i’r rhai sydd eisiau symud ymlaen i Glwb Nofio.
Mae’r Academi sy’n dilyn rhaglen Sgiliau Nofio Uwch Nofio Cymru, yn cynnig cyfle i nofwyr ddatblygu sgiliau nofio uwch allweddol. Mae 5 lefel wedi’u llunio ar gyfer nofwyr sydd am wella eu techneg yn y pedwar arddull, ynghyd â dulliau dechrau, troi a gorffen. Mae’r lefelau wedi’u rhestru isod o ganllawiau Nofio Cymru. Mae wedi’i lunio i sefydlu ymarfer da ac arferion a sgiliau cywir yn gynnar yn eu gyrfa nofio.
Manteision yr Academi:
- Rhoi fframwaith â strwythur i athrawon a hyfforddwyr i’w ddefnyddio’n benodol i greu sylfaen gadarn ar gyfer ddarpar nofwyr cystadleuol.
- Rhoi eglurder i nofwyr am yr hyn maen nhw’n gweithio arno a pha sgiliau sy’n bwysig i’w datblygu. Mae hyn yn ysbrydoli plant i symud drwy’r lefelau a gwella eu sgiliau.
- Darparu cyswllt didrafferth i glwb nofio o ddarparwr dysgu nofio.
- Cynllun gwobrwyo dwyieithog lle gall darparwyr gynnig tystysgrifau i gyfranogwyr ar ôl cyflawni lefel, yn cynnwys bathodynnau pellter hyd at 5000m.
I gael rhagor o fanylion am unrhyw weithgaredd neu glwb, cysylltwch â ni neu gallwch ymweld â’ch pwll nofio lleol.
Lefel 1
Cyfanswm yr amser nofio a argymhellir ar y lefel yma yw 1 awr yr wythnos, naill ai mewn rhaglen Dysgu Nofio neu glwb nofio. Nodau
Nodau
- Datblygu techneg deifio a chyfnod dan y dŵr
- Datblygu techneg troi
- Datblygu techneg strôc dros bellter hirach, troi yn gyfreithiol, cyfnod dan y dŵr a gorffeniadau
- Datblygu techneg cicio a thynnu
Canlyniadau’r Asesiad
Mae strôcs a gweithredoedd cyfreithiol yn cyfeirio at gydymffurfio â chyfreithiau FINA.
- Deifio mewn i ddŵr bas a chiciau dolffin o dan y dŵr - Deifio mewn i ddŵr bas, yna ciciau dolffin o dan y dŵr am o leiaf 5m gan gynnal ystum corff lliflin. Isafswm dyfnder o 1.8m
- Deifio mewn i ddŵr bas a chyfnod o nofio dull broga o dan y dŵr - Deifio mewn i ddŵr bas, yna cwblhau un dull broga o dan y dŵr a chicio i’r wyneb. Isafswm dyfnder o 1.8m
- Troi wrth wal gan ddefnyddio dull bol a dull broga - Nofio tuag at wal y pwll, troi, gwthio i ffwrdd mewn ystum lliflin a chyflawni ciciau dolffin o dan y dŵr am 5m yn y dull bol a dull broga.
- Sgwlio am 25m ar y bol a 25m ar y cefn - Defnyddio teclyn arnofio i gefnogi ystum y corff, sgwlio 25 metr ar y bol a 25 metr ar y cefn, gan ganolbwyntio ar deimlo’r dŵr.
- Nofio 75m ar y bol - Nofio 75 metr ar y bol gan nofio 5m o dan y dŵr gyda chiciau dolffin o’r dechrau, troi gyda chiciau tanddwr lliflin oddi ar bob wal a gorffeniad cyfreithiol. Defnyddio cyfuniad o anadlu ar y ddwy ochr (e.e. 3 neu 5 strôc), ac anadlu ar un ochr (e.e. 2 neu 4 strôc), gan newid ar ddiwedd pob hyd.
- Nofio 75m ar y cefn - Nofio 75 metr ar y cefn gan nofio 5m o dan y dŵr gyda chiciau dolffin o’r dechrau, troi’n gyfreithiol gyda chiciau dolffin tanddwr lliflin oddi ar bob wal a gorffeniad cyfreithiol.
- Nofio 50m yn y dull broga - Nofio 50 metr yn y dull broga, gan droi’n gyfreithiol dan y dŵr oddi ar bob wal a chyffwrdd, troi a gorffen yn gyfreithiol.
- Nofio 50m yn y dull pili pala - Nofio 50 metr yn y dull pili pala gan nofio 5m o dan y dŵr gyda chiciau dolffin o’r dechrau, cyffwrdd a throi’n gyfreithiol gyda chiciau dolffin tanddwr lliflin oddi ar y wal, a gorffeniad cyfreithiol.
- Perfformio cic fedrus dechnegol am 100m - Perfformio cic fedrus dechnegol am 100 metr: 50 metr ar y bol ac yna 50 metr gyda strôc wahanol; gan ddefnyddio bwrdd cicio os yw’n briodol ar gyfer y strôc a ddewisir.
- Tynnu 50m ar y bol - Gan ddefnyddio teclyn arnofio, tynnu 50metr ar y bol.
- Nofio 2 x 100m yn y Dull Cymysg Unigol - Dechrau drwy ddeifio i mewn a chiciau dolffin tanddwr am 5m, nofio 2 x 100 metr yn y dull cymysg unigol gan droi’n gyfreithiol, cyfnodau dan y dŵr a gorffen.
- Cymryd rhan mewn ras gyfnewid gymysg - Cymryd rhan mewn ras gyfnewid gymysg gan gyfnewid yn gyfreithiol, bydd pob nofiwr yn nofio 25 metr. Dylid nofio’r ras gyfnewid gymysg yn y drefn ganlynol: dull ar y cefn, dull broga, dull pili pala, dull ar y bol.
Lefel 2
Cyfanswm yr amser nofio a argymhellir ar y lefel yma yw 1 awr yr wythnos.
Nodau
- Datblygu technegau deifio mewn i’r dŵr a newid strôc dan y dŵr gan ddefnyddio 5 metr o giciau dolffin tanddwr, sy’n briodol i’r strôc.
- Troi’n gyfreithiol yn y 4 strôc gan ddefnyddio 5 metr o giciau dolffin tanddwr pan fo’n briodol.
- Datblygu techneg strôc dros bellter hirach, troi yn gyfreithiol, cyfnod dan y dŵr a gorffeniadau.
- Cynyddu pellter techneg tynnu a chicio medrus.Canlyniadau’r Asesiad
Canlyniadau’r Asesiad
Mae strôcs a gweithredoedd cyfreithiol yn cyfeirio at gydymffurfio â chyfreithiau FINA.
- Deifio mewn i’r dŵr am 3 strôc, i gynnwys dull ar y cefn, dull broga, dull ar y bol neu ddull pili pala - Deifio mewn i’r dŵr ar gyfer dull ar y cefn, dull broga, dull ar y bol neu ddull pili pala a newid i strôc berthnasol i 15 metr. Ar gyfer y dull ar y bol, dull ar y cefn a’r dull pili pala, nofio am isafswm o 5m tanddwr mewn ystum lliflin gyda chiciau dolffin, a newid i strôc lawn; ar gyfer y dull broga, dangos y cyfnod tanddwr cyfreithiol a newid i strôc lawn.
- Troi wrth y wal am 4 strôc - Troi wrth y wal am 4 strôc gan ddefnyddio’r dull troi cyfreithiol ar gyfer y dull ar y bol a dull ar y cefn a chyffwrdd a throi cyfreithiol ar gyfer dull broga a dull pili pala, gan ddefnyddio’r cyfnod tanddwr cyfreithiol i newid strôc.
- Sgwlio gyda’r dwylo wedi’u hymestyn am 25metr ar y bol a 25m ar y cefn - Gan ddefnyddio teclyn arnofio i gefnogi ystum y corff os oes angen, sgwlio am 25 metr ar y bol a 25 metr ar y cefn, gan sgwlio gyda’r dwylo wedi’u hymestyn.
- Nofio 100m ar y bol - Nofio 100 metr ar y bol gan nofio 5m o dan y dŵr gyda chiciau dolffin o’r dechrau, troi gyda chiciau tanddwr lliflin oddi ar bob wal a gorffeniad cyfreithiol. Defnyddio cyfuniad o anadlu ar y ddwy ochr (e.e. 3 neu 5 strôc), ac anadlu ar un ochr (e.e. 2 neu 4 strôc), gan newid ar ddiwedd pob hyd.
- Nofio 100m ar y cefn - Nofio 100 metr ar y cefn gan nofio 5m o dan y dŵr gyda chiciau dolffin o’r dechrau, troi’n gyfreithiol gyda chiciau dolffin tanddwr lliflin oddi ar bob wal a gorffeniad cyfreithiol.
- Nofio 75m yn y dull broga - Nofio 75 metr yn y dull broga, gan droi’n gyfreithiol dan y dŵr oddi ar bob wal a chyffwrdd, troi a gorffen yn gyfreithiol.
- Nofio 75m yn y dull pili pala - Nofio 75 metr yn y dull pili pala gan nofio 5m o dan y dŵr gyda chiciau dolffin o’r dechrau, cyffwrdd a throadau cyfreithiol gyda chiciau dolffin tanddwr lliflin oddi ar y wal, a gorffeniad cyfreithiol.
- Perfformio cic 200m - Perfformio cic am 200 metr: 100 metr ar y bol ac yna 100 metr gyda strôc wahanol, gan ddefnyddio bwrdd cicio os yw’n briodol ar gyfer y strôc a ddewisir.
- Tynnu 50m yn y dull ar y bol a 50m yn y dull ar y cefn - Gan ddefnyddio teclyn arnofio, tynnu 50 metr yn y dull ar y bol ac yna 50 metr yn y dull ar y cefn.
- Nofio 3 x 100m yn y Dull Cymysg Unigol - Dechrau drwy ddeifio i mewn a chiciau dolffin tanddwr am 5m, nofio 3 x 100 metr yn y dull cymysg unigol gan droi’n gyfreithiol, cyfnodau dan y dŵr a gorffen.
- Nofio 300m ar y bol yn barhaus - Nofio 300 metr ar y bol gan nofio 5m o dan y dŵr gyda chiciau dolffin o’r dechrau, troi gyda chiciau tanddwr lliflin oddi ar bob wal a gorffeniad cyfreithiol.
- Cymryd rhan mewn ras gyfnewid - Cymryd rhan mewn ras gyfnewid gan gyfnewid yn gyfreithiol, bydd pob nofiwr yn nofio 50 metr.
Lefel 3
Cyfanswm yr amser nofio a argymhellir ar y lefel yma yw 2 awr yr wythnos (fel 2 sesiwn 1 awr), mewn amgylchedd clwb nofio.
Nodau
- Datblygu technegau deifio mewn i’r dŵr a newid strôc dan y dŵr gan ddefnyddio isafswm o 5 metr o giciau dolffin tanddwr, sy’n briodol i’r strôc.
- Datblygu techneg strôc a chyflymder dros bellter hirach yn y 4 strôc.
- Cynyddu pellteroedd tynnu a chicio cyflym
- Perfformio dull cymysg unigol am 200m
Canlyniadau’r Asesiad
Mae strôcs a gweithredoedd cyfreithiol yn cyfeirio at gydymffurfio â chyfreithiau FINA.
- Deifio i mewn i’r dŵr am 4 strôc - Deifio i mewn i’r dŵr, yn cynnwys newid tanddwr, a gwibio i 25 metr. Ailadrodd y weithred ar gyfer pob un o’r 4 strôc. Ar gyfer y dull ar y bol, dull ar y cefn a’r dull pili pala, nofio am isafswm o 5m tanddwr gyda chiciau dolffin; ar gyfer y dull broga, dangos y cyfnod tanddwr cyfreithiol.
- Troi wrth y wal ar gyfer y 3 dull cymysg unigol - Perfformio’r tri throad cyfreithiol a ddefnyddir mewn digwyddiad dull cymysg unigol (dull pili pala i ddull ar y cefn, dull ar y cefn i ddull broga a dull broga i ddull ar y bol). Gan ddefnyddio techneg gyfreithiol, cyfnod o isafswm o 5m tanddwr a newid y strôc.
- Nofio 100m yn y dull ar y bol o dan 2 funud gan geisio cael cyfrif strôc gyfartal fesul hyd - Deifio mewn i’r dŵr, yna nofio 100m yn y dull ar y bol o dan 2 funud, troi’n gyfreithiol gydag o leiaf 5m o giciau dolffin tanddwr oddi ar bob wal a gorffeniad cyfreithiol. Dylai’r nofiwr geisio cael cyfrif strôc gyfartal fesul hyd.
- Nofio 100m yn y dull ar y cefn o dan 2 funud 15 eiliad gan geisio cael cyfrif strôc gyfartal fesul hyd - Deifio mewn i’r dŵr, yna nofio 100m yn y dull ar y cefn o dan 2 funud 15 eiliad, troi’n gyfreithiol gydag o leiaf 5m o giciau dolffin tanddwr oddi ar bob wal a gorffeniad cyfreithiol. Dylai’r nofiwr geisio cael cyfrif strôc gyfartal fesul hyd.
- Nofio 100m yn y dull broga, gan geisio cael cyfrif strôc gyfartal fesul hyd - Deifio mewn i’r dŵr, yna nofio 100 metr yn y dull broga gan droi’n gyfreithiol, a dangos techneg tanddwr oddi ar bob wal, a gorffen. Dylai’r nofiwr geisio cael cyfrif strôc gyfartal fesul hyd.
- Nofio 100m yn y dull pili pala gan geisio cael cyfrif strôc gyfartal fesul hyd - Deifio mewn i’r dŵr, yna nofio 100m yn y dull pili pala, troi’n gyfreithiol gydag o leiaf 5m o giciau dolffin tanddwr oddi ar bob wal a gorffeniad cyfreithiol. Dylai’r nofiwr geisio cael cyfrif strôc gyfartal fesul hyd.
- Perfformio 300m o giciau - Perfformio 300 metr o giciau, 150m yn y dull ar y bol a 150m yn y dull strôc a ddewisir; defnyddio bwrdd cicio os yw’n briodol i’r strôc a ddewisir.
- Tynnu 100m yn y dull ar y bol a 100m yn y dull ar y cefn - Gan ddefnyddio teclyn arnofio, tynnu 100metr yn y dull ar y bol ac yna 100 metr yn y dull ar y cefn, gan ganolbwyntio ar droi’r corff.
- Nofio 400m yn barhaus yn y dull ar y bol - Nofio 400m yn y dull ar y bol yn barhaus, troi’n gyfreithiol a nofio o leiaf 5m tanddwr yn y dull cicio dolffin oddi ar bob wal a gorffeniad cyfreithiol.
- Nofio 200m yn y dull cymysg unigol - Nofio 200 metr yn y dull cymysg unigol gan nofio o leiaf 5m tanddwr yn y dull cicio dolffin neu gyfnod cyfreithiol tanddwr, a lle y bo’n briodol, troadau cyfreithiol a gorffen.
- Defnyddio set o ddulliau o ddewis yr hyfforddwr; dangos y gallu i ddefnyddio'r cloc amseru gyda chyfnod o seibiant - Dangos y gallu i ddefnyddio’r cloc amseru gyda chyfnod o seibiant wedi’i amseru.
- Defnyddio set o ddulliau o ddewis yr hyfforddwr; dangos y gallu i ddefnyddio'r cloc amseru gyda chyfnod o nofio/seibiant - Dangos y gallu i ddefnyddio’r cloc amseru gyda chyfnod o nofio/seibiant. Dylai’r nofiwr allu cyfrifo amser nofio a seibiant yn ystod set a chyfanswm amser nofio pob set.
Lefel 4
Cyfanswm yr amser nofio a argymhellir ar y lefel yma yw 3 awr yr wythnos, mewn amgylchedd clwb nofio.
Nodau
- Datblygu techneg strôc a chyflymder dros bellter hirach yn y 4 strôc.
- Dangos setiau o giciau gyda’r ymdrech fwyaf.
- Perfformio set sy’n gyfanswm o 800m.
Canlyniadau’r Asesiad
Mae strôcs a gweithredoedd cyfreithiol yn cyfeirio at gydymffurfio â chyfreithiau FINA.
- Nofio 100m yn y dull ar y bol o dan 1 munud 45 eiliad gyda chyfrif strôc cyfartal fesul hyd - Deifio mewn i’r dŵr, nofio 100m yn effeithlon yn y dull ar y bol o dan 1 munud 45 eiliad, troi’n gyfreithiol a nofio isafswm o 5 metr o giciau dolffin mewn ystum lliflin tanddwr oddi ar bob wal a gorffen yn gyfreithiol. Dylai’r nofiwr fod yn targedu cyfrif strôc cyfartal fesul hyd.
- Nofio 100m yn y dull ar y cefn o dan 2 funud gyda chyfrif strôc cyfartal fesul hyd - Deifio mewn i’r dŵr, nofio 100m yn effeithlon yn y dull ar y cefn o dan 2 funud, troi’n gyfreithiol a nofio isafswm o 5 metr o giciau dolffin mewn ystum lliflin tanddwr oddi ar bob wal a gorffen yn gyfreithiol. Dylai’r nofiwr fod yn targedu cyfrif strôc cyfartal fesul hyd.
- Nofio 100m yn y dull broga o dan 2 funud 20 eiliad - Deifio mewn i’r dŵr, nofio 100 metr yn effeithlon yn y dull broga o dan 2 funud 20 eiliad, cyfnod tanddwr cyfreithiol oddi ar bob wal, a throadau cyfreithiol a gorffen. Dylai’r nofiwr fod yn targedu cyfrif strôc cyfartal fesul hyd.
- Nofio 100 yn y dull pili pala o dan 2 funud 20 eiliad - Deifio mewn i’r dŵr, nofio 100m yn y dull pili pala o dan 2 funud 20 eiliad, troi’n gyfreithiol a nofio isafswm o 5 metr o giciau dolffin mewn ystum lliflin tanddwr oddi ar bob wal, troadau a gorffen yn gyfreithiol. Dylai’r nofiwr fod yn targedu cyfrif strôc cyfartal fesul hyd.
- Nofio 2 x 200m yn y dull cymysg unigol - Nofio 2x 200metr yn y dull cymysg unigol gan nofio o leiaf 5m tanddwr yn y dull cicio dolffin neu gyfnod cyfreithiol tanddwr, a lle y bo’n briodol, troadau cyfreithiol a gorffen. Dylai’r nofiwr fod yn targedu cyfrif strôc cyfartal fesul hyd.
- Perfformio 400m o giciau cyflym o’r ymdrech fwyaf - Perfformio 400m o giciau o’r ymdrech fwyaf fel 200m yn y dull ar y bol a 200m mewn strôc wahanol; defnyddio bwrdd cicio os oes angen ar gyfer y strôc a ddewisir.
- Tynnu 150m yn y dull ar y bol a 150m yn y dull ar y cefn - Gan ddefnyddio teclyn arnofio, tynnu 150metr yn y dull ar y bol ac yna 150 metr yn y dull ar y cefn.
- Nofio set sy’n gyfanswm o 800m yn y dull ar y bol - Nofio 800m yn y dull ar y bol ar gyflymder cyfartal, er enghraifft: 2 x 400 metr, 4 x 200 metr neu 8 x 100 metr neu 16 x 50 metr (neu rywbeth mwy creadigol!)
Lefel 5
Cyfanswm yr amser nofio a argymhellir ar y lefel yma yw 4 awr yr wythnos, mewn amgylchedd clwb nofio.
Nodau
- Datblygu techneg strôc a chyflymder dros bellter hirach yn y 4 strôc.
- Arddangos set o giciau ar yr ymdrech fwyaf dros bellter hirach.
- Perfformio set sy’n gyfanswm o 800m.
Canlyniadau’r Asesiad
Mae strôcs a gweithredoedd cyfreithiol yn cyfeirio at gydymffurfio â chyfreithiau FINA.
- Nofio 200m yn y dull ar y bol o dan 3 munud 30 eiliad - Deifio i mewn i’r dŵr, nofio 200m yn effeithlon yn y dull ar y bol o dan 3 munud 30 eiliad, troi’n gyfreithiol a nofio isafswm o 5 metr o giciau dolffin mewn ystum lliflin tanddwr oddi ar bob wal a gorffen. Dylai’r nofiwr fod yn targedu cyfrif strôc cyfartal fesul hyd.
- Nofio 200m yn y dull ar y cefn o dan 4 munud - Deifio i mewn i’r dŵr, nofio 200m yn effeithlon yn y dull ar y cefn o dan 4 munud, troi’n gyfreithiol a nofio isafswm o 5 metr o giciau dolffin mewn ystum lliflin tanddwr oddi ar bob wal a gorffen yn gyfreithiol. Dylai’r nofiwr fod yn targedu cyfrif strôc cyfartal fesul hyd.
- Nofio 200m yn y dull broga o dan 4 funud 30 eiliad - Deifio i mewn i’r dŵr, nofio 200 metr yn effeithlon yn y dull broga o dan 4 funud 30 eiliad, cyfnod tanddwr cyfreithiol oddi ar bob wal, a throadau cyfreithiol a gorffen. Dylai’r nofiwr fod yn targedu cyfrif strôc cyfartal fesul hyd.
- Nofio set sy’n gyfanswm o 200m yn y dull pili pala - Nofio set sy’n gyfanswm 200m yn y dull pili pala yn effeithlon ar gyflymder cyfartal, gan arddangos troadau gydag isafswm o 5m o giciau dolffin tanddwr oddi ar bob wal, troadau cyfreithiol a gorffen. Dylai’r set gynnwys isafswm o nofio 1 x 100m ac yna naill ai nofio am 50m neu 25m. Dylai’r nofiwr fod yn targedu cyfrif strôc cyfartal fesul hyd.
- Nofio 400m yn y dull cymysg unigol - Nofio 400 metr yn y dull cymysg unigol gan nofio o leiaf 5m tanddwr yn y dull cicio dolffin neu gyfnod cyfreithiol tanddwr, a lle y bo’n briodol, troadau cyfreithiol a gorffen.
- Perfformio 4 x 100m o giciau o’r ymdrech fwyaf - Perfformio set o 4 x 100 metr o giciau o’r ymdrech fwyaf ar amser nofio a seibiant o 2 funud 45 eiliad.
- Nofio set sy’n gyfanswm o 600m yn y dull ar y bol a 450m mewn dull arall - Nofio isafswm o 3 x 200m yn y dull ar y bol a 3 x 150 metr mewn dull arall, gan ganolbwyntio ar bellter fesul strôc, amser cyson ar gyfer pob un a chiciau dolffin tanddwr cyson am o leiaf 5m.
- Nofio 800m yn y dull ar y bol - Nofio 800m yn y dull ar y bol ar gyflymder cyfartal, canolbwyntio ar bellter fesul strôc a chiciau dolffin tanddwr cyson am o leiaf 5m.
I gael rhagor o fanylion am unrhyw weithgaredd neu glwb, cysylltwch â ni neu gallwch ymweld â’ch pwll nofio lleol.