Academi/SwimFit Ieuenctid
Yr Academi ydi’r llwybr perffaith i’r rhai sydd eisiau symud ymlaen i Glwb Nofio.
Mae’r Academi sy’n dilyn rhaglen Sgiliau Nofio Uwch Nofio Cymru, yn cynnig cyfle i nofwyr ddatblygu sgiliau nofio uwch allweddol. Mae 5 lefel wedi’u llunio ar gyfer nofwyr sydd am wella eu techneg yn y pedwar arddull, ynghyd â dulliau dechrau, troi a gorffen. Mae’r lefelau wedi’u rhestru isod o ganllawiau Nofio Cymru. Mae wedi’i lunio i sefydlu ymarfer da ac arferion a sgiliau cywir yn gynnar yn eu gyrfa nofio.
Manteision yr Academi:
- Rhoi fframwaith â strwythur i athrawon a hyfforddwyr i’w ddefnyddio’n benodol i greu sylfaen gadarn ar gyfer ddarpar nofwyr cystadleuol.
- Rhoi eglurder i nofwyr am yr hyn maen nhw’n gweithio arno a pha sgiliau sy’n bwysig i’w datblygu. Mae hyn yn ysbrydoli plant i symud drwy’r lefelau a gwella eu sgiliau.
- Darparu cyswllt didrafferth i glwb nofio o ddarparwr dysgu nofio.
- Cynllun gwobrwyo dwyieithog lle gall darparwyr gynnig tystysgrifau i gyfranogwyr ar ôl cyflawni lefel, yn cynnwys bathodynnau pellter hyd at 5000m.
I gael rhagor o fanylion am unrhyw weithgaredd neu glwb, cysylltwch â ni neu gallwch ymweld â’ch pwll nofio lleol.
Cyfanswm yr amser nofio a argymhellir ar y lefel yma yw 1 awr yr wythnos, naill ai mewn rhaglen Dysgu Nofio neu glwb nofio.
Nodau
- Datblygu techneg deifio a chyfnod dan y dŵr
- Datblygu techneg troi
- Datblygu techneg stroc dros bellter hirach, troi yn gyfreithiol, cyfnod dan y dŵr a gorffeniadau
- Datblygu techneg cicio a thynnu
Canlyniadau'r Asesiad
Mae strocs a gweithredoedd cyfreithiol yn cyfeirio at gydymffurfio a chyfreithiau FINA.
- Deifio mewn i ddŵr bas a chiciau dolffin o dan y dŵr - Deifio mewn i ddŵr bas, yna ciciau dolffin o dan y dŵr am o leiaf 5m gan gynnal ystum corff lliflin. Isafswm dyfnder o 1.8m
- Deifio mewn i ddŵr bas a chyfnod o nofio dull broga o dan y dŵr - Deifio mewn i ddŵr bas, yna cwblhau un dull broga o dan y dŵr a chicio i'r wyneb. Isafswm dyfnder o 1.8m
- Troi wrth wal gan ddefnyddio dull bol a dull broga - Nofio tuag at wal y pwll, troi, gwthio i ffwrdd mewn ystum lliflin a chyflawni ciciau dolffin o dan y dŵr am 5m yn y dull bol a dull broga.
- Sgwlio am 25m ar y bol a 25m ar y cefn - Defnyddio teclyn arnofio i gefnogi ystum y corff, sgwlio 25 metr ar y bol a 25 metr ar y cefn, gan ganolbwyntio ar deimlo'r dŵr.
- Nofio 75m ar y bol - Nofio 75 metr ar y bol gan nofio 5m o dan y dŵr gyda chiciau dolffin o'r dechrau, troi gyda chiciau tanddwr lliflin oddi ar bob wal a gorffeniad cyfreithiol. Defnyddio cyfuniad o anadlu ar y ddwy ochr (e.e. 3 neu 5 stroc), ac anadlu ar un ochr (e.e. 2 neu 4 stroc), gan newid ar ddiwedd pob hyd.
- Nofio 75m ar y cefn - Nofio 75 metr ar y cefn gan nofio 5m o dan y dŵr gyda chiciau dolffin o'r dechrau, troi'n gyfreithiol gyda chiciau dolffin tanddwr lliflin oddi ar bob wal a gorffeniad cyfreithiol.
- Nofio 50m yn y dull broga - Nofio 50 metr yn y dull broga, gan droi'n gyfreithiol dan y dŵr oddi ar bob wal a chyffwrdd, troi a gorffen yn gyfreithiol.
- Nofio 50m yn y dull pili pala - Nofio 50 metr yn y dull pili pala gan nofio 5m o dan y dŵr gyda chiciau dolffin o'r dechrau, cyffwrdd a throi'n gyfreithiol gyda chiciau dolffin tanddwr lliflin oddi ar y wal, a gorffeniad cyfreithiol.
- Perfformio cic fedrus dechnegol am 100m - Perfformio cic fedrus dechnegol am 100 metr: 50 metr ar y bol ac yna 50 metr gyda stroc wahanol; gan ddefnyddio bwrdd cicio os yw'n briodol ar gyfer y stroc a ddewisir.
- Tynnu 50m ar y bol - Gan ddefnyddio teclyn arnofio, tynnu 50metr ar y bol.
- Nofio 2 x 100m yn y Dull Cymysg Unigol - Dechrau drwy ddeifio i mewn a chiciau dolffin tanddwr am 5m, nofio 2 x 100 metr yn y dull cymysg unigol gan droi’n gyfreithiol, cyfnodau dan y dŵr a gorffen.
- Cymryd rhan mewn ras gyfnewid gymysg - Cymryd rhan mewn ras gyfnewid gymysg gan gyfnewid yn gyfreithiol, bydd pob nofiwr yn nofio 25 metr. Dylid nofio'r ras gyfnewid gymysg yn y drefn ganlynol: dull ar y cefn, dull broga, dull pili pala, dull ar y bol.
Cyfanswm yr amser nofio a argymhellir ar y lefel yma yw 1 awr yr wythnos.
Nodau
- Datblygu technegau deifio mewn i'r dŵr a newid stroc dan y dŵr gan ddefnyddio 5 metr o giciau dolffin tanddwr, sy’n briodol i'r stroc.
- Troi'n gyfreithiol yn y 4 stroc gan ddefnyddio 5 metr o giciau dolffin tanddwr pan fo'n briodol.
- Datblygu techneg stroc dros bellter hirach, troi yn gyfreithiol, cyfnod dan y dŵr a gorffeniadau.
- Cynyddu pellter techneg tynnu a chicio medrus.
Canlyniadau'r Asesiad
Mae strocs a gweithredoedd cyfreithiol yn cyfeirio at gydymffurfio a chyfreithiau FINA.
- Deifio mewn i'r dŵr am 3 stroc, i gynnwys dull ar y cefn, dull broga, dull ar y bol neu ddull pili pala - Deifio mewn i'r dŵr ar gyfer dull ar y cefn, dull broga, dull ar y bol neu ddull pili pala a newid i stroc berthnasol i 15 metr. Ar gyfer y dull ar y bol, dull ar y cefn a'r dull pili pala, nofio am isafswm o 5m tanddwr mewn ystum lliflin gyda chiciau dolffin, a newid i stroc lawn; ar gyfer y dull broga, dangos y cyfnod tanddwr cyfreithiol a newid i stroc lawn.
- Troi wrth y wal am 4 stroc - Troi wrth y wal am 4 stroc gan ddefnyddio'r dull troi cyfreithiol ar gyfer y dull ar y bol a dull ar y cefn a chyffwrdd a throi cyfreithiol ar gyfer dull broga a dull pili pala, gan ddefnyddio'r cyfnod tanddwr cyfreithiol i newid stroc.
- Sgwlio gyda'r dwylo wedi'u hymestyn am 25 metr ar y bol a 25m ar y cefn - Gan ddefnyddio teclyn arnofio i gefnogi ystum y corff os oes angen, sgwlio am 25 metr ar y bol a 25 metr ar y cefn, gan sgwlio gyda'r dwylo wedi'u hymestyn.
- Nofio 100m ar y bol - Nofio 100 metr ar y bol gan nofio 5m o dan y dŵr gyda chiciau dolffin o'r dechrau, troi gyda chiciau tanddwr lliflin oddi ar bob wal a gorffeniad cyfreithiol. Defnyddio cyfuniad o anadlu ar y ddwy ochr (e.e. 3 neu 5 stroc), ac anadlu ar un ochr (e.e. 2 neu 4 stroc), gan newid ar ddiwedd pob hyd.
- Nofio 100m ar y cefn - Nofio 100 metr ar y cefn gan nofio 5m o dan y dŵr gyda chiciau dolffin o'r dechrau, troi'n gyfreithiol gyda chiciau dolffin tanddwr lliflin oddi ar bob wal a gorffeniad cyfreithiol.
- Nofio 75m yn y dull broga - Nofio 75 metr yn y dull broga, gan droi'n gyfreithiol dan y dŵr oddi ar bob wal a chyffwrdd, troi a gorffen yn gyfreithiol.
- Nofio 75m yn y dull pili pala - Nofio 75 metr yn y dull pili pala gan nofio 5m o dan y dŵr gyda chiciau dolffin o'r dechrau, cyffwrdd a throadau cyfreithiol gyda chiciau dolffin tanddwr lliflin oddi ar y wal, a gorffeniad cyfreithiol.
- Perfformio cic 200m - Perfformio cic am 200 metr: 100 metr ar y bol ac yna 100 metr gyda stroc wahanol, gan ddefnyddio bwrdd cicio os yw'n briodol ar gyfer y stroc a ddewisir.
- Tynnu 50m yn y dull ar y bol a 50m yn y dull ar y cefn - Gan ddefnyddio teclyn arnofio, tynnu 50 metr yn y dull ar y bol ac yna 50 metr yn y dull ar y cefn.
- Nofio 3 x 100m yn y Dull Cymysg Unigol - Dechrau drwy ddeifio i mewn a chiciau dolffin tanddwr am 5m, nofio 3 x 100 metr yn y dull cymysg unigol gan droi'n gyfreithiol, cyfnodau dan y dŵr a gorffen.
- Nofio 300m ar y bol yn barhaus - Nofio 300 metr ar y bol gan nofio 5m o dan y dŵr gyda chiciau dolffin o'r dechrau, troi gyda chiciau tanddwr lliflin oddi ar bob wal a gorffeniad cyfreithiol.
- Cymryd rhan mewn ras gyfnewid - Cymryd rhan mewn ras gyfnewid gan gyfnewid yn gyfreithiol, bydd pob nofiwr yn nofio 50 metr.
I gael rhagor o fanylion am unrhyw weithgaredd neu glwb, cysylltwch â ni neu gallwch ymweld â’ch pwll nofio lleol.