Sblash (3+ Oed)
Mae FFiT Conwy yn dilyn Fframwaith Dysgu Nofio Cymru. Mae ein gwersi ni i gyd yn gynhwysol ac ar gael i amrywiaeth o alluoedd ac oedrannau.
Mae fframwaith Sblash yn annog plant ifanc i ddarganfod yr amgylchedd dŵr yn annibynnol a dan arweiniad er mwyn datblygu eu hyder yn y dŵr. Mae wedi’i anelu’n benodol at blant 3 oed a hŷn.
Mae 6 lefel cynnydd yn rhan o raglen Sblash a bydd sgiliau dŵr y plant yn datblygu'n raddol o un lefel i'r llall wrth iddyn nhw ddod yn fwyfwy annibynnol yn y dŵr. Bydd plant yn dysgu drwy ddarganfod yr amgylchedd dŵr dan arweiniad i ddatblygu eu hyder yn y dŵr.
Dim ond £25 y mis
Dim ond £25 y mis yw gwersi nofio i blant
Canlyniadau Dysgu
- Gallaf fynd i'r dwr, troi a mynd yn ol at ymyl y pwll gyda chymorth gan fy oedolyn neu fy athro
- Gallaf symud 2 medr i un cyfeiriad ac yn ol eto ar hyd wal neu reilen y pwll gyda chymhorthion nofio
- Gallaf gicio fy nghoesau ar fy mol neu fy nghefn gyda chymhorthion nofio a chymorth gan fy oedolyn neu athro
- Gallaf symud 2 medr ar fy mol neu fy nghefn at ymyl y pwll gyda chymhorthion a chymorth gan fy oedolyn neu athro
- Gallaf arnofio ar fy nghefn gyda chymorth gan fy oedolyn neu athro os wyf ei angen
- Gallaf chwythu tegan sy'n arnofio am 2 medr
- Gallaf ddod yn ol ar i fyny (yn fertigol) yn y dwr gyda chymhorthion a chymorth gan fy oedolyn neu athro (os wyf ei angen)
- Gallaf wthio oddi wrth y wal, ar fy nghefn gyda chymhorthion
- Gallaf ddod allan o'r dwr yn ddiogel, gyda chymorth gan fy oedolyn os oes angen
- Gallaf droi at y dwr, dychwelyd i'r ochr a dringo allan gyda goruchwyliaeth gan fy oedolyn neu athro
- Gallaf symud 5 medr un ffordd ac yn ol eto ar hyd wal neu reilen y pwll gyda chymhorthion
- Gallaf gicio fy nghoesau ar fy mol gyda chymhorthion a chymorth gan fy oedolyn
- Gallaf gicio fy nghoesau ar fy nghefn gyda chymhorthion a chymorth gan fy oedolyn
- Gallaf symud 3 medr ar fy mol neu fy nghefn at ymyl y pwll gyda chymhorthion a chymorth gan fy oedolyn
- Gallaf arnofio ar fy mol gyda chymorth gan fy oedolyn neu athro os oes angen
- Gallaf chwythu tegan sy'n arnofio am 5 medr
- Gallaf aros ar i fyny yn y dwr, gyda chymhorthion os oes angen
- Gallaf wthio oddi wrth y wal, ar fy mol, gyda chymhorthion
- Gallaf fynd i'r dwr, troi a dod yn ol at ymyl y pwll ar fy mhen fy hun
- Gallaf gicio 5 medr ar fy mol gyda chymhorthion a dim ond rhywfaint o help gan fy athro
- Gallaf gicio 5 medr ar fy nghefn gyda chymhorthion a dim ond rhywfaint o help gan fy athro
- Gallaf symud 3 medr ar fy mol neu fy nghefn, gyda chymhorthion, at wrthrych sy'n arnofio, gyda goruchwyliaeth gan fy athro
- Gallaf arnofio ar fy mol ac ar fy nghefn, gyda goruchwyliaeth gan fy athro
- Gallaf roi fy wyneb cyfan yn y dwr yn hyderus
- Gallaf droi oddi ar fy mol ar fy nghefn neu oddi ar fy nghefn ar fy mol gyda chymhorthion, gyda goruchwyliaeth gan fy athro
- Gallaf wthio a llithro, gyda neu heb gymhorthion, ar fy mol ac ar fy nghefn
- Gallaf fynd i'r pwll a dod allan yn ddiogel ar fy mhen fy hun
- Gallaf gicio fy nwy goes ar yr un pryd am 5 medr ar fy mhen fy hun gyda chymhorthion
- Gallaf gicio fy nghoesau am 5 medr ar fy mhen fy hun gyda chymhorthion
- Gallaf gicio fy nghoesau ar fy nghefn am 5 medr ar fy mhen fy hun gyda chymhorthion
- Gallaf symud 3 medr ar fy mol neu fy nghefn, gyda chymhorthion, i ymyl y pwll, ar fy mhen fy hun
- Gallaf arnofio ar fy mol ac ar fy nghefn ar fy mhen fy hun gyda chymhorthion
- Gallaf berfformio 3 anadl rhythmig
- Gallaf droi oddi ar fy mol ar fy nghefn, neu oddi ar fy nghefn ar fy mol, ar fy mhen fy hun
- Gallaf wthio a llithro tuag at fy athro ar fy mol neu ar fy nghefn, ar fy mhen fy hun
- Gallaf fynd i'r dwr yn ddiogel 2 ffordd wahanol, gan gynnwys neidio, gyda neu heb gymhorthion, a dychwelyd at ymyl y pwll, gyda goruchwyliaeth gan fy athro
- Gallaf symud 3 medr gyda fy mreichiau a fy nghoesau ar yr un pryd, gyda chymhorthion
- Gallaf symud 3 medr, gyda fy mreichiau a fy nghoesau, ar fy mol gyda chymhorthion
- Gallaf symud 3 medr gyda fy mreichiau a fy nghoesau ar fy nghefn gyda chymhorthion
- Gallaf arnofio ar fy mol ac ar fy nghefn, gyda chymhorthion os oes eu hangen arnaf
- Gallaf fynd o dan y dwr yn llwyr, gyda chymorth gan fy athro os oes angen
- Gallaf berfformio 6 anadl rhythmig, gan edrych i'r ddwy ochr
- Gallaf droi'r holl ffordd rownd, gan gychwyn oddi ar fy mol neu fy nghefn
- Gallaf wthio a llithro'n llyfn ac yn syth tuag at fy athro, ar fy mol neu fy nghefn
- Gallaf fynd i'r dwr yn ddiogel 2 ffordd wahanol, gan gynnwys neidio a dychwelyd at ymyl y pwll a dringo allan, ar fy mhen fy hun
- Gallaf badlo, gan ddefnyddio fy nwy fraich a fy nwy goes ar yr un pryd am 5 medr, gyda chymhorthion
- Gallaf badlo ar fy mol am 5 medr, gyda chymhorthion
- Gallaf badlo ar fy nghefn am 5 medr, gyda chymhorthion
- Gallaf arnofio ar fy mol neu fy nghefn am 5 eiliad, ar fy mhen fy hun
- Gallaf fynd o dan y dwr yn llwyr ar fy mhen fy hun
- Gallaf chwythu swigod gyda fy wyneb yn y dwr, heb gogls
- Gallaf ddod yn ol ar fy sefyll ar ol gorwedd ar fy mol ac ar fy nghefn
- Gallaf wthio a llithro'n llyfn ac yn syth oddi wrth y wal ar fy mol ac ar fy nghefn
I gael rhagor o fanylion am unrhyw weithgaredd neu glwb, cysylltwch â ni neu gallwch ymweld â’ch pwll nofio lleol.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.