Title

Text
cy Cartref Nofio Gwersi Nofio Gwersi Achub Bywyd
start content

Gwersi Achub Bywyd

Gwersi Achub Bywyd Mae ein gwersi achub bywyd yn dilyn rhaglen Cymdeithas Frenhinol Achub Bywydau y DU (RLSS UK). Fe lansiwyd y rhaglen gyntaf yn y 1980au, wedi’i dylunio i blant 8 i 12 oed, ac mae’n fan cychwyn i sawl achubwr bywyd heddiw - tra bod edrychiad a theimlad gwobrau Achub Bywyd wedi newid llawer dros y blynyddoedd, mae’r egwyddorion craidd wedi aros yr un fath. 

Amcanion rhaglen Achub Bywyd:

  • I addysgu ac ymgysylltu â chyfranogwyr am ddiogelwch dŵr, gan eu paratoi gyda’r wybodaeth hanfodol i adnabod perygl ac i aros yn ddiogel o amgylch dŵr. 
  • Dysgu sgiliau achub bywyd sylfaenol, awdurdodi cyfranogwyr i ymateb yn effeithiol mewn argyfyngau. 
  • Dysgu sgiliau rhyngnewidiol, yn cynnwys magu hyder, hyrwyddo gwaith tîm, a meithrin sgiliau arweinyddiaeth.  

Sut mae’r Rhaglen Achub Bywydau yn gweithio:

Mae’r Rhaglen Achub Bywydau yn cynnig cwricwlwm strwythuredig wedi’i ddylunio i ymgysylltu â chyfranogwyr ifanc a’u haddysgu.  Mae'r pynciau’n cynnwys: 

  • Addysg Diogelwch Dŵr  - adnabod mathau gwahanol o beryglon dŵr ar draethau, ger afonydd, a lleoliadau dŵr agored eraill, a sut i ymddwyn yn ddiogel o amgylch dŵr, ystyried eu gweithredoedd eu hunain ac annog rhannu arferion gorau gyda phobl eraill.  
  • Achub eu hunain - addysgu sgiliau cymhwysedd yn y dŵr, yn cynnwys sut i arnofio, troedio dŵr a chadw egni yn y dŵr. Mae’r sgiliau yma’n hanfodol ar gyfer achub eu hunain a rhoi hyder i Achubwyr Bywyd i arnofio ac i aros am gymorth mewn argyfwng.  
  • Technegau Achub – sgiliau hollbwysig i ymateb yn effeithiol mewn argyfyngau, yn cynnwys cyrraedd teclynnau achub, taflu teclynnau achub, a defnyddio teclynnau achub ar hap i achub eu hunain neu bobl eraill rhag sefyllfaoedd niweidiol posibl yn ddiogel.  
  • Sgiliau Achub Bywyd - cyflwyno sgiliau achub bywyd hanfodol, megis yr ystum adfer, CPR a chymorth cyntaf sylfaenol. Mae’r sgiliau yma’n awdurdodi unigolion ifanc i roi cymorth ar unwaith ac o bosib achub bywydau mewn argyfwng, nid mewn amgylchedd wrth ddŵr yn unig.  
  • Ffitrwydd a Stamina - gweithgareddau i helpu i ddatblygu gwytnwch a chryfder yn y dŵr, gwella lefelau ffitrwydd yn gyffredinol a’u galluogi nhw i fod yn fwy hyderus a galluog ym mhob amgylchedd.  

I gael rhagor o fanylion am unrhyw weithgaredd neu glwbcysylltwch â ni neu gallwch ymweld â’ch pwll nofio lleol.

end content