Title

Text
start content

Ton (4-11 Oed)

Mae FFiT Conwy yn dilyn Fframwaith Dysgu Nofio Cymru. Mae ein gwersi ni i gyd yn gynhwysol ac ar gael i amrywiaeth o alluoedd ac oedrannau.

Tonnau 1 i 7 yw’r brif ardal ‘Dysgu Nofio’. Bydd y sgiliau nofio a’r sgiliau dŵr angenrheidiol yn cael eu haddysgu i blant o tua 4/5 oed (yn dibynnu ar y darparwr) i nofio ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr eraill fel Achub Bywydau, Nofio Artistig, Deifio, Nofio Cystadleuol a Pholo Dŵr. Bydd sgiliau hyder a gallu yn y dŵr yn cael eu dysgu iddyn nhw hefyd a byddan nhw’n dysgu sut i fod yn ddiogel yn y dŵr ac o amgylch dŵr, fel nofio mewn dillad, troedio’r dŵr a nofio heb gogls. Mae Ton 8 yn aml ddyfrol a gall naill ai fod yn rhagflas ar gyfer cymryd rhan mewn un o'r chwaraeon dŵr neu’n rhywle y gall cyfranogwr barhau i fwynhau yn y dŵr.

Dim ond £25 y mis

Dim ond £25 y mis yw gwersi nofio i blant

 

Canlyniadau Dysgu

Lefel 1

  1. Rwy'n gwybod rheolau'r pwll a'r wers
  2. Gallaf fynd i mewn i'r dwr ac allan yn ddiogel
  3. Gallaf chwarae gem dan arweiniad hyfforddwr yn y pwll
  4. Heb wisgo gogls, gallaf sgwpio a sblasio dwr dros fy wyneb ac rwy'n hyderus pan gaiff dwr ei dasgu dros fy mhen
  5. Gallaf arnofio ar fy mol
  6. Gallaf arnofio ar fy nghefn
  7. Gallaf wthio oddi ar y wal ar fy mol neu ar fy nghefn
  8. Gallaf nofio gyda'r ddwy fraich/ goes yn symud bob yn ail ar fy mol
  9. Gallaf nofio gyda'r ddwy fraich/ goes yn symud ar yr un pryd ar fy mol
  10. Gallaf nofio gyda'r ddwy fraich/ goes yn symud bob yn ail ar fy nghefn
  11. Gallaf sgwlio gyda’m corff yn fertigol

Lefel 2

  1. Gallaf ateb cwestiynau ynglyn a diogelwch dwr
  2. Gallaf neidio i'r pwll heb gogls
  3. Gallaf arnofio ar fy mol
  4. Gallaf arnofio ar fy nghefn
  5. Wrth gicio, gallaf chwythu swigod
  6. Gallaf wthio a gleidio ar fy mol
  7. Gallaf wthio a gleidio ar fy nghefn
  8. Gallaf nofio yn y dull blaen am 5m
  9. Gallaf nofio ar fy nghefn am 5m
  10. Gallaf nofio yn y dull broga neu'r dull pili-pala am 5m
  11. Gallaf droi 360 gradd
  12. Gallaf sgwlio ar fy nghefn gyda'r pen yn gyntaf

Lefel 3

  1. Rwy'n gwybod y pedair neges diogelwch dwr a'r baneri traeth
  2. Heb gogls, gallaf neidio i mewn, troedio'r dwr am 15 eiliad a dringo allan o'r pwll
  3. Gallaf fynd o dan y dwr yn llwyr er mwyn nol gwrthrych oddi ar waelod y pwll
  4. Gallaf wthio a gleidio a throi
  5. Gallaf nofio 10m yn y dull blaen (frontcrawl)
  6. Gallaf nofio 10m ar fy nghefn
  7. Gallaf nofio 5m yn y dull broga
  8. Gallaf nofio 5m yn y dull pili-pala
  9. Gallaf berfformio cyfres o siapiau wrth arnofio
  10. Gallaf newid cyfeiriad wrth nofio
  11. Gallaf sgwlio gyda'm traed yn gyntaf ar fy nghefn

Lefel 4

  1. Rwy'n gwybod y pedair neges diogelwch dwr a'r baneri traeth
  2. Gallaf ddangos ystum HELP
  3. Heb gogls, gallaf neidio i mewn, troedio’r dwr am 30 eiliad a dringo allan o'r pwll
  4. Gallaf nofio 10m mewn dillad
  5. Gallaf gicio fel dolffin o dan y dwr
  6. Gallaf deithio 10m drwy gicio yn y dull blaen
  7. Gallaf deithio 10m drwy gicio ar fy nghefn
  8. Gallaf nofio 10m yn y dull blaen neu ar y cefn i Safon Stroc Nofio Cymru
  9. Gallaf deithio 10m drwy gicio yn y dull broga
  10. Gallaf deithio 10m drwy gicio yn y dull pili-pala
  11. Gallaf nofio 10m yn y dull broga neu ddull pili-pala i Safon Stroc Nofio Cymru
  12. Fel rhan o dim, gallaf berfformio cyfres o sgiliau

Lefel 5

  1. Rwy'n gwybod y pedair neges diogelwch dwr a'r baneri traeth
  2. Gallaf ddangos gwahanol ffyrdd o neidio i'r pwll
  3. Gallaf nofio 15m mewn dillad
  4. Gallaf ddangos ystum i dynnu sylw i gael help yn y dwr
  5. Gallaf ymestyn i achub
  6. Gallaf nofio 15m yn y dull blaen i Safon Stroc Nofio Cymru
  7. Gallaf nofio 15m ar fy nghefn i Safon Stroc Nofio Cymru
  8. Gallaf nofio 10m yn y dull broga i Safon Stroc Nofio Cymru
  9. Gallaf nofio 10m yn y dull pili-pala i Safon Stroc Nofio Cymru
  10. Gallaf nofio 25m
  11. Gallaf berfformio cyfres o symudiadau sgwlio
  12. Gallaf wneud trosben ymlaen yn y dwr
  13. Gallaf sefyll ar fy mhen yn y dwr

Lefel 6

  1. Rwy'n gwybod y pedair neges diogelwch dwr a'r baneri traeth
  2. Gallaf nofio 25m mewn dillad
  3. Gallaf droedio dwr a symud i ystum CWTSIO
  4. Gallaf achub drwy daflu yn effeithiol
  5. Gallaf nofio 20m yn y dull blaen i Safon Stroc Nofio Cymru
  6. Gallaf nofio 20m ar fy nghefn i Safon Stroc Nofio Cymru
  7. Gallaf nofio 15m yn y dull broga i Safon Stroc Nofio Cymru
  8. Gallaf nofio 15m yn y dull pili-pala i Safon Stroc Nofio Cymru
  9. Gallaf nofio 50 metr
  10. Gallaf blymio oddi ar fy eistedd
  11. Gallaf berfformio trosben yn ol yn y dwr
  12. Gallaf basio a dal pel wrth droedio’r dwr

Lefel 7

  1. Rwy'n gwybod y pedair neges diogelwch dwr a'r baneri traeth
  2. Gallaf nofio 25m yn y dull blaen i Safon Stroc Nofio Cymru
  3. Gallaf nofio 25m ar fy nghefn i Safon Stroc Nofio Cymru
  4. Gallaf nofio 25m yn y dull broga i Safon Stroc Nofio Cymru
  5. Gallaf nofio 25m yn y dull pili-pala i Safon Stroc Nofio Cymru
  6. Gallaf nofio 100m yn y dull cymysg (pili-pala, ar y cefn, broga, y dull blaen) i Safon Stroc Nofio Cymru
  7. Gallaf nofio 200 metr i Safon Stroc Nofio Cymru
  8. Gallaf ddeifio i'r dwr
  9. Gallaf basio a dal pel wrth droedio'r dwr am 30 eiliad
  10. Gallaf gwblhau cwrs rhwystrau yn y dwr
  11. Gallaf berfformio cyfres o sgiliau
  12. Cymerais ran mewn ras gyfnewid

Lefel 8

  1. Gallaf sgwlio wrth orwedd ar y cefn a'r coesau gyda'i gilydd
  2. Gallaf blymio o wyneb y dwr, teithio o dan y dwr a dychwelyd i wyneb y dwr dan reolaeth
  3. Gallaf dwcio cyn ymestyn y corff allan
  4. Gallaf symud o wthio a gleidio i ddeifio o'r arwyneb
  5. Rwy'n gwybod y pedair neges diogelwch dwr a'r baneri traeth
  6. Gallaf nofio 50 metr mewn dillad
  7. Gallaf ddangos ystum HELP
  8. Ar ol deifio i'r pwll, gallaf nofio 50m yn y dull blaen, i Safon Stroc Nofio Cymru
  9. Ar ol gwthio a gleidio o dan y dwr, gallaf nofio 50m ar y cefn, i Safon Stroc Nofio Cymru
  10. Ar ol deifio i'r pwll, gallaf nofio 25m yn y dull broga, i Safon Stroc Nofio Cymru
  11. Ar ol deifio i mewn, gallaf nofio 25m yn y dull pili-pala, i Safon Stroc Nofio Cymru
  12. Gallaf aros yn fertigol ac yn yr unfan yn troedio'r dwr drwy gicio'r coesau fel chwisg wyau
  13. Gallaf basio pel i bartner

 

 

I gael rhagor o fanylion am unrhyw weithgaredd neu glwb, cysylltwch â ni neu gallwch ymweld â’ch pwll nofio lleol.

Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

end content