Swigod (0-3 Oed)
Mae FFiT Conwy yn dilyn Fframwaith Dysgu Nofio Cymru. Mae ein gwersi ni i gyd yn gynhwysol ac ar gael i amrywiaeth o alluoedd ac oedrannau. Mae rhaglen Swigod yn rhoi cyflwyniad i’r amgylchedd dŵr â chefnogaeth lawn ar gyfer babanod a phlant ifanc ac oedolyn gyda nhw, ac mae wedi'i anelu'n benodol at blant 0-3 oed.
Mae 4 lefel cynnydd yn rhan o raglen Swigod, a bydd sgiliau dŵr y plant yn datblygu'n raddol o un lefel i’r llall. Mae oedolion cyfrifol yn cael eu haddysgu sut i gefnogi a helpu’r plentyn trwy chwarae gemau, canu caneuon a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog â themâu iddynt.
Dim ond £25 y mis yw gwersi nofio i blant, gallwch weld rhestr lawn o'n prisiau yma!
Canlyniadau Dysgu
Lefel 1
- Gall fy oedolyn a minnau fynd i mewn i’r dwˆ r yn ddiogel a chyfforddus
- Mae fy oedolyn yn fy helpu i afael yn ymyl y pwll
- Gall fy oedolyn fy nghynnal i symud o gwmpas yn y dwˆ r ar i fyny
- Gall fy oedolyn fy nghynnal i symud o gwmpas y dwˆ r ar fy mol
- Gall fy oedolyn fy nghynnal i symud o gwmpas y dwˆ r ar fy nghefn
- Rwyf yn gyfforddus gyda dwˆ r yn cael ei ddiferu dros fy mhen gan fy oedolyn
- Gall fy oedolyn fy nhroi pan wyf yn fertigol i wynebu oddi wrtho
- Rwyf yn gyfforddus ac yn fodlon yn y dwˆr
- Gall fy oedolyn a minnau ddod allan o’r dwˆr yn ddiogel
Lefel 2
- Gallaf eistedd ar ochr y pwll ac aros am gyfarwyddyd gan fy oedolyn i fynd i’r dwˆ r yn ddiogel gyda chynhaliaeth lawn
- Gallaf ddal gafael ar ymyl y pwll gyda rhywfaint o help gan fy oedolyn
- Gall fy oedolyn fy symud o gwmpas yn y dwˆ r ar i fyny (yn fertigol) gyda llai o gynhaliaeth
- Gall fy oedolyn fy nghynnal ar fy mol i symud o gwmpas yn y dwˆ r
- Gall fy oedolyn fy nghynnal ar fy nghefn i symud o gwmpas yn y dwˆ r
- Gyda help gan fy oedolyn, gallaf arnofio ar fy mol neu ar fy nghefn
- Rwyf yn gyfforddus gyda dwˆ r yn cael ei dasgu dros fy mhen gan fy oedolyn
- Gyda help gan fy oedolyn gallaf droi 180 gradd un ai oddi ar fy mol ar fy nghefn neu oddi ar fy nghefn ar fy mol
- Gallaf sblasio fy nwylo yn y dwˆ r
Lefel 3
- Gallaf eistedd ar ymyl y pwll ac aros i gael cyfarwyddyd gan fy oedolyn i fynd i mewn i’r dwˆ r yn ddiogel
- Gallaf ddal gafael yn ymyl y pwll, gyda chymorth gan fy oedolyn yn ôl yr angen
- Mae fy oedolyn yn fy annog i gicio fy nghoesau ar fy nghefn gyda chymorth gan yr oedolyn neu gan gymhorthion nofio
- Mae fy oedolyn yn fy annog i gicio fy nghoesau ar fy mol gyda chymorth gan yr oedolyn neu gan gymhorthion
- Gallaf arnofio ar fy mol neu fy nghefn gyda llai o gynhaliaeth gan fy oedolyn
- Gallaf sblasio neu wlychu fy wyneb fy hun
- Gallaf chwythu swigod yn y dwˆ r gydag anogaeth gan fy oedolyn
- Gallaf droi 180 gradd oddi ar fy mol ar fy nghefn neu oddi ar fy nghefn ar fy mol un ai gyda chymhorthion a/neu lai o gymorth gan fy oedolyn
- Gallaf ymestyn a gafael mewn teganau sy’n arnofio yn y dwˆ r wrth symud o gwmpas
- Gallaf wthio oddi wrth y wal ar fy nghefn yn syth gyda chymhorthion a/neu gymorth gan fy oedolyn
- Gallaf ddod allan o’r dwˆ r yn ddiogel gyda chymorth gan fy oedolyn. Cefais anogaeth gan fy oedolyn i geisio dringo allan os yn bosib
Lefel 4
- Gallaf fynd i mewn i’r dwˆ r yn ddiogel oddi ar fy eistedd tuag at fy oedolyn, sydd wedyn yn fy helpu yn ôl at ymyl y pwll
- Gallaf ddal gafael yn ochr y pwll gyda fy oedolyn yn gwylio
- Gyda chymhorthion, gallaf orwedd ar fy nghefn gyda’m corff yn syth a chael anogaeth i gicio fy nghoesau wrth symud yn y dwˆ r
- Gyda chymhorthion, gallaf orwedd ar fy mol gyda’m corff yn syth a chael anogaeth i gicio fy nghoesau wrth symud yn y dwˆ r
- Gallaf arnofio ar fy nghefn neu fy mol gyda chymhorthion a chymorth gan fy oedolyn
- Gallaf dasgu dwˆ r dros fy mhen
- Gallaf chwythu swigod gyda fy ngheg a fy nhrwyn yn y dwˆ r
- Gallaf droi o orwedd ar fy nghefn i fod ar fy mol neu o fod ar fy mol i fod ar fy nghefn gyda chymhorthion
- Gallaf estyn a gafael mewn teganau o dan wyneb y dwˆ r a rhoi fy wyneb yn y dwˆ r wrth symud o gwmpas yn y pwll
- Gallaf wthio oddi wrth y wal (ar fy mol neu fy nghefn) gyda chorff syth tuag at fy oedolyn gyda neu heb gymhorthion
- Gallaf ddod allan o’r dwˆ r yn ddiogel gyda goruchwyliaeth gan fy oedolyn. Mae fy oedolyn yn fy annog i ddringo allan fy hun heb ddefnyddio’r grisiau
I gael rhagor o fanylion am unrhyw weithgaredd neu glwb, cysylltwch â ni neu gallwch ymweld â’ch pwll nofio lleol.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.