Gwersi Nofio i Blant
Mae FFiT Conwy yn dilyn Fframwaith Dysgu Nofio Cymru. Mae ein gwersi ni i gyd yn gynhwysol ac ar gael i amrywiaeth o alluoedd ac oedrannau. Debyd Uniongyrchol Gwersi Nofio Misol £25. Fel rhan o'r £25 y mis rydych chi'n ei dalu am wersi nofio, fe gewch ddod i sesiynau nofio cyhoeddus am ddim i ymarfer pryd bynnag y dymunwch! Cliciwch ar y teils isod i ddarganfod mwy.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol] gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Gwybodaeth i rieni
- Mae gwersi nofio yn cael eu cynnal ar foreau Sadwrn a gyda'r nos yn ystod yr wythnos.
- Mae cyrsiau yn rhedeg yn barhaus drwy gydol y flwyddyn gydag egwyl o bythefnos dros y Nadolig.
- Rydym ni'n darparu'r holl offer ar gyfer y gwersi, megis bandiau braich, cymhorthion arnofio ac ati.
- Gwisgwch wisg nofio briodol. (dim bicini neu tancini. Gofynnir i ferched wisgo gwisg un darn).
- Dim siorts hir na siwtiau gwlyb.
- Rhaid clymu gwallt hir yn ôl neu wisgo cap nofio.
- Sicrhewch fod eich plentyn wedi bod yn y toiled cyn mynd i mewn i'r dŵr.
- Os yw eich plentyn yn teimlo'n sâl dylech ystyried a ydynt yn ddigon iach i fynd i'r wers.
- Os oes gan eich plentyn gogls rhaid iddyn nhw allu eu gwisgo a’u tynnu eu hunain.
- Peidiwch â gadael eitemau yn y ciwbiclau - byddant yn cael eu hystyried yn eiddo coll ac yn cael eu symud oddi yno.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gwersi nofio, cysylltwch â hamdden.leisure@conwy.gov.uk. Pan rydych yn anfon e-bost nodwch pa ganolfan a gwersi yr ydych yn holi amdanynt