Polo Dŵr
Mae Sgiliau Polo Dŵr yn cynnig fframwaith i nofwyr/chwaraewyr i helpu i ddatblygu sgiliau pwysig i gymryd rhan a chystadlu yng nghamp gyffrous Polo Dŵr. Mae yna 5 lefel a dyfarniad sydd wedi’u dylunio i gyfranogwyr sy’n dymuno gwella eu techneg wrth basio, dal, saethu a sgorio, chwarae fel tîm ac ymwybyddiaeth ofodol. Mae wedi’i lunio i sefydlu ymarfer da ac arferion a sgiliau cywir yn gynnar yng ngyrfa chwaraewr.
Mae ein sesiynau Polo Dŵr yn dilyn canllawiau Nofio Cymru ac fe ddaw’r wybodaeth ar y dudalen o’u gwefan.
Canllaw
- Wedi cwblhau Ton 4 Rhaglen Dysgu Nofio Cymru
- Yn gyfforddus yn y dŵr heb wisgo gogls
Manteision Fframwaith Polo Dŵr
- Rhoi fframwaith strwythuredig i athrawon a hyfforddwyr i’w ddefnyddio’n benodol ar gyfer darpar chwaraewyr polo dŵr.
- Rhoi eglurder i chwaraewyr am yr hyn maen nhw’n gweithio arno a pha sgiliau sy’n bwysig i’w datblygu. Mae hyn yn ysbrydoli plant i symud drwy’r lefelau a gwella eu sgiliau.
- Yn dilyn ymlaen o Fframwaith Dysgu i Nofio, Nofio Cymru, ac felly’n rhoi llwybr esmwyth mewn i’r gamp o ddarparwr dysgu nofio.
- Cynllun gwobrwyo dwyieithog lle gall darparwyr gynnig tystysgrifau i gyfranogwyr ar ôl cyflawni lefel.
I gael rhagor o fanylion am unrhyw weithgaredd neu glwb, cysylltwch â ni neu gallwch ymweld â’ch pwll nofio lleol.
Lefel 1
Nodau
- Dysgu strôcs polo dŵr sylfaenol
- Dechrau taflu a saethu
- Dechrau dysgu am chwarae’r gêm
Canlyniadau
- Nofio 10m yn y dull ar y bol gyda’u hwyneb yn y dŵr, yna 10m pen i fyny yn y dull ar y bol - Nofio 10 metr yn y dull ar y bol gyda’u hwyneb yn y dŵr, ac yna 10m yn y dull ar y bol gyda’r pen i fyny.
- Nofio 10m dull ar y bol gyda phen i fyny gan edrych o gwmpas - Nofio 10m dull ar y bol gyda phen i fyny, edrych i’r chwith am 3 strôc, yna syth ymlaen am 3 strôc, ac yna i’r dde am 3 strôc.
- Nofio 10m dull ar y bol gyda phen i fyny gyda’r bêl - Nofio 10m dull ar y bol gyda phen i fyny, rheoli’r bêl o’u blaen gyda dwylo.
- Nofio 10m dull cefn Polo Dŵr gyda phen i fyny
- Nofio 5m dull ar y bol gyda phen i fyny a 5m dull ar y cefn Polo Dŵr gyda phen i fyny - Nofio 5m dull ar y bol gyda phen i fyny yna dychwelyd i’r safle dechrau drwy nofio dull cefn Polo Dŵr gyda phen i fyny.
- Aros yn fertigol ac yn sefydlog am 30 eiliad - Aros yn fertigol ac yn sefydlog am 30 eiliad gan ddefnyddio techneg sgwlio llaw a chic curo wy.
- Pigo’r bêl i fyny gyda phob llaw - Mewn ystum corff fertigol sefydlog, pigo’r bêl i fyny o dan arwyneb y dŵr gyda dwylo bob yn ail, a dod â’r bêl rownd uwchben y pen rhwng 3 a 6 o’r gloch. Ailadrodd hyn 6 gwaith gyda phob llaw.
- Pasio a dal y bêl dros 2m - Mewn ystum corff fertigol, pasio’r bêl yn gywir gyda phartner, defnyddio un llaw i daflu a dwy law i ddal dros bellter o 2 fetr. Ailadrodd hyn nes bod pob chwaraewr wedi pasio’r bêl 10 gwaith.
- Saethu at darged 2m i ffwrdd - Mewn ystum corff fertigol a sefydlog, pigo’r bêl i fyny a saethu at darged 2 fetr i ffwrdd; y nod yw taro’r targed. Ailadrodd hyn pum gwaith gyda’r fraich a ffefrir. Efallai mai gôl, cic fwrdd, poteli ac ati fydd y targed. Ystum corff da a throi’r corff yn ystod y symudiad saethu; fflicio’r cledr a bysedd ar ôl rhyddhau’r bêl.
- Chwarae gêm Polo Bach - Chwarae gêm Polo Bach gydag o leiaf tri chwaraewr ym mhob tîm, dangos sgiliau o gwrs Sgiliau Polo Dŵr Lefel 1.
Lefel 2
Nodau
- Datblygu symudedd yn y gêm.
- Gwella sgiliau taflu a saethu
- Datblygu sgiliau chwarae’r gêm gyda mwy o chwaraewyr yn nofio yn ystod y gêm.
Canlyniadau
- Nofio 20m ar y bol, gyda’u hwyneb yn y dŵr bob yn ail a phen i fyny - Nofio 20 metr ar y bol, 3 strôc gyda’u hwyneb yn y dŵr ac yna 3 strôc gyda phen i fyny yn y dull ar y bol, mewn gweithred barhaus.
- Nofio 20m dull ar y bol gyda phen i fyny gan edrych o gwmpas - Nofio 20m dull ar y bol gyda phen i fyny, edrych i’r chwith am 3 strôc, yna syth ymlaen am 3 strôc, ac yna i’r dde am 3 strôc.
- Nofio 20m dull ar y bol gyda phen i fyny gyda’r bêl - Nofio 20m dull ar y bol gyda phen i fyny, rheoli’r bêl o’u blaen gyda dwylo.
- Aros yn fertigol ac yn sefydlog am 45 eiliad - Aros yn fertigol ac yn sefydlog am 45 eiliad gan ddefnyddio techneg sgwlio llaw a chic curo wy.
- Symud 5m ymlaen, yn ôl, i’r chwith ac i’r dde gyda bodiau bysedd allan o’r dŵr - Symud 5 metr ymlaen, 5 metr yn ôl, 5 metr i’r chwith a 5 metr i’r dde, gan gyrraedd yn ôl i’r man cychwyn. Dwylo sgwlio a chic curwr wy cryf mewn ystum corff fertigol. Ciciau da ac ystum corff fertigol drwy gydol.
- Symud 5m ymlaen, yn ôl, i’r chwith ac i’r dde gyda cledrau dwylo allan o’r dŵr - Symud 5 metr ymlaen, 5 metr yn ôl, 5 metr i’r chwith a 5 metr i’r dde, gan gyrraedd yn ôl i’r man cychwyn. Dwylo sgwlio a chic curwr wy cryf mewn ystum corff fertigol tra’n cadw cledrau dwylo allan o’r dŵr. Ciciau da ac ystum corff fertigol drwy gydol.
- Nofio yn y dull ar y bol gyda phen i fyny gyda’r cloc o amgylch sgwâr 5 metr - Nofio yn y dull ar y bol gyda phen i fyny gyda’r cloc o amgylch sgwâr 5 metr gyda’r cloc. Ar ôl nofio 5 metr, troi 90° i’r dde, heb ddefnyddio’r wal na’r llawr a chynnal ystum corff llorweddol. Ailadrodd hyn 3 gwaith nes y byddwch yn ôl yn y safle cychwynnol.
- Nofio yn y dull ar y bol gyda phen i fyny gwrthglocwedd o amgylch sgwâr 5 metr - Nofio yn y dull ar y bol gyda phen i fyny gyda’r cloc o amgylch sgwâr 5 metr gwrthglocwedd. Ar ôl nofio 5 metr, troi 90° i’r chwith, heb ddefnyddio’r wal na’r llawr a chynnal ystum corff llorweddol. Ailadrodd hyn 3 gwaith nes y byddwch yn ôl yn y safle cychwynnol.
- Pigo’r bêl i fyny gyda phob llaw - Mewn ystum corff fertigol sefydlog, pigo’r bêl i fyny o dan arwyneb y dŵr gyda’r llaw a ffefrir, a dod â’r bêl rownd uwchben y pen rhwng 3 a 6 o’r gloch. Ailadrodd hyn 10 gwaith gyda phob llaw.
- Pasio a dal y bêl dros 3m - Mewn ystum corff fertigol sefydlog, pasio’r bêl yn gywir gyda phartner, defnyddio un llaw i daflu ac un llaw i ddal dros bellter o 3 metr. Ailadrodd hyn nes bod pob chwaraewr wedi pasio’r bêl 10 gwaith. Rheoli’r bêl yn dda, ystum fertigol a lletraws/ corff bocsio cryf.
- Saethu at darged 3m i ffwrdd - Mewn ystum corff fertigol a sefydlog, pigo’r bêl i fyny gyda llaw a ffefrir a saethu at darged 3 metr i ffwrdd. Ailadrodd hyn 5 gwaith. Efallai mai gôl, cic fwrdd, poteli ac ati fydd y targed. Ystum corff da a throi’r corff yn ystod y symudiad saethu; fflicio’r cledr a bysedd ar ôl rhyddhau’r bêl
- Chwarae gêm Polo Bach - Chwarae gêm Polo Bach gydag o leiaf tri chwaraewr ym mhob tîm, dangos sgiliau o gwrs Sgiliau Polo Dŵr Lefel 2.
Lefel 3
Nodau
- Gwella techneg curwr wy i gael symudiad mwy deinamig
- Cyflwyno driblo a dal
- Annog gemau i gynnwys chwaraewyr yn dal a saethu mewn un weithred
Canlyniadau
- Nofio 30m dull ar y bol gyda’r bêl, gan edrych o gwmpas - Nofio 30m dull ar y bol gyda phen i fyny, rheoli’r bêl o’ch blaen tra’n edrych i’r chwith am 3 strôc, yna syth ymlaen am 3 strôc, ac yna i’r dde am 3 strôc.
- Nofio 30m dull ar y bol gyda phen i fyny ac yna dull ar y cefn Polo Dŵr gyda phen i fyny - Nofio 30m ar y bol gyda phen i fyny am 3 strôc yna dull ar y cefn Polo Dŵr gyda phen i fyny am 3 strôc, mewn gweithred barhaus.
- Nofio 5m dull ar y bol gyda phen i fyny a dull ar y cefn Polo Dŵr gyda phen i fyny, a’i ailadrodd - Nofio 5m dull ar y bol gyda phen i fyny yna dychwelyd i’r safle dechrau drwy nofio dull cefn Polo Dŵr gyda phen i fyny. Ailadrodd y weithred 5 gwaith.
- Aros yn fertigol ac yn sefydlog am 60 eiliad, yna symud i ffwrdd - Aros yn fertigol ac yn sefydlog am 60 eiliad gan ddefnyddio techneg sgwlio llaw a chic curo wy. Ystum y corff yn uchel allan o’r dŵr. Ar ôl 60 eiliad, symud i ffwrdd i unrhyw gyfeiriad mor gyflym â phosibl.
- Perfformio 10 naid un llaw - Aros yn fertigol a sefydlog. Perfformio 10 naid un llaw, gan newid rhwng y llaw chwith a’r llaw dde.
- Nofio 30m ar y bol gyda phen i fyny, stopio bob 3 strôc i aros mewn ystum llorweddol - Nofio 30m ar y bol gyda phen i fyny - stopio bob 3 strôc i aros mewn ystum llorweddol am 3 eiliad, yna sgwlio dwylo a’r techneg cicio curwr wy.
- Aros yn fertigol ac yn sefydlog am 30 eiliad, yna symud i ffwrdd - Aros yn fertigol ac yn sefydlog ar arwyneb y dŵr am 30 eiliad gan ddefnyddio techneg sgwlio llaw a chic curo wy. Ystum y corff mor uchel â phosibl allan o’r dŵr. Ar ôl 30 eiliad, symud i ffwrdd i unrhyw gyfeiriad mor gyflym â phosibl.
- Mewn ystum fertigol, symud 5m ymlaen, yn ôl, i’r chwith ac i’r dde gyda phêl mewn un llaw - Symud 5 metr ymlaen, 5 metr yn ôl, 5 metr i’r chwaith a 5 metr i’r dde, gan gyrraedd yn ôl i’r man cychwyn, gan ddefnyddio un llaw sgwlio a chic curwr wy mewn ystum fertigol tra’n gafael yn y bêl yn y llaw a ffefrir rhwng 3 a 6 o’r gloch. Cicio’n dda gyda’r coesau, ystum corff fertigol drwy gydol, delio â’r bêl yn sicr a newid cyfeiriad yn gyflym.
- Pasio a dal y bêl dros 4m - Mewn ystum corff fertigol sefydlog, pasio’r bêl yn gywir gyda phartner, defnyddio un llaw i daflu ac un llaw i ddal dros bellter o 4 metr. Ailadrodd hyn nes bod pob chwaraewr wedi pasio’r bêl 10 gwaith. Rheoli’r bêl yn dda, ystum fertigol a lletraws/ corff bocsio cryf.
- Saethu at darged 4m i ffwrdd - Mewn ystum corff fertigol a sefydlog, pigo’r bêl i fyny gyda llaw a ffefrir a saethu at darged 4 metr i ffwrdd. Ailadrodd hyn 5 gwaith. Efallai mai gôl, cic fwrdd, poteli ac ati fydd y targed. Ystum corff da a throi’r corff yn ystod y symudiad saethu; fflicio’r cledr a bysedd ar ôl rhyddhau’r bêl.
- Dal a saethu at darged 4m i ffwrdd - Mewn ystum fertigol sefydlog, derbyn a phasio o 3 o’r gloch (h.y. yr ochr dde) a dal y bêl gyda llaw a ffefrir. Yna saethu at darged 4 metr i ffwrdd. Ailadrodd hyn pum gwaith gyda’r llaw a ffefrir. Efallai mai gôl, cic fwrdd, poteli ac ati fydd y targed. Ystum corff da a throi’r corff yn ystod y symudiad saethu; fflicio’r cledr a bysedd ar ôl rhyddhau’r bêl.
- Chwarae gêm o Polo Dŵr - Chwarae gêm o Polo Dŵr, a fydd yn para 4 x 5 munud, defnyddio sgiliau o Sgiliau Polo Dŵr Lefel 3. Defnyddio techneg dda i ddangos dealltwriaeth sylfaenol o sut i chwarae’r gêm.
Lefel 4
Nodau
- Gwella gallu i ddal a saethu.
- Cynyddu cyflymder newid cyfeiriad tra’n chwarae gêm.
- Cynyddu stamina drwy chwarae gemau hirach.
Canlyniadau
- Nofio 20m ar y bol gyda phen i fyny gyda’r bêl, yna ei basio - Nofio 20m ar y bol gyda phen i fyny, rheoli’r bêl o’u blaen, yna ei basio i’r chwith neu’r dde ar y dŵr i chwaraewr arall sydd hefyd yn nofio ar eu bol.
- Mewn ystum fertigol, symud 5m ymlaen, yn ôl, i’r chwith ac i’r dde gyda dwylo ar eu pen - Gyda dwylo ar eu pen, symud 5 metr ymlaen, 5 metr yn ôl, 5 metr i’r chwith a 5 metr i’r dde, gan gyrraedd yn ôl i’r man cychwyn. Ciciau da, ystum corff fertigol mor uchel â phosibl allan o’r dŵr a newid cyfeiriad yn gyflym.
- Perfformio 10 naid un llaw i’r ochr - Parhau i wynebu ymlaen, dylai’r corff ddod i fyny’n fertigol ac yna i’r ochr gan estyn allan gyda’r fraich, a newid rhwng y llaw chwith a’r dde.
- Nofio ar y bol gyda phen i fyny, gyda’r cloc o amgylch sgwâr 3 metr - Nofio ar y bol gyda phen i fyny gyda’r cloc o amgylch sgwâr 3 metr gyda’r cloc. Ar ôl nofio 3 metr, troi 90° i’r dde, heb ddefnyddio’r wal na’r llawr a chynnal ystum corff llorweddol. Ailadrodd hyn 3 gwaith nes y byddwch yn ôl yn y safle cychwynnol.
- Nofio ar y bol gyda phen i fyny gwrthglocwedd o amgylch sgwâr 3 metr - Nofio ar y bol gyda phen i fyny gwrthglocwedd o amgylch sgwâr 3 metr gyda’r cloc. Ar ôl nofio 3 metr, troi 90° i’r chwith, heb ddefnyddio’r wal na’r llawr a chynnal ystum corff llorweddol. Ailadrodd hyn 3 gwaith nes y byddwch yn ôl yn y safle cychwynnol.
- Nofio 5m ar y bol gyda phen i fyny a throi 180°, ailadrodd hyn - Nofio 5m ar y bol gyda phen i fyny ac yna troi’n sydyn heb ddefnyddio’r wal na llawr a nofio 5 metr ar y bol gyda phen i fyny, gan gyrraedd yn ôl i’r man cychwyn. Ailadrodd y weithred 5 gwaith.
- Nofio 5m ar y cefn dull Polo Dŵr gyda phen i fyny a throi 180° i nofio 5m ar y bol gyda phen i fyny, ailadrodd hyn - Nofio 5m ar y cefn dull Polo Dŵr gyda phen i fyny, yna troi’n sydyn heb ddefnyddio’r wal na llawr a nofio 5 metr ar y bol gyda phen i fyny heb ddefnyddio’r wal na’r llawr a 5 metr ar y bol gyda phen i fyny, gan gyrraedd yn ôl i’r man cychwyn. Ailadrodd y weithred 5 gwaith.
- Dal a saethu at darged 4m i ffwrdd - Mewn ystum corff fertigol sefydlog, derbyn a phasio i’r ochr dde a dal y bêl gydag un llaw. Yna saethu at darged 4 metr i ffwrdd. Ailadrodd hyn pum gwaith gyda’r llaw a ffefrir. Efallai mai gôl, cic fwrdd, poteli ac ati fydd y targed. Ystum corff da a throi’r corff yn ystod y symudiad saethu; fflicio’r cledr a bysedd ar ôl rhyddhau’r bêl.
- Dal a saethu at darged 5m i ffwrdd - Mewn ystum corff fertigol sefydlog, derbyn a phasio i’r ochr chwith a dal y bêl gydag un llaw. Yna saethu at darged 5 metr i ffwrdd. Ailadrodd hyn pum gwaith gyda’r llaw a ffefrir. Efallai mai gôl, cic fwrdd, poteli ac ati fydd y targed. Ystum corff da a throi’r corff yn ystod y symudiad saethu; fflicio’r cledr a bysedd ar ôl rhyddhau’r bêl.
- Chwarae gêm o Polo Dŵr - Chwarae gêm o Polo Dŵr, a fydd yn para 4 x 5 munud, defnyddio sgiliau o Sgiliau Polo Dŵr Lefel 4. Defnyddio techneg dda i ddangos dealltwriaeth sylfaenol o sut i chwarae’r gêm.
Lefel 5
Nodau
- Cyflwyno driliau sy’n cyd-fynd â’r gêm (driliau stopio/cychwyn).
- Cyflwyno ffugio a sut i’w ddefnyddio mewn gêm.
- Arddangos sgiliau o lefelau 1 i 5 yn ystod gêm.
Canlyniadau
- Nofio 20m ar y bol gyda phen i fyny gyda’r bêl, yna ei basio - Nofio 20m ar y bol gyda phen i fyny, rheoli’r bêl o’u blaen, yna ei basio i’r chwith neu’r dde i law chwaraewr arall sydd hefyd yn nofio ar eu bol, sy’n dal y bêl yn y strôc.
- Mewn ystum llorweddol, symud 5m ymlaen, yn ôl, i’r chwith ac i’r dde - Symud 5 metr ymlaen, 5 metr yn ôl, 5 metr i’r chwith a 5 metr i’r dde, gan gyrraedd yn ôl i’r man cychwyn. Sgwlio’n gryf gyda dwylo a chiciau curwr wy i aros yn llorweddol ar arwyneb y dŵr. Ciciau da, ystum corff mor uchel â phosibl allan o’r dŵr a newid cyfeiriad yn gyflym.
- Nofio 20m ar y bol gyda phen i fyny, gyda’r bêl, stopio bob 3 strôc i aros mewn ystum fertigol - Nofio 20m ar y bol gyda phen i fyny - stopio bob 3 strôc a symud mewn i ystum corff fertigol, dal y safle yma am 5 eiliad, yna sgwlio dwylo a’r dechneg cicio curwr wy.
- Nofio 20m ar y bol gyda phen i fyny, gyda’r bêl, stopio bob 3 strôc i aros mewn ystum llorweddol - Nofio 20m ar y bol gyda phen i fyny - stopio ar ôl bob 3 strôc i aros mewn ystum llorweddol am 5 eiliad, gan ddefnyddio techneg sgwlio dwylo a’r dechneg cicio curwr wy.
- Mewn ystum fertigol, symud 5m ymlaen, yn ôl, i’r chwith ac i’r dde gyda’r bêl - Gyda braich yn dal pêl uwchben eu pen, symud 5 metr ymlaen, 5 metr yn ôl, 5 metr i’r chwith a 5 metr i’r dde, gan gyrraedd yn ôl i’r man cychwyn. Dwylo sgwlio a chiciau curwr wy cryf i aros yn yr ystum corff fertigol gyda braich yn dal pêl y tu allan i’r dŵr ac uwch ben y pen. Ciciau da, ystum corff mor uchel â phosibl allan o’r dŵr a newid cyfeiriad yn gyflym.
- Aros yn fertigol a sefydlog am 30 eiliad tra’n ‘ffugio’ y bêl - Aros yn fertigol a sefydlog am 30 eiliad tra’n ‘ffugio’ y bêl (h.y. cogio taflu’r bêl ond ei gadw yn y llaw), defnyddio techneg sgwlio dwylo a chiciau curwr wy. Cicio’n gryf, ystum corff fertigol cryf mor uchel â phosibl allan o’r dŵr ac yn hyderus yn trin y bêl.
- Mewn ystum fertigol, symud 5m ymlaen, yn ôl, i’r chwith ac i’r dde, tra’n ‘ffugio’ y bêl - Tra’n ‘ffugio’ y bêl, symud 5 metr ymlaen, 5 metr yn ôl, 5 metr i’r chwith a 5 metr i’r dde, gan gyrraedd yn ôl i’r man cychwyn. Dwylo sgwlio a chic curwr wy cryf mewn ystum corff fertigol. Rhaid i’r bêl deithio rhwng 3 a 6 o’r gloch mewn chwarter cylchoedd uwch ben y pen. Ciciau da, ystum corff mor uchel â phosibl allan o’r dŵr a newid cyfeiriad yn gyflym.
- Pigo’r bêl i fyny gyda phob llaw - Mewn ystum corff fertigol sefydlog, pigo’r bêl i fyny o dan arwyneb y dŵr gyda dwylo bob yn ail, a dod â’r bêl rownd uwchben y pen rhwng 3 a 6 o’r gloch. Ailadrodd hyn 10 gwaith gyda phob llaw.
- Pasio a dal y bêl dros 5m - Mewn ystum corff fertigol sefydlog, pasio’r bêl yn gywir gyda phartner, defnyddio un llaw i daflu ac un llaw i ddal dros bellter o 5 metr. Ailadrodd hyn nes bod pob chwaraewr wedi pasio’r bêl 10 gwaith. Rheoli’r bêl yn dda, ystum fertigol a lletraws/ corff bocsio cryf.
- Dal o’r dde a saethu at darged 5m i ffwrdd - Mewn ystum fertigol sefydlog, derbyn a phasio i’r ochr dde a dal y bêl gyda llaw a ffefrir. Yna saethu at darged 5 metr i ffwrdd. Ailadrodd hyn pum gwaith gyda’r llaw a ffefrir. Efallai mai gôl, cic fwrdd, poteli ac ati fydd y targed. Ystum corff da a throi’r corff yn ystod y symudiad saethu; fflicio’r cledr a bysedd ar ôl rhyddhau’r bêl. Cyfres gydlynol o sgiliau i greu siot effeithiol.
- Dal o’r chwith a saethu at darged 5m i ffwrdd - Mewn ystum corff fertigol sefydlog, derbyn a phasio i’r ochr chwith a dal y bêl gydag un llaw. Yna saethu at darged 5 metr i ffwrdd. Ailadrodd hyn 5 gwaith. Efallai mai gôl, cic fwrdd, poteli ac ati fydd y targed. Ystum corff da a throi’r corff yn ystod y symudiad saethu; fflicio’r cledr a bysedd ar ôl rhyddhau’r bêl. Cyfres gydlynol o sgiliau i greu siot effeithiol.
- Chwarae gêm o Polo Dŵr - Chwarae gêm o Polo Dŵr, a fydd yn para 4 x 5 munud, defnyddio sgiliau o Sgiliau Polo Dŵr Lefel 5. Defnyddio techneg dda i ddangos dealltwriaeth sylfaenol o sut i chwarae’r gêm.
I gael rhagor o fanylion am unrhyw weithgaredd neu glwb, cysylltwch â ni neu gallwch ymweld â’ch pwll nofio lleol.