Pyllau Nofio
O fewn y canolfannau hamdden yng Nghonwy mae 4 pwll nofio lle rydym yn lletya ar gyfer sesiynau nofio cyhoeddus, rhaglen wersi nofio manwl ar gyfer pob oed a dosbarthiadau ffitrwydd yn y pwll.
Mae gan bob canolfan ardal newid gyda loceri.
Rydym yn gwirio ansawdd y dŵr bob mis yn ein holl byllau nofio.
Y canolfannau hamdden gyda phyllau nofio yw:
Canolfan Nofio Llandudno
- Pwll cystadlu 8 lôn 25m
- Pwll hyfforddi 4 lôn 20m
- Mae’r ddau bwll yn cynnwys llawr y gellir ei symud sy’n rhoi mwy o hyblygrwydd o ran defnyddio’r pwll
- Loceri – cost o 20c (heb ad-daliad)
- Sychwyr gwallt - cost o 20c (heb ad-daliad)
- Canolfan Nofio Llandudno yn croesawu Clwb Nofio Llandudno a Sgwad Perfformiad Nofio Conwy.
Darganfod mwy
Canolfan Hamdden Colwyn
- Pwll 6 lôn 25m
- Pwll addysgu 10m ac ardal traeth
- Loceri - Newid Gwlyb 20c, sy’n ad-daladwy (newid sych £1, sy’n ad-daladwy)
- Sychwyr gwallt - cost o 20c (heb ad-daliad)
- Canolfan Hamdden Bae Colwyn yn croesawu Nofio Bae Colwyn
- Nodyn i ddweud bod y pwll hyfforddi yng Nghanolfan Colwyn ar gau i’r cyhoedd 3.30–6.00pm ddyddiau Mercher a Gwener yn ystod nofio cyhoeddus gan fod gwersi’n cael eu cynnal. Ymddiheuriadau os yw hyn yn creu anghyfleustra.
Darganfod mwy
Canolfan Hamdden Abergele
- Pwll 4 lôn 25m x 8.5m
- Mynediad stepiau graddol
- Loceri – cost o £1 ad-daladwy
- Sychwyr gwallt - cost o 20c (heb ad-daliad)
- Abergele yn croesawu Gele Gators
- Mae sesiynau hyfforddi hefyd ar gael yng Nghanolfan Hamdden Abergele
Darganfod mwy
Pwll Nofia Llanrwst
- Pwll 4 lôn 20m
- Loceri – cost o £1 ad-daladwy
- Sychwyr gwallt - cost o 20c (heb ad-daliad)
Darganfod mwy
Clybiau Nofio a Charfan Perfformiad
Gall nofwyr ymuno â sesiynau clwb nofio unwaith y byddant wedi cwblhau ton 7 yr Aqua Passport a gallant aros yn y sesiynau clwb nes eu bod yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig i drosglwyddo i'r Garfan Perfformiad.
I gael rhagor o fanylion am unrhyw un o'r gweithgareddau neu glybiau, cysylltwch â ni neu cysylltwch â’ch pwll nofio lleol.