Canolfan Nofio Llandudno
Mostyn Broadway
Llandudno
LL30 1YR
Phone: 0300 456 95 25
hamdden.leisure@conwy.gov.uk
Cyhoeddiad am Gau Pwll Nofio Llandudno
Hoffwn eich hysbysu am waith cynnal a chadw arfaethedig sydd ar y gweill a fydd yn cael effaith dros dro ar amseroedd y bydd ein pyllau nofio ar agor.
Ar gau ar gyfer gwaith Cynnal a Chadw:
Prif Bwll
Dyddiad: 15 Ebrill 2024 - 20 Ebrill 2024
Amser: 7:30 tan 15:00
Pwll Teulu
Dyddiad: 21 Ebrill 2024 - 26 Ebrill 2024
Amser: 7:30 tan 15:00
Mae angen cau er mwyn gosod ceblau llawr symudol newydd. Rydym yn deall y gall hyn amharu ar eich cynlluniau, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir. Fodd bynnag, mae’r gwaith cynnal a chadw yn hanfodol i ddarparu’r profiad nofio gorau posibl i chi ar gyfer y dyfodol.
Yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi gwneud ychydig o newidiadau i’n hamserlen i ddefnyddio’r pwll arall a fydd yn weithredol. (Er enghraifft, yn ystod y bore rhwng 7:30 a 9:00am byddwn yn defnyddio’r Pwll Teulu ar gyfer Nofio mewn Lonydd).
Byddwn yn rhoi diweddariadau i chi am unrhyw newidiadau i’r amserlen cynnal a chadw, felly cadwch olwg ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf.
Diolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofynnwch yn ein derbynfa neu ffoniwch y ganolfan gyswllt ar 0300 456 9525.
Amseroedd Agor
Cyfnod | Agor | Cau |
Dydd Llun i Dydd Iau |
6.00 am |
9.00 pm |
Dydd Gwener |
6.00 am |
8.00 pm |
Dydd Sadwrn a Dydd Sul |
8.00 am |
4.00 pm |
Gweler ein hamserlen am ragor o wybodaeth.
Ynglŷn â'r Ganolfan Nofio
Mae Canolfan Nofio Llandudno yn cynnig pwll cystadlu 25 metr, 8 lôn yn ogystal â phwll ymarfer 20 metr, 4 lôn. Mae'r ddau bwll yn cynnwys llawr symudol, sy'n caniatáu mwy o hyblygrwydd gyda sut y defnyddir y pwll.
Mae'r pwll nofio yn cynnig nifer amrywiol o sesiynau nofio i'r cyhoedd a rhaglen gwersi nofio helaeth ar gyfer pob oedran.
Mae'r ganolfan hefyd yn cynnig campfa, ystafelloedd cyfarfod a dosbarthiadau ffitrwydd yn y pwll.
Cyfleusterau
- Prif bwll
- Pwll ymarfer
- Campfa
- Ystafelloedd cyfarfod
- Maes parcio talu ac arddangos
- Eitemau nofio ar werth