cy Cartref Ein Cyfleusterau Canolfannau Hamdden Canolfan Hamdden John Bright

Canolfan Hamdden John Bright

Mae Canolfan Hamdden John Bright wedi’i lleoli drws nesaf i’r ysgol uwchradd yn Llandudno, ac mae amrywiaeth eang o gyfleusterau a gweithgareddau ar gael yno i bawb o bob oed. Mae’r ganolfan hamdden eang ar gael i’w llogi ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon a gellir hefyd archebu partïon pen-blwydd yno. Mae amserlen amrywiol o ddosbarthiadau ffitrwydd yn rhoi cyfle i chi gadw’n heini a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.

Yn ogystal, mae modd llogi 2 gwrt sboncen cefn gwydr yn y ganolfan, sydd â waliau symudol, fel bod modd chwarae gemau dyblau, yn ogystal â chyrtiau badminton a thennis bwrdd.

Ar gyfer y sawl sy’n ffafrio bod allan yn yr awyr agored, mae gan y ganolfan hamdden ystod o gaeau synthetig, sydd ar gael i’w harchebu drwy gydol y flwyddyn. (Ar gael gyda’r nosau ac ar benwythnosau – defnyddir llifoleuadau dros y misoedd tywyll).  

Cau Cyrtiau Sboncen Dros Dro
Hoffem roi gwybod i bob cwsmer bod gwaith ailwampio mawr yn digwydd ar y cyrtiau sboncen.
Dydd Llun 20 Gorffennaf – Dydd Gwener 10 Awst. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y cyrtiau sboncen ar gau ac ni fydd modd eu defnyddio. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir ac yn gwerthfawrogi eich amynedd wrth i ni wneud y gwelliannau hanfodol hyn.

Cyfleusterau

  • Neuadd chwaraeon

  • Cyrtiau sboncen

  • Cyrtiau Badminton

  • Tenis Bwrdd

  • Ystafelloedd cyfarfod

  • Caeau synthetig a 3G awyr agored

 

Canolfanau Eraill