
Crwydrwch yr awyr agored ar ddwy olwyn a darganfod yr hyder sy’n dod o reidio beic trydan. Mae’r sesiynau yma wedi’u cynllunio i helpu merched i ddatblygu sgiliau beicio, gwella ffitrwydd a mwynhau’r manteision o wneud ymarfer corff y tu allan mewn awyrgylch cefnogol a chyfeillgar.
Mae’r sesiynau’n addas ar gyfer dechreuwyr a rhai sy’n ailafael mewn beicio, ac yn cael eu harwain gan hyfforddwyr profiadol a fydd yn helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i fagu hyder, gwella eu sgiliau beicio, a mwynhau amrywiaeth o lwybrau lleol. Mae’r teithiau’n cael eu cynnal ar lwybrau trwy’r goedwig, lonydd tawel a thraciau oddi ar y ffordd, gan ganiatáu i’r beicwyr ddatblygu ar gyflymder cyfforddus wrth fwynhau’r amgylchedd.
Cyfarpar sydd ei angen: Mae e-feic, helmed a siaced lachar yn cael eu darparu ar eich cyfer. Dewch â dillad awyr agored addas, esgidiau ymarfer, dillad dal dŵr, a diod a thamaid i’w fwyta.
Pryd: Dyddiau Mawrth, 10:00am–12:00pm
Lleoliad: Coedwig Gwydir, Llanrwst
Aelodau: Wedi’i gynnwys yn eich aelodaeth
Rhai nad ydynt yn aelodau: £15.00
Yn addas ar gyfer merched 14 oed a hŷn. Rhaid i oedolyn fod gydag unrhyw un sydd o dan 16 oed.
I archebu: Defnyddiwch Ap Ffit Conwy. Dewiswch Datblygu Hamdden fel clwb, yna mynd i Gwneud Archeb > Digwyddiad > Padlfyrddio i Ferched. Gallwch hefyd ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 0300 456 95 25