start content

Seiliedig ar le

Mae gweithio seiliedig ar le yn ddull sy’n canolbwyntio ar y lle a’r amgylchedd y mae pobl yn byw a gweithio ynddynt, ac mae’n rhoi ystyriaeth i’r rhwystrau mae pobl yn eu hwynebu o ran gweithgarwch corfforol, chwaraeon a symudiad. Mae hefyd yn gweld dinasyddion fel sbardun newid trwy symud pŵer oddi wrth wasanaethau a sefydliadau lleol at ddinasyddion lleol.

Gan weithio gyda phedwar Awdurdod Lleol ac amrywiaeth eang o bartneriaid lleol, nod Actif Gogledd Cymru yw grymuso cymunedau i sbarduno newid o ran symudiad a gweithgarwch corfforol trwy annog pobl i archwilio a nodi cryfderau eu hardal leol.

Mae elfennau allweddol y gwaith hwn yn cynnwys:

Ymgysylltu â dinasyddion lleol o ran beth yw eu hasedau lleol a’u cryfderau yn eu barn nhw, a deall beth sy’n bwysig iddyn nhw am y ffordd y maen nhw’n symud a sut maen nhw’n defnyddio mannau lleol a lleoedd i fod yn actif.

Darparu cyfres o gyfleoedd ymgysylltu i ddeall a mapio beth yw eu hasedau lleol, a chefnogi unigolion a chymunedau i ddatblygu eu straeon eu hunain am gryfderau eu hardal a’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

Yng Nghonwy, mae Bae Cinmel, Llysfaen a Llanrwst wedi’u nodi fel ardaloedd seiliedig ar le.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content