Ap TechnoGym
Mae ein campfeydd yn llawn o’r cyfarpar cardio diweddaraf gan TechnoGym, ac amrywiaeth eang o offer codi pwysau. Dyma’r lle gorau i chi allu cyrraedd eich targedau iechyd a lles.
Tracio eich ymarferion gyda TechnoGym
Gyda Ffit Conwy ac Ap Technogym, mae eich siwrnai ymarfer yn un hwylus iawn.
Mae’n blatfform ffitrwydd ac ymarfer digidol sydd wedi’i lunio i’ch helpu chi i gyrraedd eich targedau ffitrwydd, iechyd, a chwaraeon.
Mae’r ap TechnoGym (sydd ar gael i’w lawrlwytho yma) yn rhoi popeth rydych chi ei angen ar flaenau eich bysedd i allu cyrraedd eich targedau ffitrwydd, gwella eich perfformiad chwaraeon, a chadw’n iach.
Beth sydd wedi’i gynnwys yn yr Ap:
-
Eich rhaglenni ymarfer – Hyfforddwr Deallusrwydd Artiffisial TechnoGym
Cymhellwr personol Hyfforddwr DA TechoGym sy’n eich annog chi ac yn argymell ymarferion, sesiynau myfyrdod, a mwy. Manteisiwch ar raglen ymarfer wedi’i phersonoli i gael y canlyniadau gorau’n gynt.
-
Cynlluniau ymarfer wedi’u personoli
Os nad ydych chi’n gwybod ble i ddechrau arni wrth ymarfer, gallwch gael rhaglen ymarfer wedi’i phersonoli drwy’r ap. Gofynnwch i aelod o’n tîm yn y gampfa os byddwch angen help.
Ar ôl creu eich cynllun ymarfer, gallwch bob amser ei addasu a’i newid i gyd-fynd â’ch amserlen ymarfer chi, y lleoliad, a’r cyfarpar sydd ar gael.
-
Llyfrgell ymarferion ar-alw
Yn ogystal â’r rhaglen wedi’i phersonoli ar eich cyfer, mae’r ap yn cynnig llyfrgell enfawr o dros 1,000 o ymarferion.
-
Tracio ymarferion a mewngofnodi i gyfarpar
Mewngofnodwch i gyfarpar pan fyddwch yn ymarfer ar gyfarpar TechnoGym yn unrhyw un o gampfeydd Ffit Conwy.
Mae mewngofnodi wrth wneud ymarferion ar gyfarpar yn ei gwneud yn haws cadw golwg ar eich cynnydd dros amser, yn enwedig gyda metrigau gwyddonol TechnoGym – MOVEs a MOVERGY, sydd i’w gweld yn eich Pasbort Lles.
Mae’r cyhoeddiad hwn ar yr ap yn adnodd gwerthfawr ar gyfer newyddion ac awgrymiadau ar ymarfer, iechyd, maeth, a myfyrdod ac mae’n cynnwys cannoedd o erthyglau ar amrywiaeth eang o bynciau.
Lawrlwythwch yr ap :
