Sesiynau Cynefino yn y Gampfa
Mae’n rhaid i chi gwblhau un o’r sesiynau cynefino canlynol cyn defnyddio ein cyfleusterau campfa:
Sesiwn Gynefino Wyneb i Wyneb
Cyn y gallwch chi ddechrau defnyddio’r gampfa yn un o Ganolfannau Hamdden Ffit Conwy mae’n rhaid i chi gael cyflwyniad i’r cyfleusterau. Er mwyn defnyddio campfeydd eraill canolfannau hamdden Ffit Conwy, gall defnyddwyr drefnu Cyflwyniad Cyflym.
Mae’n rhaid trefnu’r sesiwn hon ymlaen llaw.
Sesiwn Gynefino Ar-lein
Bydd y cyflwyniad Ffit Conwy ar-lein yn rhoi cyfarwyddyd i chi ar sut i ddefnyddio’r offer.
Yn rhan o’r telerau ac amodau, mae’n rhaid gwylio pob fideo cyn defnyddio’r cyfleusterau. Ar ôl i chi gwblhau’r cyflwyniad, bydd modd cael cyflwyniad cyflym/gloywi ar-lein yn Ffit Conwy os bydd angen.
Os byddwch chi’n defnyddio un o’n campfeydd ni ac nad ydych chi wedi cwblhau’r naill na’r llall o’r dewisiadau cyflwyno uchod, eich dewis chi yw hynny ac ni fydd gan Ffit Conwy unrhyw atebolrwydd.
Bydd gwiriadau ar hap yn cael eu gwneud a bydd unrhyw un sy'n defnyddio'r gampfa nad ydynt wedi cwblhau’r cyflwyniad yn cael ei wahardd o'r cyfleuster.
Rhaglenni wedi’u Personoli
Fel aelod Ffit Conwy, gallwch ddewis cael rhaglen ymarfer wedi’i theilwra ar eich cyfer gan un o’r tîm ffitrwydd cymwys. Mae adolygiadau rheolaidd o raglenni wedi’u cynnwys yn yr aelodaeth er mwyn sicrhau eich bod yn parhau i weithio tuag at eich nodau.
Nid yw’r gwasanaeth hwn wedi’i gyfyngu i’r gampfa; bydd ein tîm hefyd yn eich cynghori ar ba weithgareddau a/neu ddosbarthiadau ymarfer grŵp fyddwch yn elwa fwyaf ohonynt ac a fydd yn eich gweddu chi. Cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad gydag aelod o’r tîm ffitrwydd heddiw i gychwyn arni.