cy Cartref Ein Cyfleusterau Chwaraeon a ffitrwydd Gyms General Information Campfeydd Ffit Conwy - Amodau Defnyddio
start content

Campfeydd Ffit Conwy - Amodau Defnyddio

Campfeydd Ffit Conwy - Amodau Defnyddio

Mae’r amodau defnyddio canlynol er eich diogelwch chi, eich mwynhad o’r cyfleuster a diogelwch yr offer y byddwch chi’n ei ddefnyddio.

Y Broses Gyflwyno - mae’n rhaid i chi gwblhau un o’r dewisiadau canlynol cyn defnyddio ein cyfleusterau campfa:

  • Cyflwyniad Wyneb yn Wyneb - cyn y gallwch chi ddechrau defnyddio’r gampfa yn un o Ganolfannau Hamdden Ffit Conwy mae’n rhaid i chi gael cyflwyniad i’r cyfleusterau. Er mwyn defnyddio campfeydd eraill canolfannau hamdden Ffit Conwy, gall defnyddwyr drefnu Cyflwyniad Cyflym. Mae’n rhaid trefnu’r sesiwn hwn ymlaen llaw. 

  • Cyflwyniad ar-lein - mae’n rhaid i chi gwblhau’r cyflwyniad ar-lein cyn defnyddio cyfleusterau campfa Canolfannau Hamdden Ffit Conwy. Bydd y cyflwyniad ar-lein yn rhoi cyfarwyddyd i chi ar sut i ddefnyddio’r offer. Yn rhan o’r telerau ac amodau, mae’n rhaid gwylio pob fideo cyn defnyddio’r cyfleusterau. Ar ôl i chi gwblhau’r cyflwyniad, bydd modd cael cyflwyniad cyflym/gloywi ar-lein yn Ffit Conwy os bydd angen.

Os byddwch chi’n defnyddio un o’n campfeydd ni ac nad ydych chi wedi cwblhau’r naill na’r llall o’r dewisiadau cyflwyno uchod, eich dewis chi yw hynny ac ni fydd gan Ffit Conwy unrhyw atebolrwydd. Bydd gwiriadau ar hap yn cael eu gwneud a bydd unrhyw un sy'n defnyddio'r gampfa nad ydynt wedi cwblhau’r cyflwyniad yn cael ei wahardd o'r cyfleuster.

  • Diogelwch Personol - Ni ddylech wneud ymarfer corff sydd y tu hwnt i’ch gallu. Os ydych chi’n gwybod bod gennych chi gyflwr meddygol neu’n pryderu bod gennych chi un a allai eich atal chi rhag gwneud ymarfer corff yn ddiogel, dylech chi ofyn am gyngor gan weithiwr meddygol proffesiynol perthnasol cyn defnyddio ein cyfarpar a’n cyfleusterau a dilyn y cyngor hwnnw.

  • Diogelwch Offer - yn ystod y cyflwyniad, byddwch chi’n dysgu sut i ddefnyddio’r offer yn y gampfa’n ddiogel ac yn effeithiol, yn cynnwys yr hyn y dylid ei wneud os bydd rhywbeth yn mynd o’i le wrth ddefnyddio’r peiriannau.

  • Defnyddio’r campfeydd - mae’n rhaid i bob aelod alw yn y dderbynfa ar bob ymweliad.  Bydd angen cod ar gyfer rhai cyfleusterau. Byddwch chi’n cael cod ar bob ymweliad.  Mae’r cod hwn yn gyfrinachol ac ni ddylid ei roi i unrhyw ddefnyddiwr arall nac unrhyw un nad yw’n ddefnyddiwr. Ni fydd defnyddwyr a ganfyddir yn rhoi’r cod i eraill yn cael parhau i ddefnyddio’r cyfleuster.

  • Uchafswm nifer – dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael bob awr ym mhob cyfleuster. Er mwyn osgoi siom, cadwch eich lle ar gyfer sesiynau ymlaen llaw. Ni ddylai unrhyw sesiwn bara mwy na 60 munud.   Peidiwch ag aros am fwy na’r awr a neilltuwyd i chi.

  • Problemau – os ydych chi’n ansicr ynglŷn ag unrhyw beth yn y cyfleuster, gallwch chi siarad â’r hyfforddwyr wyneb yn wyneb, neu gysylltu â’r dderbynfa am gymorth.  Rhowch wybod i’r hyfforddwyr neu i’r dderbynfa am unrhyw ddiffygion, problemau neu offer wedi torri gan y bydd hyn yn cyflymu’r broses atgyweirio ac yn lleihau'r amser pan na fydd yr offer ar gael.

  • Hylendid a Chysur – mae tyweli papur a chwistrellau diheintio ar gael, defnyddiwch y rhain i lanhau’r offer ar ôl ei ddefnyddio er budd defnyddwyr eraill.  Taflwch y tyweli papur a ddefnyddiwyd i’r biniau a ddarperir.   Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwisgo dillad ac esgidiau ffitrwydd priodol bob amser. Fe’ch cynghorir i yfed digon o ddŵr yn ystod eich gweithgaredd corfforol felly dewch â dŵr gyda chi neu efallai y bydd ar gael yn y dderbynfa mewn rhai cyfleusterau.  Fe'ch cynghorir i ddefnyddio tywel campfa er eich budd personol.

  • Cwrteisi yn y Gampfa – ystyriwch ddefnyddwyr eraill wrth wneud ymarfer corff. Mae’r cyfnod y gellir defnyddio pob darn o offer ymarfer corff wedi’i gyfyngu i 20-25 munud yn ystod cyfnodau prysur. Mae’n rhaid dychwelyd y pwysau i’r rhesel ar ôl eu defnyddio.   Peidiwch ag agor y ffenestri os gwelwch yn dda, gofynnwch i aelod o staff wneud hyn os bydd angen.

  • Argyfwng - pe bai damwain neu ddigwyddiad yn y gampfa, rhowch wybod i’r aelod o staff agosaf ar unwaith.
end content