Clybiau Ffitrwydd a Chwaraeon Iau
Clwb Gymnasteg Grays
Mae Clwb Gymnasteg Grays yn dysgu Gymnasteg i blant o bob oed, ac fe'i rhennir i ddau gategori; Cyn-Ysgol, a Gymnasteg Hamddenol.
Maent yn cynnal sesiynau yn: Canolfan Hamdden John Bright
Caiff Clwb Gymnasteg Grays ei arwain gan sefydliad allanol, am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Helen Rushton
Rhif Ffôn Dydd: 07765483855
Rhif Ffôn Gyda'r Nos: 01492514293
Gwefan: www.graysgymnastics.co.uk
Crèche
- Rydym yn darparu crèche mewn rhai Canolfannau Hamdden Ffit Conwy i blant o 2 fis oed hyd at eu pen-blwydd yn 5 oed. Canolfan Hamdden Colwyn a Chanolfan Hamdden Cyffordd Llandudno.
- Oherwydd cymhareb staffio gall y crèche fod yn brysur ac felly fe’ch cynghorir i archebu lle ar gyfer eich plentyn. Gallwch archebu lle i’ch plentyn yn y cyfleuster hwn hyd at un awr. Os ydych yn aelod ffit Conwy bydd eich plentyn cyntaf am ddim a bydd rhaid talu am ail blentyn wrth archebu.
- Rhaid cwblhau’r holl archebion ar-lein 48 awr cyn i’r sesiwn ddechrau.
- Rhaid i’r holl rieni arwyddo eu plentyn i mewn/ag allan gyda staff y crèche. Rhaid i rieni fod ar y safle bob amser.
- Mae gwiriadau diogelu priodol yn cael eu gwneud ar holl staff canolfannau hamdden Ffit Conwy.
- Os oes gan eich plentyn salwch neu gyflwr heintus neu unrhyw haint feirysol yna yn ôl telerau ac amodau’r crèche ni ddylech ddod â’ch plentyn i’r ganolfan. Hefyd, ni ddylech ddod â nhw i’r ganolfan o fewn 48 awr ers y pwl diwethaf o unrhyw salwch ac/neu ddolur rhydd.
Oriau agor y crèche: