60+ Cynllun Hamdden Egnïol
Mae Ffit Conwy’n gweithio gyda Chwaraeon Cymru i helpu i ddarparu cynnig hamdden cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl dros 60 oed.
Mi fydd yn annog gweithgarwch corfforol a dewisiadau iach o fyw, dull sy’n anelu at leihau anghydraddoldebau iechyd ac arwahanrwydd cymdeithasol.
Mae gennym raglen o weithgareddau yn gweithredu mewn canolfannau hamdden a lleoliadau cymunedol ar draws Conwy.
Rydym ni wastad yn chwilio am ffyrdd i wella ein gwasanaeth felly, os hoffech chi ddweud eich dweud ar ein cynnig presennol, llennwch yr holiadur isod:
Llennwch yr holiadur