Chwaraeon Racket
Badminton
Mae Cyrtiau Badminton ar gael ym mhob un o'n neuaddau chwaraeon. Mae'r rhain wedi'u lleoli yn y canolfannau canlynol:
Mae gan y rhan fwyaf o'n canolfannau hamdden offer badminton ar gael i'w defnyddio gan y cyhoedd. Holwch yn eich canolfan o ddewis am fanylion.
Sboncen
Mae ein cyrtiau sboncen wedi eu lleoli yn y canolfannau hamdden a ganlyn:
Canolfan Hamdden John Bright 2 x gwrt â chefn gwydr gyda wal symudol er mwyn caniatáu ar gyfer gemau dyblau.
Mae peli sboncen ar gael i'w prynu, ac mae racedi ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio yn y rhan fwyaf o'n canolfannau.
Tenis
Mae ein cyrtiau tenis wedi’u lleoli yng Nghanolfan Tenis James Alexander Barr. Yma, dewch o hyd i’r canlynol:
- 2 gwrt tenis dan do maint cyflawn.
- 4 gwrt tenis awyr agored maint cyflawn.
- Mae ein holl gyrtiau awyr agored yn cynnwys arwynebedd concrid a goleuadau llif ar gyfer misoedd tywyll y gaeaf.
- Bydd ffi ychwanegol yn gymwys i’r cyrtiau wrth ddefnyddio’r goleuadau llif.
Mae gennym hefyd nifer o gyrtiau tenis o fewn y parciau canlynol:
- Parc Pentre Mawr
- Parc Min y Don
- Parc Rhos
- Bodlondeb
Mae’r cyrtiau hyn am ddim i’w defnyddio trwy gydol y flwyddyn ond nid ydynt yn cael eu cynnal a’u cadw i’r un lefel â’r rhai yng Nghanolfan Tenis James Alexander Barr..