Trac Athletau
Mae Canolfan Hamdden Colwyn yn rheoli trac athletau synthetig, 400 metr a ddefnyddir yn eang gan y gymuned, yn ogystal â Chlwb Athletau Bae Colwyn sy’n hyfforddi’n aml yma. Ym mis Medi 2024, adnewyddwyd y trac a oedd yn cynnwys is-strwythur a haen uchaf newydd. (Trac athletau ar ei newydd wedd wedi'i ddadorchuddio ym Mae Colwyn)
Yn ogystal â’r trac, mae gennym hefyd:
- Ardal naid hir
- Naid uchel
Mae giatiau amseru integredig hefyd ar gael ar y trac, i’r rhedwyr hynny sydd am amseru eu hunain yn cyflawni’r 100 metr neu’r 400 metr. Gellir defnyddio'r gatiau amseru i fesur pellter, cyflymder, amlder camau a rhannu amseroedd. Mae'r gatiau amseru wedi’u lleoli yn y mannau canlynol:
- Lôn 2 ar gyfer y 400 metr
- Lôn 4 ar gyfer y 100 metr
Cyn cyrraedd y trac, mae yna fwrdd gwybodaeth sy’n dangos ble mae’r giatiau wedi’u lleoli, yn ogystal â'r cod bar i lawrlwytho'r ap Smart Run.
Mae’r trac ar gael i’w logi i holl aelodau Ffit Conwy a rhai nad ydynt yn aelodau. Fe’ch cynghorir i gysylltu â Chanolfan Hamdden Colwyn cyn dod draw i’r trac athletau, er mwyn sicrhau bod y trac ar gael i’w ddefnyddio.