Trampolinio
Hyfforddiant Trampolinio Iau Oed 7+
Bydd y plant yn dysgu sut i fflipio, troi a throelli eu ffordd drwy eu gwobrau hyfedredd trampolinio. Bydd y cwrs yn cynnwys pethau o neidiau sêr a neidiau syth i ddisgyn ar eich eistedd, ar eich cefn, a hyd yn oed sut i drosbennu!
Dydd Iau: 5pm - 6pm a 6pm - 7pm
Sesiynau Trampolinio (Cwrs 6 wythnos):
Canolfan Hamdden John Bright Llandudno
Cost: £32.40
Sesiynau Trampolinio i Ferched yn Unig (Oedolion yn unig 18+)
Os oes arnoch chi eisiau gwella’ch ffitrwydd, tynhau’ch corff a chael hwyl ar yr un pryd, yna mae ein dosbarthiadau trampolinio i ferched yn unig yn berffaith ar eich cyfer chi.Ymunwch â ni heddiw a dechreuwch eich taith i fod yn iachach a hapusach!
Dydd Iau 7pm - 8pm
Sesiynau Trampolinio (Cwrs 6 wythnos):
Canolfan Hamdden John Bright Llandudno
Cost: £32.40
Mae’r sesiynau hyfforddi trampolîn yn dilyn gwobrau hyfedredd Trampolinio Gymnasteg Prydain.
Am ragor o wybodaeth: hamdden.leisure@conwy.gov.uk
I archebu: 0300 456 95 25