Siarad â meddyg unrhyw bryd fydd angen, gyda mynediad ar-lein 24/7 at bresgripsiynau a chyngor meddygol
Beth yw meddyg teulu ar-lein?
Mae gwasanaeth meddyg teulu ar-lein yn cynnig mynediad ar-lein at feddygon cymwys, gan roi cyfle i chi ymgynghori â gweithwyr meddygol heb fynd i glinig go iawn.
Mae Abi Global Health yn eich cysylltu â meddygon sydd wedi cofrestru â’r Cyngor Meddygol Cyffredinol trwy ymgyngoriadau fideo – nid oes angen archebu lle ymlaen llaw, a chewch siarad â meddyg pan fo angen.
Beth yw'r buddion?
- Mynediad cyflym: cyngor meddygol heb restrau aros y GIG.
- Ar gael 24/7: ymgynghori â meddygon unrhyw bryd.
- Cyfleus: dim ystafelloedd aros, dim amser teithio na chymryd amser o’r gwaith.
Beth sy’n cael ei gynnwys yn y gwasanaeth?
- Cyngor meddygol trwy ymgynghoriad fideo: Siarad yn uniongyrchol â meddyg sydd wedi cymhwyso yn y DU am eich pryderon iechyd.
- Ail farn: Cadarnhau eich cynllun triniaeth gyda chyngor arbenigol.
- Presgripsiynau preifat: Gofyn am feddyginiaeth dros ymgynghoriad fideo neu trwy lenwi ffurflen.
- Nodyn salwch ac atgyfeirio: Cael llythyrau atgyfeirio arbenigol neu nodiadau ffitrwydd.
- Ymgyngoriadau dros neges destun: Cyfleuster sgwrsio ar alw ar gael, o’ch ap presennol.
Tystebau
“Rydw i’n hynod o brysur felly mae bron yn amhosib i mi archebu apwyntiad meddyg teulu. Ond rŵan rydw i wedi gallu sgwrsio’n gyflym gyda meddyg teulu, sydd wedi arbed amser, arian a straen i mi wrth wneud hyn ar-lein. Buaswn yn ei argymell, diolch i chi! :)”
Ben, 2026