cy Cartref Datblygu Hamdden Bikeability Hyfforddiant Beicio
start content

Hyfforddiant Beicio

Rhaglen hyfforddiant beicio genedlaethol y DU yw Bikeability. Mae wedi’i chynllunio i addysgu sgiliau a rhoi hyder i blant i reidio’n ddiogel ar ffyrdd modern. Mae’r hyfforddiant wedi’i strwythuro yn lefelau graddol, sy’n cynnwys sgiliau sylfaenol trin beic i reidio mewn traffig cymhleth, ac fe’i darperir fel arfer i ysgolion cynradd lleol.

  • Lefel 1:  Cynhelir mewn amgylchedd heb draffig, ar fuarth ysgol fel arfer. Mae’n canolbwyntio ar sgiliau sylfaenol o reoli beic, gwirio beic, a sgiliau sylfaenol fel gleidio a llywio.
  • Lefel 2:  Cynhelir ar ffyrdd. Mae’n addysgu reidwyr i gynllunio llwybrau, deall safle ar y ffordd a delio â chyffyrdd syml.

Mae tîm Datblygu Hamdden Ffit Conwy wedi bod yn cydweithio â thîm Diogelwch ar y Ffordd AFfCh i ddarparu hyfforddiant beicio ers 2009. Cydweithio i’w gwneud yn fwy diogel i bawb reidio ar y ffyrdd.

Conwy yw’r unig ALl yng Nghymru sy’n darparu Hyfforddiant Beicio i bob ysgol gynradd ers 2009.

I ddysgu mwy am Bikeability, cysylltwch â’r Tîm Datblygu Hamdden - Cysylltwch â ni

Bikeabilitylogo

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content