Gwaith Cynnal a Chadw ar gyfer System Archebu Ffit Conwy
Gwybodaeth bwysig: Gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ar gyfer system archebu Ffit Conwy
Dydd Llun 18 Medi 2023: Ni fydd modd gwneud unrhyw archeb drwy ap Ffit Conwy na’r wefan.
Er mwyn sicrhau bod y system archebu’n gweithio’n iawn ar gyfer ein cwsmeriaid, byddwn yn cyflawni gwaith cynnal a chadw hanfodol ddydd Llun 18 Medi 2023.
I archebu yn ystod y cyfnod hwn, ewch i’r ganolfan hamdden yn uniongyrchol.
(Sylwer: mae modd archebu ar-lein hyd at dridiau ymlaen llaw nes ddydd Sul 17 Medi 2023)
Mae’r gwaith wedi’i drefnu am dridiau. Ond, os caiff ei gwblhau yn gynt byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Dilynwch ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf:
Diolch i chi am eich cydweithrediad,
Tîm Ffit Conwy
Ffôn: 0300 456 95 25