Rheolau Cyffredinol y Pwll Nofio
Er mwyn sicrhau amgylchedd diogel, glân a hwylus i bob nofiwr, dilynwch y canllawiau isod:
Hylendid ac Iechyd
- Cymerwch gawod cyn mynd i mewn i’r pwll, er mwyn helpu i gynnal ansawdd y dŵr.
- Defnyddiwch y toiled cyn nofio, ac anogwch blant i wneud yr un fath.
- Peidiwch â nofio os ydych chi wedi cael dolur rhydd yn y 48 awr diwethaf.
- Os ydych wedi cael diagnosis o cryptosporidiosis, ni ddylech nofio am 14 diwrnod ar ôl i’r dolur rhydd ddod i ben.
- Mae’n rhaid i fabanod neu unrhyw un nad ydynt yn gallu rheoli eu coluddyn wisgo clwt nofio sy’n ffitio’n dda.
- Nid yw clytiau nofio yn gallu atal gollyngiad, felly mae’n rhaid eu gwirio a’u newid os ydynt yn fudr.
- Ni ddylai unrhyw un sy’n profi dolur rhydd - ni waeth os ydynt yn gwisgo clwt nofio - ddefnyddio’r pwll am 48 awr yn dilyn hynny.
- Os ydych wedi cael diagnosis o cryptosporidiosis, ni ddylech nofio am 14 diwrnod ar ôl i’r dolur rhydd ddod i ben.
- Peidiwch â nofio os ydych chi’n teimlo’n sâl, mae gennych salwch heintus, briwiau agored, neu rydych o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
- Peidiwch a gorddefnyddio diaroglydd aerosol i warchod pobl sy’n cael anawsterau anadlu.
Diogelwch
- Rhowch wybod i’r achubwyr bywyd am unrhyw gyflwr meddygol a all effeithio ar eich diogelwch.
- Nofiwch o fewn eich gallu, a defnyddiwch gymhorthion arnofio os oes angen.
- Ymgyfarwyddwch gyda dyfnderoedd y pyllau nofio, peryglon, ac arwyddion cyn mynd i mewn.
- Gwrandewch ar gyfarwyddiadau’r achubwyr bywyd a dilynwch unrhyw hysbysiadau sy’n cael eu cyhoeddi - maent yno ar gyfer eich diogelwch.
- Osgowch ddal eich gwynt o dan y dŵr am gyfnodau hir.
- Cerddwch yn ofalus wrth ochr y pwll; efallai bydd arwynebau’n llithrig.
- Defnyddiwch y loceri a ddarperir er diogelwch eich eiddo; gadewir eitemau heb eu goruchwylio ar fenter y perchennog.
- Mae rhai o’n cyfleusterau yn gweithredu Teledu cylch caeëdig (a reolir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; Cysylltwch ar 01492 574000).
- Dim ffotograffiaeth na fideos heb ganiatâd ymlaen llaw gan y rheolwyr.
Gwisgoedd Nofio a Chyfarpar
- Gwisgwch wisg nofio priodol sydd wedi’i restru ar y dudalen hon Gwisgoedd Nofio
- Ni ddylai gwisgoedd nofio fod yn rhy drwm neu’n dryloyw pan yn wlyb.
- Ni ddylid gwisgo esgidiau tu allan wrth ochr y pwll heb orchuddion esgidiau.
- Efallai bydd defnydd esgyll, snorceli, masgiau, neu gyfarpar arall yn cael eu cyfyngu yn ystod sesiynau cyhoeddus - gwiriwch gyda’r dderbynfa.
- Ni ddylid defnyddio gogls neu fasgiau gwydr yn y pwll.
Ymddygiad Cyffredinol
- Byddwch yn ystyriol o eraill: rhannwch lonydd yn seiliedig ar gyflymer, ac osgowch rwystro nofwyr.
- Cadwch sŵn i lefelau rhesymol ac osgowch ymddygiad sy’n amharu.
- Gwaredwch ar sbwriel yn gyfrifol, a chadwch ardaloedd newid yn daclus.
- Goruchwyliwch blant bob amser a chadwch o fewn hyd braich i bobl nad ydynt yn gallu nofio.