Nofio Ffit
Mae pob dosbarth yn darparu ffordd amgen i ymarfer, gwella ffitrwydd, cyrraedd targedau a hyfforddi ar gyfer heriau personol mewn amgylchedd cymdeithasol. Mae’n darparu cymysgedd o wahanol arferion, dulliau, cyflymder a hyd er mwyn annog ymarfer corff mwy amrywiol a heriol na nofio traddodiadol mewn lonydd. Gyda chymorthyddion hyfforddi a heriau amrywiol, mae rhywbeth ar gael sy’n addas i bob gallu a diddordeb. Mae’r ymarferion yn amrywio o nofio hyd y pwll rhwng 10 a 120 o weithiau, yn dibynnu ar allu, ac yn para 60 munud.
Amseroedd Nofio Ffit
Canolfan Nofio Llandudno
- Dydd Llun – 8:30pm
- Dydd Mercher – 8:30pm
Canolfan Hamdden Colwyn
Canolfan Hamdden Abergele
Pwll Nofio Llanrwst
- Dydd Mawrth – 6:30pm
- Dydd Iau – 7:45am
Cliciwch yma am yr amseroedd diweddaraf, neu fel arall cysylltwch â ni neu ewch i’ch pwll nofio lleol.