Gwersi Nofio i Oedolion a Gwersi Unigol
Gwersi Oedolion
Nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu sut i nofio! Rydym yn credu y dylai pob unigolyn gael cyfle i ddysgu nofio a chyrraedd eu llawn botensial fel nofiwr. Mae gwersi nofio i oedolion yn cael eu cynnig ar hyn o bryd yn Abergele, Llandudno a Llanrwst.
Fframwaith cyfannol, cymwysadwy er mwyn cyflwyno a datblygu sgiliau dyfrol i bobl mewn oed. Mae’r tair lefel datblygu’n canolbwyntio ar adael i’r rhai sy’n cymryd rhan ddysgu a datblygu wrth eu pwysau, ac yn ôl eu hysgogiad a’u targedau eu hunain.
Gwna’r cynllun arloesol hwn gyfraniad allweddol i gyflawniad gweledigaeth Nofio Cymru o ‘Weithgareddau dŵr i bawb am oes’ drwy ddysgu sgiliau i unigolion gael mwynhau bod yn y dŵr yn hyderus a dysgu a datblygu sgiliau cymhwysedd dŵr hanfodol.
Cynllunnir holl ganlyniadau Dysgu Nofio Cymru i sicrhau bod anghenion corfforol y rhai sy’n cymryd rhan yn cael eu bodloni a’u datblygu.
Mae’r cynllun yn cynnwys sgiliau dyfrol, nofio a sgiliau ehangach cymhwysedd dŵr a diogelwch – sy’n rhoi cyfle a dewis i unigolion gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau dŵr o’u dewis, gan agor y drws i chwaraeon a gweithgareddau dŵr eraill fel rhan o ffordd iach ac actif o fyw.
Mae ein wersi nofio i oedolion yn dilyn fframwaith Dysgu Nofio. Gellir dod o hyd i'r holl ganlyniadau dysgu isod:
I MEWN AC ALLAN O’R DwR
-
Mynd i’r dwˆr a dod allan o’r dwˆr yn ddiogel, gan ddefnyddio dull
o’ch dewis eich hun
HYDER / LLEOLIAD YN Y DwR
-
Symud o gwmpas yn y dwˆr yn gyfforddus, gan gynnwys ar hyd ymyl y pwll
a cherdded o amgylch y pwll
-
Dod yn ôl i fod ar i fyny’n fertigol oddi ar y bol ac oddi ar y cefn
gyda chynhaliaeth
ANADLU DYFROL
- Bod yn gyfforddus gyda dwˆr ar yr wyneb
-
Anadlu i mewn, ac yna allan pan fo’r wyneb yn y dwˆr. Ailadrodd yn
rhythmig o leiaf bedair gwaith.
TROI
- Troi 350 gradd gyda’r corff yn fertigol gyda chymhorthion nofio
LLITHRO
-
Gwthio a llithro at y wal neu at bartner, gan ddefnyddio offer arnofio.
Dylid cadw’r corff yn lliflin ar y bol neu’r cefn
HYNOFEDD
-
Arnofio gyda’r corff yn fflat ar y bol neu ar y cefn gydag offer arnofio
DIOGELWCH YN Y DwR
- Ateb cwestiynau ar negeseuon diogelwch dwˆr
-
Mewn dwˆr at yr ysgwyddau, gydag offer arnofio, troedio’r dwˆr gan
symud y coesau mewn amrywiaeth o ffyrdd a sgwlio gyda’r dwylo
- Mynd i ystum cadw gwres y corff gyda chymorth nofio
TEITHIO
- Symud drwy gicio ar y bol neu ar y cefn
- Nofio 25 metr, gan symud mewn dull o’ch dewis eich hun
DEWISOL
-
Neidio i’r dŵr, dyfnder o 1.5m o leiaf, mynd o dan y dwˆr, arnofio ac
yna dychwelyd i ymyl y pwll
I MEWN AC ALLAN O’R DwR
-
Mynd i’r dwˆr a dod allan o’r dwˆr yn ddiogel, gan ddefnyddio dull
o’ch dewis eich hun
HYDER / LLEOLIAD YN Y DwR
-
Dod yn ôl i fod ar i fyny’n fertigol oddi ar y bol ac oddi ar y cefn heb
gynhaliaeth
ANADLU DYFROL
- Mynd o dan y dwˆr a phenlinio neu eistedd ar lawr y pwll
TROI
-
Plymio gyda’r pen yn gyntaf a phlymio gyda’r traed yn gyntaf o arwyneb y
dŵr
LLITHRO
- Gwthio a llithro oddi wrth y wal ar y bol a/neu ar y cefn
HYNOFEDD
- Arnofio gyda’r corff yn fflat ar y bol neu ar y cefn
DIOGELWCH YN Y DwR
- Ateb cwestiynau ar negeseuon diogelwch dwˆr
-
Mewn dwˆr at yr ysgwyddau, troedio’r dwˆr gan symud y coesau mewn dull
o’ch dewis eich hun am 30 eiliad
- Mynd i ystum cadw gwres y corff heb gymorth nofio
TEITHIO
-
Gyda’r corff yn fflat, symud drwy gicio ar y bol neu ar y cefn gydag
offer arnofio am 10 metr
- Nofio 50 metr gan ddefnyddio dau wahanol symudiad
- Nofio 200 metr yn barhaus, gan symud mewn dull o’ch dewis eich hun
DEWISOL
-
Neidio i’r dwˆr, dyfnder o 1.5m o leiaf, mynd o dan y dwˆr, arnofio ac
yna dychwelyd i ymyl y pwll
I MEWN AC ALLANO’R DwR
-
Mynd i’r dwˆr ac allan o’r dwˆr yn ddiogel, gan ddefnyddio dull o’ch
dewis eich hun
HYDER / LLEOLIAD YN Y Dwˆ R
- Dangos dealltwriaeth o gwrteisi wrth ddefnyddio rhesi’r pwll
ANADLU DYFROL
-
Nofio yn y dull blaen (frontcrawl) gan gymryd o leiaf chwe anadl
rhythmig
- Nofio broga, gan gymryd o leiaf chwe anadl rhythmig
LLITHRO
- Gwthio a llithro oddi wrth y wal ar y bol ac ar y cefn
HYNOFEDD
- Arnofio gyda’r corff yn fflat ar y bol ac ar y cefn
DIOGELWCH YN Y DwR
- Ateb cwestiynau ar negeseuon diogelwch dwˆr
-
Neidio i’r dwˆr, dyfnder lleiaf o 1.5m, mynd o dan y dwˆr yn llwyr ac
yna dychwelyd i ymyl y pwll.
- Mynd i ystum cadw gwres y corff heb gymorth nofio
TEITHIO
-
Symud drwy gicio gyda’r coesau’n symud bob yn ail ac yn symud gyda’i
gilydd am 25 metr heb gymorth nofio
- Nofio 100 metr gan ddefnyddio dau wahanol symudiad
-
Nofio 400 metr o leiaf yn barhaus, gan symud mewn dull o’ch dewis eich
hun
DEWISOL
Mae pob Gwers Nofio ar ddebyd uniongyrchol yn cynnwys nofio am ddim yn unrhyw un o'n sesiynau ychwanegol!
Gwersi Unigol
Rydym yn cynnig gwersi nofio preifat i oedolion a phlant iau. Mae’r rhain yn cael eu cynnig y tu allan i amseroedd ein rhaglen gwersi nofio ac felly nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael.