cy Cartref Ein Cyfleusterau Chwaraeon a ffitrwydd Ffitrwydd Les Mills Les Mills Born To Move™ - Ysgolion
start content

Les Mills Born To Move™ - Ysgolion

Fel rhan o ymrwymiad Ffit Conwy i gefnogi iechyd a lles plant ledled Conwy, rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion cynradd lleol drwy raglen "Adopt a School / Mabwysiadu Ysgol" Les Mills.

Drwy’r rhaglen, mae gan ysgolion fynediad AM DDIM at BORN TO MOVE™ lle mae ffitrwydd a hwyl yn mynd law yn llaw - gan sbarduno cariad gydol oes tuag at symud i blant.


Beth yw BORN TO MOVE™? 

Meddyliwch am BORN TO MOVE™ fel bocs yn llawn egni, dychymyg a symudiad!

Gall blant:

  • Ddawnsio fel eu hoff berfformwyr
  • Meistroli symudiadau wedi'u hysbrydoli gan y grefft ymladd
  • Rhoi cynnig ar ioga, ymwybyddiaeth ofalgar, ac ymlacio
  • Neidio, cydbwyso, ymestyn a chwarae drwy heriau cyffrous
  • Meithrin hyder, cyd-drefniant a sgiliau gweithio mewn tîm 

Mae'r sesiynau wedi'u cynllunio a'u cefnogi gan wyddoniaeth yn benodol ar gyfer plant oedran cynradd, ac fe'u cyflwynir mewn modd hwyliog a diddorol sy'n annog pob plentyn i gymryd rhan, waeth beth fo'u gallu neu eu profiad.

Sut all ysgolion ddefnyddio’r rhaglen?

Mae sesiynau BORN TO MOVE™ yn hyblyg ac yn hawdd i'w hymgorffori yn y diwrnod ysgol, gan gynnwys:

  • Dosbarthiadau ymarfer corff
  • Egwyl egnïol o’r ystafell ddosbarth
  • Egwyl i’r ymennydd rhwng gwersi
  • Sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a lles
  • Gweithgareddau yn y dosbarth pan fydd y tywydd wedi troi
  • Amser Tawel
  • Clybiau amser cinio neu ar ôl ysgol
  • Arweinwyr ifanc - Cyfoethogi

Cofrestrwch eich ysgol am ddim

Os oes gennych chi ddiddordeb yn y PLATFFORM Les Mills BORN TO MOVE™ ar ran eich ysgol, cliciwch ar y ddolen isod: 


Mynediad ysgolion

Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar gyfer sesiynau Born to Move Ffit Conwy, gallwch gael mynediad at y platfform yma:

Ardal Colwyn

https://www.lesmills.com/born-to-move/colwyn-leisure-centre

Ysgolion yn ardal Canolfan Hamdden Colwyn sydd wedi cofrestru:

  • Ysgol Pen y Bryn

Ardal Llanrwst

https://www.lesmills.com/born-to-move/hwb-yr-hen-ysgol-the-hub

Ysgolion yn ardal Llanrwst sydd wedi cofrestru:

  • Ysgol Betws y Coed
  • Ysgol Bro Aled
  • Ysgol Bro Gwydir
  • Ysgol Capel Garmon
  • Ysgol Cerrigydrudion
  • Ysgol Dyffryn Conwy
  • Ysgol Dyffryn yr Enfys
  • Ysgol Llanddoged
  • Ysgol Penmachno
  • Ysgol Ysbyty Ifan

Ardal Cyffordd Llandudno

https://www.lesmills.com/born-to-move/llandudno-junction-leisure-centre

Ysgolion yn ardal Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno sydd wedi cofrestru:

  • Deganwy Out of School Club
  • Ysgol Babanod Llanfairfechan
  • Ysgol Deganwy
  • Ysgol Y Gogarth
  • Ysgol Glan Conwy


BORN TO MOVE™ - Mae’n fwy nag ymarfer corff, mae’n ddechrau perthynas hir ac iach gyda gweithgarwch corfforol
.

Am ragor o wybodaeth: Cysylltwch â ni

 


 



Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content