Les Mills Born To Move™ - Ysgolion
Fel rhan o ymrwymiad Ffit Conwy i gefnogi iechyd a lles plant ledled Conwy, rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion cynradd lleol drwy raglen "Adopt a School / Mabwysiadu Ysgol" Les Mills.
Drwy’r rhaglen, mae gan ysgolion fynediad AM DDIM at BORN TO MOVE™ lle mae ffitrwydd a hwyl yn mynd law yn llaw - gan sbarduno cariad gydol oes tuag at symud i blant.
Beth yw BORN TO MOVE™?
Meddyliwch am BORN TO MOVE™ fel bocs yn llawn egni, dychymyg a symudiad!
Gall blant:
- Ddawnsio fel eu hoff berfformwyr
- Meistroli symudiadau wedi'u hysbrydoli gan y grefft ymladd
- Rhoi cynnig ar ioga, ymwybyddiaeth ofalgar, ac ymlacio
- Neidio, cydbwyso, ymestyn a chwarae drwy heriau cyffrous
- Meithrin hyder, cyd-drefniant a sgiliau gweithio mewn tîm
Mae'r sesiynau wedi'u cynllunio a'u cefnogi gan wyddoniaeth yn benodol ar gyfer plant oedran cynradd, ac fe'u cyflwynir mewn modd hwyliog a diddorol sy'n annog pob plentyn i gymryd rhan, waeth beth fo'u gallu neu eu profiad.
Sut all ysgolion ddefnyddio’r rhaglen?
Mae sesiynau BORN TO MOVE™ yn hyblyg ac yn hawdd i'w hymgorffori yn y diwrnod ysgol, gan gynnwys:
- Dosbarthiadau ymarfer corff
- Egwyl egnïol o’r ystafell ddosbarth
- Egwyl i’r ymennydd rhwng gwersi
- Sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a lles
- Gweithgareddau yn y dosbarth pan fydd y tywydd wedi troi
- Amser Tawel
- Clybiau amser cinio neu ar ôl ysgol
- Arweinwyr ifanc - Cyfoethogi
Cofrestrwch eich ysgol am ddim
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y PLATFFORM Les Mills BORN TO MOVE™ ar ran eich ysgol, cliciwch ar y ddolen isod:
Cofrestrwch eich ysgol yma
Mynediad ysgolion
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar gyfer sesiynau Born to Move Ffit Conwy, gallwch gael mynediad at y platfform yma:
BORN TO MOVE™ - Mae’n fwy nag ymarfer corff, mae’n ddechrau perthynas hir ac iach gyda gweithgarwch corfforol.
Am ragor o wybodaeth: Cysylltwch â ni