Title

Text
start content

Nofio Ffit

Mae pob dosbarth yn darparu ffordd amgen i ymarfer, gwella ffitrwydd, cyrraedd targedau a hyfforddi ar gyfer heriau personol mewn amgylchedd cymdeithasol.  Mae’n darparu cymysgedd o wahanol arferion, dulliau, cyflymder a hyd er mwyn annog ymarfer corff mwy amrywiol a heriol na nofio traddodiadol mewn lonydd.  Gyda chymorthyddion hyfforddi a heriau amrywiol, mae rhywbeth ar gael sy’n addas i bob gallu a diddordeb.  Mae’r ymarferion yn amrywio o nofio hyd y pwll rhwng 10 a 120 o weithiau, yn dibynnu ar allu, ac yn para 60 munud.  

Rydym hefyd yn cynnig Nofio Ffit Iau sy’n dilyn Fframwaith Nofio Cymru. Mae’r rhaglen Sgiliau Nofio Uwch yn cynnig cyfle i nofwyr ddatblygu sgiliau nofio uwch allweddol. Mae 5 lefel wedi’u llunio ar gyfer nofwyr sydd am wella eu techneg yn y pedwar arddull, ynghyd â dulliau dechrau, troi a gorffen. Mae wedi’i lunio i sefydlu ymarfer da ac arferion a sgiliau cywir yn gynnar yn eu gyrfa nofio. Cewch fwy o wybodaeth yma.

 

Amseroedd Nofio Ffit 

Canolfan Nofio Llandudno

  • Dydd Llun – 8:30pm
  • Dydd Mercher – 8:30pm

Canolfan Hamdden Colwyn

  • Dydd Mawrth – 6:30pm

Canolfan Hamdden Abergele

  • Dydd Mawrth – 8:00pm

Pwll Nofio Llanrwst

  • Dydd Mawrth – 6:30pm
  • Dydd Iau – 7:45am


Junior Swim Fit Times

Canolfan Nofio Llandudno

  • Dydd Mawrth – 7pm - 8pm
  • Dydd Iau – 6:30pm - 7:20pm 

Canolfan Hamdden Abergele

  • Dydd Mawrth – 7pm - 8pm

Pwll Nofio Llanrwst

  • Dydd Llun – 5:15pm - 5:45pm


Cliciwch yma am yr amseroedd diweddaraf, neu fel arall cysylltwch â ni neu ewch i’ch pwll nofio lleol.

end content