Nofio Gallu Cymysg
Mae ein Sesiynau Gallu Cymysg yn caniatáu i deuluoedd / ffrindiau abl ac anabl nofio / chwarae gyda’i gilydd mewn pwll hamdden. Mae hyn yn caniatáu i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl i gael mynediad at y cyfleusterau mewn amgylchedd mwy cynhwysol.
- Beth ydyn nhw?
Amseroedd nofio arbennig yw'r rhain lle gall pawb, gan gynnwys pobl ag anableddau, gael hwyl yn y dŵr mewn modd cyfeillgar a hamddenol. Maent yn berffaith ar gyfer teuluoedd sydd â phlant anabl neu unrhyw un nad ydynt yn teimlo'n gyfforddus mewn sesiynau nofio arferol.
- Oes angen i chi ddod â rhywun gyda chi?
Nid oes angen i chi ddod ag unrhyw un gyda chi, oni bai bod angen cymorth ychwanegol arnoch yn y pwll neu wrth newid. Ni all aelodau staff gynnig gofal personol, felly os oes angen cymorth arnoch, dylech ddod â gofalwr gyda chi. Mae yna ystafell newid arbennig gyda theclyn codi, ond mae angen i chi ddod â’ch sling eich hun a gofyn am fatri'r teclyn codi wrth y ddesg flaen. Mae angen i chi hefyd wybod sut i ddefnyddio'r teclyn codi.
- Sut maen nhw’n wahanol i sesiynau nofio arferol?
Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i fod yn groesawgar i bobl anabl sydd o bosibl yn ei chael hi’n anodd mynychu sesiynau arferol yn y gampfa neu’r pwll. Mae fel yr 'awr gyfeillgar i awtistiaeth' mewn archfarchnadoedd, lle gwneir newidiadau er mwyn helpu mwy o bobl i ymuno a chael hwyl.
Gallwch ddarllen ein gwybodaeth i gwsmeriaid anabl yma.
Amseroedd Nofio Gallu Cymysg
Canolfan Hamdden Colwyn
Canolfan Hamdden Abergele
Cliciwch yma am yr amseroedd diweddaraf, neu fel arall cysylltwch â ni neu ewch i’ch pwll nofio lleol.