Nofio Am Ddim i Rai Dros 60 a Dan 16
Beth yw Nofio Am Ddim?
Lansiwyd Nofio am Ddim yng Nghymru yn 2003. Hon oedd y rhaglen nofio am ddim genedlaethol gyntaf yng Nghymru. Y Nod Cael mwy o bobl ifanc (16 oed ac iau) a phobl dros 60 oed yn dysgu nofio ac yn mynd i nofio’n fwy aml.
Menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw hon. Caiff ei rheoli gan Chwaraeon Cymru a’i darparu gan 22 Awdurdod Lleol. Yn dilyn yr adolygiad annibynnol a chanllawiau gan Lywodraeth Cymru yn 2019, mae Nofio Am Ddim yn dal i dargedu pobl ifanc a phobl hŷn dros 60 oed - ond mae bellach yn rhoi blaenoriaeth i’r rheiny o ardaloedd difreintiedig.
Y nod yw helpu pobl sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf i gael mynediad at bwll nofio fel y gallwn roi cyfle iddyn nhw ddysgu sgil am oes a nofio yn fwy aml.
Sesiynau Nofio Am Ddim i Rai Dros 60 oed
Canolfan Nofio Llandudno
- Dydd Iau – 12:45yp - 13:30yp
Canolfan Hamdden Colwyn
- Dydd Gwener – 8.00yb - 9.00yb
Canolfan Hamdden Abergele
- Dydd Mercher – 8.45yb - 9.45yb
- Pan fydd ysgolion yn dod i nofio, bydd ar ddydd Gwener 12.30yp – 1.30yp
Pwll Nofio Llanrwst
- Dydd Iau – 9.15yb – 10.15yb
Sesiynau Nofio Am Ddim i Rai Dan 16 oed
Canolfan Nofio Llandudno
Yn Ystod y Tymor
- Dydd Sadwrn – 11yb - 12yp
Yn ystod gwyliau
- Dydd Llun – 1yp - 2yp & 2:30yp - 3:30yp
Canolfan Hamdden Colwyn
Yn Ystod y Tymor
Yn ystod gwyliau
- Dydd Iau – 2:15yp - 3.15yp
- Dydd Gwener – 2yp - 3yp
- Dydd Sul – 2yp - 3yp
Canolfan Hamdden Abergele
Yn Ystod y Tymor
- Dydd Gwener – 4:45yp - 5:45yp
Yn ystod gwyliau
- Dydd Gwener – 4:45yp - 5:45yp
- Dydd Sul – 10yb - 11yb
Pwll Nofio Llanrwst
Yn Ystod y Tymor
- Dydd Sadwrn – 12:45yp - 1:30yp
Yn ystod gwyliau
- Dydd Sadwrn – 12:45yp - 1:30yp
- Dydd Mawrth – 9:30yb - 10:30yb
Cliciwch yma am yr amseroedd diweddaraf, neu fel arall cysylltwch â ni neu ewch i’ch pwll nofio lleol.