Title

Text
cy Cartref Nofio Gweithgareddau-a-Dosbarthiadau-Nofio Lane Sessions and Adult Only Swim Sessions
start content

Sesiynau Nofio mewn Lonydd a Nofio i Oedolion yn Unig

Beth yw Sesiwn Nofio mewn Lonydd?

Nofio mewn lonydd – Sesiwn nofio wedi’i threfnu, gyda lonydd araf, canolig a chyflym sy’n addas ar gyfer gwahanol arddulliau nofio a gwahanol lefelau ffitrwydd – rydym yn caniatáu plant. 

Beth yw Sesiynau Nofio i Oedolion Yn Unig?

Mae’r sesiynau hyn ar gyfer pobl dros 16 oed yn unig ac ni fydd unrhyw blant yn y pwll.  Ni fydd lonydd o reidrwydd, yn dibynnu ar y safle.

 

Gwybodaeth i bob safle:

Canolfan Nofio Llandudno

  • Oedolion – nid oes sesiynau nofio i oedolion yn unig yn cael eu cynnig ar hyn o bryd
  • Nofio mewn Lonydd – Yn gynnar yn y bore mewn lonydd yn unig, hanner lonydd, hanner nofio Conwy.
  • Merched yn unig – Lonydd ac yn ein pwll i deuluoedd sy’n 1 metr o ddyfnder.

 

Canolfan Hamdden Colwyn

  • Oedolion – nid oes sesiynau nofio i oedolion yn unig yn cael eu cynnig ar hyn o bryd
  • Nofio mewn Lonydd – Yn gynnar yn y bore mae’r rhaffau lonydd i gyd i mewn, mae rhai sesiynau yn lôn ddwbl / 2 lôn sengl gyda nofio cyhoeddus, hurio preifat neu wersi nofio ymlaen yn rhan arall y pwll.
  • Merched yn Unig – nid oes sesiynau nofio i ferched yn unig yn cael eu cynnig ar hyn o bryd

 

Canolfan Hamdden Abergele

  • Oedolion – dim lonydd
  • Nofio mewn lonydd – Rhaff i lawr y canol
  • Merched yn unig – Rhaff i lawr y canol

 

Pwll Nofio Llanrwst

  • Rhaffau lôn i mewn ar gyfer – Sesiynau Lonydd, Oedolion a Merched yn unig


Cliciwch yma am yr amseroedd diweddaraf, neu fel arall cysylltwch â ni neu ewch i’ch pwll nofio lleol.

end content
/SiteElements/CSSImages/Colour-Block-Backgrounds/Light-Grey-Squiggle.png