Erobeg Dŵr
Ymarfer corff diogel ac effeithiol sy’n defnyddio’r gwthiant y mae’r dŵr yn ei greu. Defnyddir offer i gynyddu dwyster – addas i bob oed a lefel ffitrwydd. Mae'n rhaid archebu o flaen llaw.
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon wedi nodi manteision erobeg dŵr fel a ganlyn:
- Mae’n ymarfer cardiofasgwlaidd da sy’n cyflymu curiad y galon a’ch anadlu yn raddol, felly mae’n ffordd wych o wella iechyd eich calon.
- Mae’n cryfhau a thynhau’r cyhyrau - mae gwrthiant y dŵr yn gweithio grwpiau cyhyrol gwrthwynebol gyda phob symudiad wrth i chi wthio a thynnu yn ei erbyn.
- Mae’n gwella hyblygrwydd, tra bo’r dŵr yn cynnal y corff sy’n lleihau’r risg o anafiadau i’r cyhyrau a’r cymalau.
- Mae’n ffordd dda o ryddhau straen - mae’r dŵr yn eich tylino a’ch oeri, gan wneud i chi deimlo’n ysgafn a llesol dros ben.
Beth i’w ddisgwyl mewn dosbarth erobeg dŵr
Bydd angen i chi allu cadw eich troed ar waelod y pwll bob amser. Mewn llawer o ddosbarthiadau, nid oes angen i chi allu nofio o gwbl, dim ond symud yn y dŵr, ond dylech wirio gyda’r hyfforddwr os ydych yn poeni.
Bydd dosbarth erobeg dŵr arferol yn cynnwys:
- Ymarfer cynhesu byr i ddod i arfer â’r dŵr ac i baratoi eich cyhyrau am yr ymarferion
- Ymarferion cardiofasgwlaidd i godi curiad eich calon, fel loncian, cicio’r coesau, troi’r corff, ymestyn y breichiau a symudiadau eraill tebyg i ddawnsio
- Ymarferion cydbwyso
- Ymarferion cydsymud
- Ymestyn
- Ymarferion ymlacio ar y diwedd i osgoi anafiadau.
Amseroedd Erobeg Dŵr
Canolfan Nofio Llandudno
- Dydd Mawrth – 12:45yp a 8yp
Canolfan Hamdden Colwyn
Canolfan Hamdden Abergele
- Dydd Llun – 7:00yp
- Dydd Mercher – 12:30yp
- Dydd Iau – 8:15yb
Pwll Nofio Llanrwst
- Dydd Llun – 1yp
- Dydd Mawrth – 5:45yp
- Dydd Mercher - 7yb
- Dydd Iau – 11:30yb
Cliciwch yma am yr amseroedd diweddaraf, neu fel arall cysylltwch â ni neu ewch i’ch pwll nofio lleol.