Digwyddiadau cynhwysiant

Lles wedi’i Addasu
Mae Ffit Conwy yn falch o weithio mewn partneriaeth gyda’r Gwasanaeth Osgo a Symudedd i gefnogi math newydd o ddigwyddiad ar gyfer y rhanbarth. Bydd y Digwyddiad Cynhwysiant hwn yn canolbwyntio ar wasanaethau a datrysiadau sydd ar gael i’r rhai sydd angen addasiad sylweddol i arwain bywydau iach ac actif.
Mae’r Gwasanaeth Osgo a Symudedd yn adain o fewn BIPBC sy’n darparu gwasanaethau cadair olwyn a phrothesis ar gyfer pobl Gogledd Cymru. Bydd staff ar y safle ar y diwrnod i siarad am y gwasanaethau maent yn ei ddarparu a rhoi unrhyw gyngor i’r rhai sy’n chwilio am fwy o wybodaeth am y cadeiriau olwyn gwthio, actif neu â phŵer, yn ogystal â gwahanol fathau o brostheteg sydd ar gael i’r rhai sydd wedi colli eu coesau neu absenoldebau.
Bydd y digwyddiad yn hyrwyddo gwahanol ffyrdd y gellir addasu gweithgareddau i oresgyn rhwystrau mae pobl yn ei wynebu. Gyda gwybodaeth gan arddangoswyr sy’n cynnwys Epilepsy Action Cymru a Remap, cwmni sy’n arbenigo mewn addasu offer i weddu anghenion unigolion, bydd yn gyfle i bobl archwilio sut all fyw gydag addasiadau gefnogi ansawdd bywyd gwell. Bydd elusennau Anableddau Dysgu Cyswllt Conwy a STAND hefyd ar y safle i hyrwyddo cyfleoedd sydd ar gael.
Bydd gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael gyda Ffit Conwy hefyd ar gael gyda staff profiadol ar y safle i roi gwybod am y dewisiadau aelodaeth gwahanol a’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff - gan gynnwys rhaglen beilot newydd wedi’i anelu tuag at bobl ifanc.
Bydd y digwyddiad hefyd yn rhoi cyfle i’r rhai sydd â diddordeb, ddysgu mwy am weithgarwch corfforol wedi’i addasu megis saethyddiaeth, boccia, beicio a phêl-fasged cadair olwyn, a fydd ar gael ar y diwrnod.
Mae’r digwyddiad hwn am ddim a gall fynychwyr dreulio faint bynnag o amser sydd eu hangen arnynt ar y safle. Gellir cofrestru ymlaen llaw gyda’r ddolen ganlynol, a fydd yn galluogi mynychwyr i dderbyn gwybodaeth cyn ac ar ôl y digwyddiad: Lles wedi’i Addasu
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Ffit Conwy ar 0300 456 9525 neu Hamdden.Leisure@conwy.gov.uk