EN

Title

Text
start content

Parc Eirias

Mae Parc Eirias yn lleoliad heb ei debyg yng Ngogledd Cymru, ac mae wedi sefydlu ei hun fel 'stadiwm lleol ar gyfer y gymuned leol', a lle i ysbrydoli.

Datblygiad EIRIAS yw atyniad chwaraeon, hamdden a diwylliannol pennaf Bae Colwyn a Chonwy sydd wedi’i leoli mewn hanner can erw o dir parc prydferth. Mae Canolfan Digwyddiadau Eirias yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf i'r gymuned leol, aelodau'r cyhoedd, trefnwyr digwyddiadau a thimau a chlybiau chwaraeon proffesiynol.

Ers i’r ganolfan agor, mae Parc Eirias wedi croesawu nifer o glybiau proffesiynol i ddefnyddio’r cyfleusterau sydd gennym i’w cynnig. Dyma rai o’r clybiau hynny:

  • Tîm Dan 20 Cymru ac Tîm Dan 20 Lloegr
  • Undeb Rygbi Samoa
  • Undeb Rygbi Tonga
  • St. Helens
  • Wigan Warriors
  • Tîm Pêl-droed Dan 16 Cymru

Mae Parc Eirias yn parhau i ddatblygu a thyfu a hefyd yn cynnal cyngerdd blynyddol Access All Eirias, sydd wedi denu nifer o sêr cerddorol i'r ardal dros y blynyddoedd ac wedi bod yn hwb enfawr i'r economi leol. Ymysg yr artistiaid sydd wedi perfformio yma mae Syr Tom Jones, Pixie Lott, Olly Murs, Elton John a Lionel Richie.

Edrychwch drwy'r adran hon i ddysgu mwy am sut mai Eirias yw'r lleoliad delfrydol ar gyfer eich digwyddiad neu achlysur, o briodasau, i seremonïau gwobrwyo, bydd ein tîm o staff medrus, profiadol yn sicrhau y rhagorir ar eich disgwyliadau bob tro.

 

end content