top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Cartref Canolfan Digwyddiadau Eirias Cyfarfodydd, Cynadleddau a Phriodasau
start content

Cyfarfodydd, Cynadleddau a Phriodasau

Os ydych chi’n chwilio am leoliad a all letya eich parti priodas, parti dyweddïad, digwyddiad corfforaethol, digwyddiad busnes neu gynhadledd, mae Eirias yn cynnig y lleoliad delfrydol. Mae ein lleoliad unigryw yn cynnig diwrnod cofiadwy.

Cyfarfodydd a Chynadleddau

Gall Eirias gynnig detholiad o ystafelloedd i weddu eich anghenion. Gall ein canolfan ddigwyddiadau dan do ddal hyd at 500 o fynychwyr, sy’n ei wneud yn ofod delfrydol ar gyfer cynadleddau mwy, nosweithiau cyflwyno a chyfarfodydd mwy sydd angen gofod seibiant.

Gall ein Lolfa Conwy sydd newydd ei adnewyddu, ddal hyd at 100 o fynychwyr, yn dibynnu ar ddyluniad ystafell sydd ei angen, gyda’r fantais ychwanegol o far trwyddedig. Mae ein bocsys gweithrediaeth bychain sy’n edrych dros gae Parc Eirias yn dal hyd at 30 o fynychwyr ac yn leoliad perffaith ar gyfer cyfarfodydd llai.

Mae gennym amrywiaeth o gyfarpar ar gael, gan gynnwys system PA o’r radd flaenaf, llwyfan, sgrin fawr, gliniadur, teledu, yn ogystal ag amrywiaeth o gynlluniau seddi a gorchuddion bwrdd i roi gorffeniad proffesiynol i’ch digwyddiad.

Mae gennym bartneriaeth wych gyda Porters, sy’n rhedeg y caffi yn adeilad y ganolfan hamdden, a gallwn drefnu dewis bwydlen ginio gynhwysfawr, yn ogystal ag amrywiaeth o becynnau lluniaeth ysgafn trwy gydol y diwrnod.

Os hoffech ragor o wybodaeth neu er mwyn archebu, cysylltwch â ni.

Priodasau

Does fawr ddim yn fwy cyffrous na phwysig na dydd eich priodas. Yn ogystal â chyfleusterau o’r radd flaenaf, mae gennym dîm ymroddgar o staff proffesiynol dros ben a fydd yn gwneud eu gorau glas i roi diwrnod arbennig iawn ichi.

Mae priodas pawb yn unigryw, a gallwn sicrhau y byddwn yn cynnig pecyn wedi’i deilwra yn ôl eich gofynion chi. Mae gennym babell fawr hyfryd sy’n dal hyd at bum cant o bobl, sy’n lle delfrydol ichi a’ch gwesteion fwynhau’r wledd. Fe welwch chi ein bod yn cynnig yr un moethusrwydd ag unrhyw le arall yn yr ardal, gan gynnwys llieiniau gwyn glân ar y byrddau, system sain heb ei hail a goleuadau sy’n rhoi naws braf.

 

end content